Cyhoeddwyd ar 04/10/18

Gan Music Theatre Wales

 

Gwersi mewn amrywiaeth a chynhwysiant - Y stori hyd yma

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers dechrau’r protestiadau yn erbyn ein cynhyrchiad o The Golden Dragon, felly mae’n amser da i adlewyrchu ar sut y mae Music Theatre Wales a’r sector opera ehangach wedi ymateb i’r materion a godwyd bryd hynny o gwmpas amrywiaeth mewn opera yn y DU.

Llwyddodd y brotest bwerus a didwyll yn erbyn The Golden Dragon i agor ein llygaid i bersbectif nad oeddem wedi ei ystyried cyn hynny. Roedd hwn yn brofiad heriol, a gwyddem fod angen i ni wrando’n ofalus ar y dadleuon a gyflwynwyd, a gwneud ein gorau i ddysgu ac i newid.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ymestyn ein proses o ddysgu, ac rydym yn parhau i gymryd rhan mor aml ag sy’n bosibl mewn trafodaethau allweddol ac archwiliol ym maes cynhwysiant, yn cynnwys chwilio am gyfleoedd ar gyfer menywod sy’n gyfansoddwyr ac yn weithwyr creadigol (mater holl bwysig arall ym maes opera a cherddoriaeth glasurol) yn ogystal ag ar gyfer artistiaid a staff BAME. Gobeithiwn y bydd ein parodrwydd i rannu ein profiadau nid yn unig yn galluogi eraill i ddysgu gyda ni, ond y bydd hefyd yn agor y drafodaeth mewn modd cydlynol ac anwrthdrawiadol.

Ar hyn o bryd, mae ein gweithgaredd yn MTW yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r Stiwdio Opera Genedlaethol, a chymryd rhan mewn sesiwn diweddar – Devoted and Disgruntled – ynghylch amrywiaeth mewn opera. Cawsom gyfle i fynychu hyfforddiant Cyngor Celfyddydau Cymru ar fater amrywiaeth, a gynigiwyd trwy eu rhaglen Gwytnwch, ac rydym wedi comisiynu hyfforddiant wedi’i deilwrio’n arbennig ar gyfer y staff a’r Bwrdd er mwyn adeiladu dealltwriaeth ac arfer dda i mewn i bob elfen o’n gwaith. Rydym hefyd yn mynychu llawer o’r nifer cynyddol o ddyddiau trafod amrywiaeth sy’n cael eu trefnu ledled y DU. Yn nhermau ein gweithgareddau ni’n hunain, rydym wedi cyflogi ymgynghorydd castio sydd â gwybodaeth arbenigol o gantorion BAME yn y DU, ac rydym yn mynd ati’n benodol i ymchwilio i ragor o artistiaid BAME, yn cynnwys cyfansoddwyr.

Gwyddom fod gan y sector opera a cherddoriaeth glasurol ffordd bell i fynd os am gyflawni cynhwysiant go iawn, a chredwn yn gryf fod raid i gynnydd mewn ymwybyddiaeth gael ei ddilyn gan weithredu ar y cyd. I’r perwyl hwn rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r London Sinfonietta i ddatblygu rhaglen fydd yn cefnogi creu gweithiau newydd gan artistiaid na fyddent fel arfer yn cysylltu eu hunain ag opera neu theatr gerdd, ond a fyddai efallai’n dymuno gwneud hynny petai’r maes yn fwy hygyrch iddynt.

Cawsom ein heffeithio i’r byw gan ein profiadau gyda The Golden Dragon, gan sylweddoli nad oedd gennym unrhyw brosesau mewn llaw fyddai wedi ein galluogi i gwestiynu dewis y gwaith hwn, na’r dasg o greu a chastio’r cynhyrchiad – ac roedd hyn yn amlwg yn ddiffyg ar ein rhan. Wrth ddewis The Golden Dragon, teimlem yn gyffrous fod ganddo’r potensial i siarad â chynulleidfa eang am broblem real iawn yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw, ac aethom ati i ddelio â’r neges hon mewn ysbryd o ddidwylledd a brwdfrydedd. Ochr yn ochr â’r cynhyrchiad, aethom ati i drefnu tri phrosiect Gwneud Aria a oedd yn archwilio themâu’r opera. Cynhaliwyd y cyntaf yng Nghaerdydd, gyda chydweithrediad Cyngor Ffoaduriaid Cymru a roddodd i ni nid yn unig gyd-destun clir ar gyfer y prosiect yng Nghymru, ond a ddaeth hefyd â dau awdur BAME i’r prosiect, a cherddor-storïwr a wahoddwyd gennym i berfformio yn y dosbarth meistr cyhoeddus. Roedd yr ail brosiect ym Manceinion yn cynnwys y grŵp mwyaf amrywiol erioed hyd yn hyn o gyfansoddwyr ac awduron; roedd y themâu a archwiliwyd yn eu arias hwy yn hynod dreiddgar a phersonol, ac yn cyfeirio at fewnfudo, hunaniaeth a diffyg statws. Cynhaliwyd y prosiect olaf ym Mangor yn ystod taith The Golden Dragon, ac yng nghanol yr argyfwng, ac ar ei gyfer dewiswyd y thema Dadleoliad ac Arwahanrwydd. Hwn oedd ein prosiect dwyieithog cyntaf (mater arall o ran cynhwysiant yma yng Nghymru) ac unwaith eto daethpwyd â themâu cymdeithasol a phersonol cryf a chyfoes i amlygrwydd.

Mae ein cynhyrchiad cyfredol, Passion, hefyd wedi cyflwyno her ddiddorol wrth i’r cyfansoddwr o Ffrancwr, Pascal Dusapin, gynnwys yr Oud Arabaidd – sy’n offeryn dieithr i ni yn y gorllewin – yn y sgôr. Mae’r sain newydd a gyflwynir i’r darn gan yr offeryn hwn fel petai’n cynrychioli’r foment pan mai’r gerddoriaeth yw’r unig ddull o fynegiant sydd ar ôl – moment o gerddoriaeth bur sy’n fynegiant i’r enaid. Mae cwestiynu’r defnydd o’r Oud yn y sgôr yma’n arwain at nifer o gwestiynau eraill ynghylch y defnydd o offerynnau a thechnegau nad ydynt yn perthyn i’r gorllewin yn y traddodiad cerddoriaeth glasurol Gorllewinol. Ni allwn ateb y cwestiynau hynny, ond gallwn fynd i’r afael â’r broblem mae’n rhaid i ni ei hwynebu gyda Passion – a’n penderfyniad oedd mai’r unig ffordd o groesawu’r amrywiaeth mae’n ei awgrymu yw gwneud yr union beth yna. Rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gyda chwaraewr Oud sy’n hanu o Syria, ac mae’n ymhyfrydu yn y cyfle i chwarae yn y cynhyrchiad hwn ochr yn ochr â’r London Sinfonietta. Credwn fod hyn yn ffordd o ddylanwadu o’r newydd ar y cynhyrchiad ac ar bawb sy’n rhan ohono – a phwy a ŵyr i ble fydd hyn yn arwain.

Rydym hefyd yn dechrau trafod y posibilrwydd o sefydlu Grŵp Cynghori Rhaglenni a fydd yn ymuno â ni i archwilio’r materion ynghlwm â’n dewisiadau o raglenni, ac yn galluogi’r cwmni i agor y drws i bwll ehangach o syniadau a safbwyntiau, yn enwedig ym maes hunaniaeth ddiwylliannol.

Rydym yn gwahodd cyfansoddwyr, awduron ac artistiaid eraill i’n pryfocio a’n herio er mwyn ein helpu i newid y modd y mae theatr gerdd yn cael ei chreu fel ei bod nid yn unig yn datblygu i fod yn fwy cynrychioladol, ond hefyd yn ymestyn allan i gynulleidfaoedd gyda gwaith sy’n creu profiad emosiynol pwerus ac ystyrlon. Ffaith holl bwysig yw ein bod hefyd yn gwahodd sylwadau a chefnogaeth feirniadol o’r tu hwnt i’n cylchoedd ni’n hunain, fel bod modd i ni ddechrau mewn gwirionedd ar y broses o ddatblygu dealltwriaeth, ymgysylltiad a chynhwysiant.

Ni all Music Theatre Wales siarad ar ran gweddill y sector opera a cherddoriaeth glasurol, ond gobeithiwn ein bod yn cyfrannu at y drafodaeth ehangaf bosibl ynghylch sut mae ein sectorau nid yn unig yn dechrau newid ein ffordd ni o feddwl, ond hefyd sut y gallwn sbarduno newid ehangach. Yn ddiweddarach eleni bydd yr ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd gan y Stiwdio Opera Genedlaethol yn cael ei rhannu, ac edrychwn ymlaen at glywed y manylion. Mae’n ysbrydoliaeth hefyd i weld yr LSO yn sefydlu ei academi gerdd ei hun yn nwyrain Llundain, tra bod Cwmni Opera Birmingham wedi bod yn esiampl i ni i gyd ers tro, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n awyddus i wreiddio cwmni opera o fewn rhyw leoliad arbennig. Mae yna enghreifftiau eraill, ond mae’n amlwg fod gennym oll gyfrifoldeb i ysbrydoli’r hen a’r ifanc i ddewis cymryd rhan mewn cerddoriaeth glasurol yn ei holl ffurfiau.

Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i greu a theithio gwaith newydd, mae angen i ni edrych ymlaen i’r dyfodol. Mae’n bosibl y bydd y materion llosg rydym yn mynd i’r afael â hwy ar hyn o bryd yn allweddol i’r modd y bydd ein ffurf gelfyddydol yn esblygu.