Datganiad Cydraddoldeb

Rydym yn ymwybodol o’r ffaith fod gan Music Theatre Wales lawer o waith i’w wneud i gyflawni cydraddoldeb ar draws ein gwaith: y bobl sy’n ffurfio’r cwmni, yr artistiaid rydym yn gweithio gyda hwy, a’r cynulleidfaoedd rydym yn eu cyrraedd.

Rydym yn cydnabod ein bod wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol, ac wedi ceisio bod mor agored ag y gallwn ynghylch y mater hwn. Rydym wedi ymdrechu i wrando ac i ddysgu, ond gwyddom nad yw hyn yn ddigon. Rydym wedi cadw’n dawel lle dylem fod wedi siarad, ac rydym wedi methu newid ein sefydliad.

Rydym yn gweithredu i fynd i’r afael â’n diffygion, ac i wneud newidiadau go iawn o fewn y cwmni a’r gwaith rydym yn ei gynhyrchu. Bydd y newidiadau rydym yn eu gwneud yn fuddiol i gynulleidfaoedd, yn cynnwys y rhai nad ydynt eto’n gyfarwydd â ni; i’r artistiaid rydym yn gweithio gyda hwy; ac i Music Theatre Wales a’r sector opera ehangach.

Ein cynllun

  • Llywodraethiant: Byddwn yn newid y modd mae’r Bwrdd yn cael ei lunio er mwyn cyflawni gwell amrywiaeth, yn cynnwys rhywedd, cenedl, anabledd, hunaniaeth ac iaith, gan sicrhau bod y cwmni nid yn unig yn cynrychioli’r gymdeithas rydym yn gweithredu ynddi, ond hefyd yn cynnwys y drafodaeth ehangaf a mwyaf cadarn ynghylch pob agwedd o’n gwaith.
  • Cyfranogiad ac Ymglymiad: Byddwn yn sicrhau bod y bobl rydyn ni’n gweithio gyda hwy yn dod o gefndiroedd amrywiol.
  • Perfformiadau Byw: Bydd ein gwaith yn y dyfodol yn cynnwys comisiynau a gwaith perfformio yn deillio o gasgliad cynyddol amrywiol o artistiaid. I’n helpu i wireddu hyn, byddwn yn datblygu rhaglenni newydd gyda’r nod penodol o gynnwys artistiaid sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ym myd opera, gan newid y gwaith rydym yn ei greu yn awr a’r modd y bydd opera’n cael ei chreu yn y dyfodol.

Sut byddwn ni’n gweithredu?

  • Recriwtio ar gyfer y Bwrdd: Rydym yn gweithio gyda sefydliadau allanol i’n helpu i fynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth eang ar ein Bwrdd.
  • Ein gwaith: Ym mis Awst 2020, lansiwyd Cyfeiriadau Newydd/New Directions – rhaglen wedi’i hanelu at ddatblygu ein hymrwymiad gydag artistiaid amrywiol. Bydd cam cyntaf Cyfeiriadau Newydd yn canolbwyntio ar weithio gydag artistiaid Du, Asiaidd, ac o Ethnigrwydd Amrywiol. Gan ddod mewn cyfnod lle na allwn greu perfformiadau byw, bydd y gweithiau newydd hyn yn cael eu paratoi i’w cyflwyno’n ddigidol. Erbyn mis Awst 2021, byddwn yn comisiynu a chyflwyno tri darn newydd o waith gan artistiaid nad ydynt yn wyn eu croen. Bydd y rhaglen hon yn:
    • archwilio posibiliadau theatr gerddoriaeth newydd ac opera newydd
    • cyfrannu at esblygiad MTW a’n gwaith
    • cefnogi, a chael ein harwain gan, weledigaeth ac uchelgais yr artistiaid a gomisiynir
    • creu gwaith newydd ar gyfer cynulleidfaoedd mwy amrywiol
  • Y Gweithlu: Rydym wedi penodi Elayce Ismail i swydd newydd, sef Cysylltai Artistig i arwain Cyfeiriadau Newydd/New Directions.

27.8.20