Music. Theatre. Wales. Adlewyrchiad ar ein blwyddyn a chipolwg ymlaen i 2024.

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, ro’n i’n awyddus i rannu’n blwyddyn gyda chi – cyfnod lle buom yn gweithio mewn amryw o ffurfiau gwahanol, a gyda’r ystod ehangaf posibl o bobl greadigol, gan gwmpasu perfformiadau byw, gweithiau digidol, pobl ifanc greadigol a chelfyddyd stryd. Ac nid dyna ddiwedd y stori. Ar hyn o bryd mae gennym saith darn mewn comisiwn, a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol – felly dyma ein crynodeb ni o’n 2023:

Anrhydeddau a Gwobrau

Ym mis Tachwedd roeddem wrth ein bodd yn gweld bod ein cyd-gomisiwn gydag Opera Philadelphia – Denis & Katya gan Philip Venables a Ted Huffman – bellach ymhlith 10 Uchaf yr operâu cyfoes a berfformir amlaf yn fyd-eang. Wrth estyn ein llongyfarchiadau diffuant i Phil a Ted, rydym wrth ein bodd bod y gwaith hynod wreiddiol hwn yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Llwyddodd ein cynhyrchiad 2022 – cyd-gynhyrchiad gyda Britten Pears Arts/Gŵyl Aldeburgh a’r London Sinfonietta, sef Violet gan Tom Coult ac Alice Birch – i barhau i ennill clod gyda dau enwebiad pwysig pellach yn ystod 2023: Gwobrau’r South Bank Sky Arts a’r Classical IVORS (yn dilyn y Gwobrau UK Theatre a’r Gwobrau Rhyngwladol am Opera yn 2022). A phleser mawr i ni oedd gweld Tom Coult yn derbyn Gwobr y Critics’ Circle am y Cyfansoddwr Ifanc Gorau, gyda chyfeiriad arbennig at Violet. Mae opera Tom eisoes wedi derbyn dau gynhyrchiad newydd – un yn yr Almaen yn 2022 a’r llall yn Ffrainc yn 2023 (a gaiff ei adfywio yn ystod 2024).

Cawsom hefyd gysylltiad anghyffredin gyda Jon Fosse, oedd newydd gael ei anrhydeddu fel y Nobel Laureate for Literature. Fel cyfarwyddwr stiwdio opera gyfoes Norwy, roeddwn i wedi cefnogi datblygiad yr unig opera oedd yn seiliedig ar un o ddramâu Jon Fosse – Someone is Going to Come – ac roeddwn y gyrifol am gyfarwyddo’r cynhyrchiad premiere byd. Gobeithiwn y bydd yr opera, o waith y cyfansoddwr Knut Vaage, bellach yn cael mwy o sylw, er nad ydym ni wedi gallu ei pherfformio ein hunain.

Gwaith Perfformio

Dechreuodd y flwyddyn gyda chyd-gynhyrchiad gyda Fio o The Jollof House Party Opera gan Tumi Williams a Sita Thomas – opera a phrofiad bwyta llawen, byr a hip-hop y buom yn ei rannu gyda chynulleidfaoedd mewn canolfannau cymunedol yn Wrecsam, Hwlffordd a Chaerdydd. Dangosodd y darn hwn y potensial anferth sydd i ehangu sail cerddorol a diwylliannol yr hyn y gellid ei ddychmygu fel opera.

Yn ystod yr haf buom yn lansio ffurf operatig newydd arall ar gyfer Cymru – OPERA CELFYDDYD STRYD – oedd yn cynnwys gweithdy rhagarweiniol yn cael ei ddilyn gan alwad agored i artistiaid Cymreig i gyflwyno cynigion am Operâu Celfyddyd Stryd ar gyfer y dyfodol. Roedd adborth y cynulleidfaoedd a dderbyniwyd gennym yn dilyn y cyflwyniadau ym Mangor, Hwlffordd a Chaerdydd yn hynod o frwdfrydig, yn cynnwys ymateb grŵp o sglefrfyrddwyr yn Spit & Sawdust, Caerdydd, lle roeddem yn dangos The Scorched Earth Trilogy; ymatebodd y grŵp mewn anghrediniaeth lwyr pan gynigion ni glustffonau iddyn nhw – ond ar y diwedd daethant i chwilio amdanaf i ddiolch ar ôl gwylio’r cyfan o’r tair pennod. Moment arbennig iawn! Roedd yr ymateb i’r Alwad Agored yn arbennig, a derbyniwyd 26 o gynigion anhygoel – bron y cyfan ohonynt gan artistiaid sy’n newydd i fyd yr opera ac i MTW. Mae’n flin iawn gennym na allwn gomisiynu dim ond dau ddarn ar gyfer 2024.

Wrth i’r flwyddyn dynnu at ei therfyn, rydym yn cyflwyno ail Opera Ddigidol Future Directions – Perthyn (To Belong) – ar ein gwefan, yn dilyn perfformiad premiere mewn sinema ar gyfer y cyfan o’r tîm creadigol o bobl ifanc a’r pedwar hwylusydd creadigol (y cyfansoddwr Mari Mathias, y dramatwrg Jain Boon, y gwneuthurwr ffilmiau Gavin Porter a’r gantores opera Llio Evans). Future Directions yw ein rhaglen ar gyfer pobl ifanc, yn cynnwys rhai a chanddynt anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, a phobl ifanc niwroamrywiol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Hijinx. Rydym yn hynod falch o gyflwyno’r opera ddigidol ddwyieithog a grëwyd ganddynt yn ystod 2023 – sef Perthyn – fel cynhyrchiad Music Theatre Wales.

Comisiynau

Ym mis Chwefror 2024 byddwn yn rhyddhau’r ddau ddarn digidol byr nesaf a gomisiynwyd gan bobl greadigol anhygoel, a’r cyfan ohonynt yn newydd i fyd opera – Francesca Amewudah-Rivers a Connor Allen, a Simmy Singh a Myah Jeffers. Fel yn achos ein darnau digidol cynharach, rydym yn fwriadol yn gofyn beth yw opera a beth y gall fod, gan roi adrodd stori trwy gerddoriaeth wrth galon y gwaith ond yn torri’r holl reolau eraill sy’n berthnasol i arddull y gerddoriaeth, y stori a adroddir, y ffurf a’r fformat, ac yn fwyaf pwysig pwy sy’n ei chreu. Rydym yn gwneud hyn trwy fynd ati’n fwriadol i ddewis artistiaid sydd eisoes yn amlwg yn archwilio adrodd stori trwy gerddoriaeth, ond na fyddai ganddynt fel arfer fynediad at yr hyn y byddem ni’n ei alw’n opera. Credwn mai dyma’r ffordd fwyaf cyffrous o symud ein hoff ffurf ar gelfyddyd yn ei blaen, a sicrhau ei bod yn ymwneud â’r hyn yr ydym ni yn awr, ac nid â’r hyn oeddem ni yn y gorffennol.

Ym mis Awst 2024 byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol, Canolfan Gerdd Aberystwyth a Sinfonia Cymru ar greu digwyddiad theatr gerddoriaeth arloesol arall: perfformiad yn yr iaith Gymraeg yn cynnwys monodrama operatig sydd newydd ei chyfansoddi ar gyfer llais tenor a phump o offerynwyr, gan y cyfansoddwr Conor Mitchell a’r cyfarwyddwr/ dramatwrg Jac Ifan Moore. Perfformir y gwaith hwn ochr yn ochr â darn newydd ei greu gan Eddie Ladd, a fydd yn cyflwyno ei dehongliad hi o’r gerdd wreiddiol Atgof gan Prosser Rhys. Mae’r rhaglen hon wedi ei seilio ar ganmlwyddiant yr achlysur pan enillodd y gerdd Atgof y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924, a’r effaith a gafodd yr ymateb i’r gerdd ar Prosser Rhys ei hun. Bydd y cynhyrchiad yn teithio yng Nghymru yn yr hydref 2024.

Hefyd yn 2024 byddwn yn cyflwyno’r Operâu Celfyddyd Stryd sydd newydd gael eu comisiynu, a hynny ar adeg ac mewn lleoliad sydd eto i’w cadarnhau. Y cyfan y gallwn ei ddweud ar hyn o bryd yw ein bod yn aros yn llawn cyffro i weld y creadigaethau hyn yn dod yn fyw ar furiau yng Nghymru – yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg fel celfyddyd stryd, fel operâu, fel animeiddiadau, fel adrodd straeon mewn cerddoriaeth, ac fel opera ymgyrchedd.

Datblygiad y Cwmni

Pleser oedd cael ein cynnwys yn y portffolio newydd a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn eu Hadolygiad Buddsoddi, gan dderbyn cyllid segur. Er ein bod yn cydnabod bod eu penderfyniad yn ddilysiad pwerus o weledigaeth a chenhadaeth newydd MTW, a’n bod yn byw mewn cyfnod anodd, rydym am ei gwneud yn glir y byddwn – erbyn i ni gyrraedd diwedd y cyfnod ariannu hwn – wedi derbyn cyllid segur am 10 mlynedd. Rhowch wybod i ni os credwch y byddai modd i chi ein helpu i bontio’r bwlch ariannu sy’n tyfu’n gyson, a’n helpu i gyflenwi’n gweledigaeth.

Roeddem hefyd yn hapus iawn o gael dod yn aelod o Black Lives in Music wrth i ni barhau i chwilio am gyngor a chymorth i’n helpu i ddatblygu ein gwaith i gyflenwi gwell cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd yn help mawr i ni gael rhywle lle gallwn wirio ein ffordd o feddwl a rhannu syniadau; a bydd cael partner sy’n dod â llu o fewnwelediadau a phrofiadau – a gychwynnwyd gan sesiwn a gyflwynwyd gan eu Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Roger Wilson – yn werthfawr iawn i ni. Edrychwn ymlaen at weithio gyda BLiM dros y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau strwythurol sy’n wynebu artistiaid a gweithwyr Du yn y diwydiannau cerddoriaeth a’n maes arbennig ni, sef opera.

Rwyf wrth fy modd yn cael parhau i weithio gyda’r Cysylltai Artistig Elayce Ismail – mae ei harbenigedd, ei gwybodaeth a’i mewnwelediad yn cyfrannu cymaint i’r cwmni. Gwych hefyd oedd gweld ei phartneriaeth greadigol gyda’r cyfansoddwr Alex Ho (ni oedd wedi cyflwyno Elayce ac Alex i’w gilydd, a’u gwahodd i gydweithredu ar ein darn digidol cyntaf, AMAZON, yn 2020) yn parhau eleni gyda chylch caneuon newydd ar gyfer yr Oxford Song Festival, gyda hanes gafaelgar yn adlewyrchu ar y niwed rydym yn ei wneud i’n planed, a’r modd cwbl anhygoel y gallai eto lwyddo i oroesi trychineb.

Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Kathryn Joyce atom fel Rheolwr Cyffredinol yn ystod 2023 – mewn da bryd i’n helpu i gyflwyno ein cais llwyddiannus i Adolygiad Buddsoddi 2023 – ac yn ddiweddarach ymunodd Catrin Slater â ni fel swyddog codi arian. Fodd bynnag, trist yw gorfod ffarwelio â’n Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata gwych, Rachel Kinchin, ar ddiwedd y flwyddyn, wrth iddi hi adael i fwrw ’mlaen gyda’i phrosiectau creadigol a chymdeithasol, a’i hymchwil ei hun.

Ac i gloi, ym mis Rhagfyr 2023 bydd ein Cadeirydd, Christine Bradwell, yn trosglwyddo’r awenau i’r Darpar Gadeirydd, Kerry Skidmore. Hoffwn ddatgan fy niolch diffuant i Christine am helpu i arwain y cwmni drwy ddyfroedd pur dymhestlog, yn cynnwys Covid 19 ac adolygiad, ac ail-luniad radical o’r cwmni a’i waith. Ei chefnogaeth ddiwyro, ei harweiniad a’i hanogaeth yw’r graig rwyf wedi sefyll arni dros y 6 blynedd ddiwethaf. Ac yn awr rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Kerry, sy’n dod atom â’r fath brofiad cyfoethog o weithio gyda phobl ifanc yn Peckham a gyda Multistory. Dim ond megis dechrau mae ein datblygiad creadigol ni!

Michael McCarthy, Cyfarwyddwr MTW