Mae cynhyrchiad MTW o VIOLET wedi ei enwebu ar gyfer Gwobrau’r Southbank Sky Arts

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Violet wedi ei henwebu ar gyfer y wobr Opera yng Ngwobrau’r Southbank Sky Arts 2023.

A Violet wedi derbyn canmoliaeth fel “Yr Opera Newydd Brydeinig Orau ers Blynyddoedd” gydag adolygiadau 5*, mae hyn yn dilyn enwebiadau a gafwyd eisoes ar gyfer Violet yn yr UK Theatre Awards – Outstanding Achievement in Opera, a’r International Opera Awards – World Premiere (yr unig gwmni yn y DU i gael ei enwebu), a Tom Coult yn derbyn gwobr y Critics’ Circle am Dalent Ifanc – Cyfansoddwr (gan nodi Violet). Cafodd perfformiad Anna Dennis fel y prif gymeriad hefyd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid pan enillodd hi Wobr y Canwr yng ngwobrau’r Royal Philharmonic.

Cyfansoddwyd VIOLET gan Tom Coult gyda’r testun gan Alice Birch; cafodd y cynhyrchiad ei arwain gan Andrew Gourlay, ei gyfarwyddo gan Jude Christian a’i gynllunio gan Rosie Elnile. Roedd yn gyd-gomisiwn a chyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts, a llwyfannwyd y cynhyrchiad ar y cyd â’r London Sinfonietta.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Music Theatre Wales: “Mae’n brofiad cyffrous iawn i weld effaith y darn hyfryd a phwerus hwn, a ddychmygwyd ac a luniwyd mor ardderchog gan Tom Coult ac Alice Birch, ei berfformio yn arddull wych MTW gan gast eithriadol, a’i chwarae â’r fath sgìl ac ymroddiad gan y London Sinfonietta. Roedd gweld y gwaith yn dod yn fyw ar y llwyfan mewn cynhyrchiad mor dwymgalon – ar ôl y cyfnod anodd yn 2020 pan oedd i fod i gael ei berfformio’n wreiddiol – yn rhoi cyfle delfrydol i ni ddathlu penblwydd y cwmni’n 40 oed yn Theatr y Sherman lle dechreuodd ein taith, ar ôl agor un o brif wyliau cerddoriaeth Ewrop, Gŵyl Aldeburgh, gan ddilyn ôl troed Benjamin Britten. Mae’r gydnabyddiaeth mae’r gwaith hwn bellach yn ei derbyn yn rhywbeth mae pawb oedd ynghlwm ag ef yn gwbl haeddiannol ohono.”

Ac ar 23 Mehefin, bydd y 3ydd cynhyrchiad o VIOLET yn cael ei berfformio ym Mharis, yn dilyn y premiere Ewropeaidd yn Ulm yr hydref diwethaf.

Yn y cyfamser, mae taith MTW i feysydd newydd yn parhau gyda’n Operâu Celfyddyd Stryd yng Nghaerdydd yr wythnos hon – cafwyd noson gwbl hudol neithiwr.

Mae Music Theatre Wales a’r cyd-gynhyrchwyr Britten Pears Arts yn rhannu enwebiadau gydag English National Opera am The Rhinegold a gydag Opera Cenedlaethol Cymru am The Makropulos Affair.

Y Southbank Sky Arts Awards yw’r unig seremoni wobrwyo sy’n dathlu pob genre o’r celfyddydau – Dawns, Theatr, Pop, Drama Deledu, Ffilm, Cerddoriaeth Glasurol, Llenyddiaeth, Opera, Comedi a’r Celfyddydau Gweledol – a chaiff ei darlledu ar sianel Sky Arts ar 5 Goffennaf.

Gellir gweld y Datganiad i’r Wasg llawn o Sky Arts yma:

www.skygroup.sky/en-gb/article/a-summer-celebration-of-the-arts-commences-as-nominees-are-announced-for-the-27th-south-bank-sky-arts-awards