Denis & Katya i fod yn rhan o ddigwyddiad Opera Philadelphia, Digital Festival O

Mae Music Theatre Wales yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Denis & Katya, y gwaith newydd a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd gennym ni ar y cyd ag Opera Philadelphia ac Opéra Orchestre National Montpellier (ac a berfformiwyd gan MTW yng Nghymru a Llundain yn 2020 cyn y cyfnod o ynysu oherwydd COVID-19), yn cael ei ffrydio i gynulleidfaoedd yng Ngogledd America rhwng 1–8 Mai. Bydd y ffrydio hwn yn lansio cyfres ddigidol newydd, dan y teitl Digital Festival O, a gyflwynir gan Opera Philadelphia mewn ymateb i bandemig y COVID-19.

Gan archwilio goblygiadau’r stori drasig am ddau gariad yn eu harddegau y daeth eu bywydau i ben yn ddisymwth ar ôl iddynt ddechrau ffrydio o’u cuddfan, dangosodd Denis & Katya nid yn unig fod opera’n gallu ymateb i ddigwyddiadau a phroblemau sy’n effeithio ar fywyd pob un ohonom, ond hefyd yn dangos ffordd newydd o feddwl am opera ei hun.

Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant digamsyniol i Music Theatre Wales – cafwyd adolygiad 5-seren yn The Stage (“this haunting, powerful rumination on tragic real-life events”), yn Broadwayworld (“Always ahead of the game, the ever-enterprising Music Theatre Wales have shown us how it’s done here”), ac adolygiadau 4-seren ym mhapurau newydd y Telegraph, y Times a’r Guardian.

Yn anffodus, bu raid torri taith Denis & Katya yn y DU yn fyr oherwydd y cyfyngiadau a ddaeth i rym yn sgil COVID-19.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig MTW: “Rydym yn hynod falch o’r ffaith fod Denis & Katya wedi profi i fod yn waith sy’n torri tir newydd – o ran y dewis o bwnc a’r modd yr aethpwyd ati i ymdrin ag e. Rydym yn llongyfarch ein partneriaid yn Philadelphia ar rannu’r gwaith pwysig hwn ar-lein, ac yn parchu’r ffaith bod cynulleidfaoedd yn Ewrop yn cael eu gofyn i aros i’w weld yn fyw ar y llwyfan cyn gynted ag y bydd y cyfle’n codi.”

Dywedodd David B. Devan, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Llywydd Opera Philadelphia: “Mae’r ymbellhau cymdeithasol digynsail a ddaeth i rym yn sgil pandemig y COVID-19 wedi ysgogi cymuned y celfyddydau perfformio, gan arwain at sefydlu cronfeydd hael i gefnogi artistiaid, a mynegiant o greadigrwydd ar-lein wrth i bawb ohonom lywio’n ffordd drwy’r cyfnod heriol hwn yn ein hanes; edrychwn ymlaen at ddod at ein gilydd unwaith eto i gyd-fwynhau cerddoriaeth a chelfyddyd.”