Denis & Katya yn ennill Gwobr Fedora Generali am Opera

Mae Music Theatre Wales yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth ryngwladol sydd wedi ennill Gwobr Fedora am Opera am eu cyd-gynhyrchiad gydag Opera Philadelphia ac Opéra Orchestre National Montpellier o Denis & Katya gan Philip Venables a Ted Huffman.

Dyfernir y Wobr am waith eithriadol ac arloesol a grewyd trwy gyd-gynhyrchiad rhyngwladol. Cyhoeddwyd enw’r enillydd nos Wener yn Noson Cyflwyno Gwobr Fedora yn y Teatro La Fenice, Venice. Roedd Music Theatre Wales yn un o ddim ond dau sefydliad yn y DU a enwebwyd ar gyfer y Wobr, sy’n talu teyrnged i greadigedd ac arloesedd ym maes opera, a chefnogi rhagoriaeth artistig gyda’r nod o helpu i siapio dyfodol y gelfyddyd hon. Roedd opera arall gan Music Theatre Wales, sef Violet gan Tom Coult ac Alice Birch, hefyd ar y rhestr fer.

Philip Venables and Tedd Huffman Photo by Dominic M. Mercier for Opera Philadelphia.

Mae’r opera arobryn, Denis & Katya, yn gyd-gynhyrchiad a arweiniwyd gan Opera Philadelphia ynghyd â Music Theatre Wales ac Opéra Orchestre National Montpellier; mae’n waith newydd sy’n edrych ar yr ymateb syfrdanol a gafwyd i’r hyn a ddigwyddodd i Denis Muravyov a Katya Vlasova, dau gariad ifanc o Rwsia a redodd i ffwrdd.  Gan blethu testun gair-am-air, fideo, cerddoriaeth a theatr, mae Denis & Katya yn archwilio sut mae straeon yn cael eu llunio a’u rhannu yn y cyfnod hwn lle ceir trolls, damcaniaethau am gynllwynio, newyddion ffug, a chysylltiad digidol ar bob awr o’r dydd a’r nos. Wedi ei sgorio ar gyfer dim ond dau lais a phedwar soddgrwth, mae hwn yn waith sy’n anelu at ailysgrifennu’r holl reolau er mwyn adrodd y stori gyfoes a gwir hon am gariad gwaharddedig sy’n diweddu mewn trasiedi.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformiad cyntaf gydag Opera Philadelphia ym mis Medi eleni fel rhan o’u Gŵyl OP19, lle bydd y perfformiadau’n cael eu rhannu gan gast o America a Music Theatre Wales (Emily Edmonds a Johnny Herford). Yn dilyn yr agoriad yn yr UD, perfformir y cynhyrchiad ledled Cymru a Lloegr gan Music Theatre Wales yn Chwefror a Mawrth 2020, cyn symud ymlaen i Montpellier. Perfformir y cynhyrchiad yn y DU ar y cyd â’r London Sinfonietta. Bydd y mezzo soprano Emily Edmonds yn ymddangos gyda Music Theatre Wales am y tro cyntaf, tra bod y bariton Johnny Herford eisoes wedi ymddangos gyda’r cwmni yn The Trial (hefyd ar CD), The Golden Dragon a Passion.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales:

“Cyn gynted ag y gwelais i 4.48 Psychosis gan Philip Venables, roedd yn amlwg ei fod e’n un oedd yn creu opera gwbl wreiddiol, felly roeddwn wrth fy modd pan gyflwynodd Philip a Ted Huffman (cyfarwyddwr 4.48 ac awdur/cyfarwyddwr Denis & Katya) eu syniad am y darn newydd hwn. Mae Denis & Katya yn ymwneud â’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn yr oes sydd ohoni, drwy ein sgriniau a’r cyfryngau cymdeithasol, gan archwilio goblygiadau’r gweithredoedd hyn a’r rhan rydyn ni’n ei chwarae mewn straeon a allai fod yn drasig. Eisoes, mae gwneud y gwaith yma law yn llaw gydag Opera Philadelphia wedi rhoi boddhad mawr, ac mae’n wych bod ein gwaith a’n cydweithio wedi derbyn y fath ganmoliaeth a’i gydnabod yn y dull hwn.”

Bydd taith Music Theatre Wales o Denis & Katya yn y DU yn agor yn theatr Glan yr Afon, Casnewydd ar 27 Chwefror 2020, cyn teithio i Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, Theatr Lawrence Batley yn Huddersfield, yr Haymarket Basingstoke, a’r Purcell Room yng Nghanolfan y South Bank, Llundain.


CYSWLLT Y WASG:

Y Deyrnas Unedig a Chymru:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

Music Theatre Wales

http://musictheatre.wales

Music Theatre Wales, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r prif gwmni opera cyfoes yn y DU. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu crewyr opera’r dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes gorau yn y byd – yn cynnwys Pascal Dusapin, Philip Glass, Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Stuart MacRae, Peter Eötvös, a Philippe Boesmans – mae’r cwmni’n dod ag opera newydd a bywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.