MUSIC. THEATRE. WALES. yn yr IVORS

Mae Violet gan Tom Coult ac Alice Birch wedi derbyn y pedwerydd enwebiad mewn cystadleuaeth o bwys, ac enwebwyd The Scorched Earth Trilogy gan Brian Irvine hefyd ar gyfer y Gwaith Gorau i’r Llwyfan.

Am yr ail dro ers 2020, pan enillodd Denis & Katya – comisiwn gan MTW– wobr IVOR am y Gwaith Gorau i’r Llwyfan, mae MTW yn ôl yn yr IVORS gyda gwaith comisiwn arall, sef Violet gan Tom Coult. Y tro hwn, fodd bynnag, nid dim ond un darn sy’n ymgeisio am IVOR. Hefyd wedi ei enwebu yn y categori Gwaith Gorau i’r Llwyfan y mae The Scorched Earth Trilogy gan Brian Irvine, a gyflwynwyd gan y cwmni yng Nghymru yn gynharach eleni i agor eu rhaglen newydd o Opera Celfyddyd Stryd. 

Yn dilyn enwebiadau yn yng Ngwobrau Theatr y DU, y Gwobrau Rhyngwladol am Opera a Gwobrau South Bank Sky Arts, a gyda Tom Coult yn ennill Gwobr y Critics’ Circle 2022 am y Cyfansoddwr Ifanc Gorau, lle disgrifiwyd Violet fel “yr opera Brydeinig orau ers blynyddoedd”, mae Violet yn awr yn ymgeisio am IVOR. Mae MTW yn estyn llongyfarchiadau twymgalon i Tom Coult am y modd y dyfeisiodd fyd sonig a dramatig unigryw ar gyfer y testun cwbl addas gan Alice Birch. Violet oedd y digwyddiad agoriadol yng Ngŵyl fyd-enwog Aldeburgh yn 2022, a chafodd ei pherfformio yn Theatr y Sherman a Theatr Clwyd, yn ogystal â’r Hackney Empire (cyd-gyflwyniad gyda’r Tŷ Opera Brenhinol) a Gŵyl Buxton. Roedd y perfformiad yn y Sherman hefyd yn nodi 40 mlynedd ers sefydlu’r cwmni (a ddechreuodd yn wreiddiol fel y Cardiff New Opera Group yn 1982) gan Michael McCarthy a Michael Rafferty.

A hwythau yn yr un categori o’r IVORS, mae Violet mewn cystadleuaeth â The Scorched Earth Trilogy a gyflwynwyd gan MTW ym mis Mehefin 2023. Crëwyd The Scorched Earth Trilogy of Street Art Operas gan Dumbworld a’u comisiynu gan yr Irish National Opera yn 2022. Dewisodd MTW gyflwyno’r gwaith i lansio eu rhaglen newydd, gan arwain at alwad agored am gynigion o waith newydd gan artistiaid o Gymru. Cyflwynwyd y Scorched Earth Trilogy gan MTW ym Mangor (ar waliau Pontio), Hwlffordd (ar hyd y Cei, yn yr hen swyddfa ddosbarthu yn Haverhub, wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad â Span Arts) ac ar Hysbysfwrdd a waliau warws yn Spit & Sawdust, Caerdydd, gan gynnig ffordd gwbl annisgwyl o ddarganfod opera newydd am y tro cyntaf. Yn dilyn y cyfweliadau, estynnodd MTW wahoddiad i’r crëwyr Brian Irvine a John McIlduff o Iwerddon i redeg gweithdy un-dydd yn archwilio eu dull hwy o weithio fel modd o agor y drafodaeth yng Nghymru. Bwriedir cyflwyno’r gweithiau newydd gan artistiaid o Gymru yn haf 2024.

Mae llwyddiant parhaus Violet, sydd eisoes wedi cael cynyrchiadau newydd yn Ffrainc a’r Almaen, ac enwebiad The Scorched Earth Trilogy, yn arwydd clir fod MTW, tra bod y cwmni’n dechrau trawsnewid ei ddull o weithio a’r gwaith mae’n ei greu, yn parhau i allu cael effaith yn y DU ac yn Rhyngwladol mewn dull sy’n dangos ansawdd ac arloesedd. Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr MTW:

“Mae’r gydnabyddiaeth a roddir i’n gwaith yn rhoi boddhad mawr i ni, ond yn fwyaf oll i’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda hwy. Ac nid yw hynny wedi’i gyfyngu’n unig i’r rhai sy’n cael eu hystyried ar gyfer gwobr, ond yr holl artistiaid sy’n dod â syniadau a heriau ffres i’n gwaith, gyda llawer yn gweithio ym myd yr opera – a hyd yn oed yn meddwl am opera – am y tro cyntaf. Mae’r math yma o anogaeth a chydnabyddiaeth yn rhoi egni newydd i ni wrth ddechrau archwilio ffyrdd newydd o symud ymlaen; fodd bynnag, ni allwn wneud hyn os nad yw’r artistiaid hefyd yr un mor gyffrous a dewr, gan ddod â’u mewnwelediad a’u hegni i greu opera newydd fel adrodd stori mewn cerddoriaeth mewn dulliau sy’n gweithio iddynt hwy.”

Mae Music.Theatre.Wales. yn ail-ddychmygu opera, gan ofyn Beth yw Opera? Pwy sy’n ei greu? Ac i bwy mae e? Drwy ei raglen New Directions, archwilio gwaith digidol, rhoi perfformiadau byw, a chyflwyno Opera Celfyddyd Stryd, a gyda’u rhaglen Future Directions i bobl ifanc (rhaglen mewn partneriaeth gyda Hijinx), mae MTW yn archwilio gwahanol ffyrdd o ddod ag opera allan o’i gaethiwed, a’i ddatblygu fel modd o adrodd stori mewn cerddoriaeth y gallai unrhyw un, waeth beth fo eu cefndir cerddorol, diwylliannol neu bersonol, gael mynediad ato.