Mae tocynnau ar werth ar gyfer Premier y Deyrnas Unedig a thaith Music Theatre Wales o’r opera arobryn Denis & Katya

Bydd Denis & Katya, opera newydd ysgubol o waith Philip Venables a Ted Huffman – dau sydd wedi ennill amryw o wobrau – yn cael ei pherfformiadau cyntaf yn y Deyrnas Unedig y gwanwyn nesaf, ac mae’r tocynnau’n awr ar werth. Perfformir premier y gwaith yn y Deyrnas Unedig yng Nghasnewydd ar 27 Chwefror cyn teithio i’r Wyddgrug, Aberystwyth, Llundain a Chaerdydd yn ystod mis Mawrth.

Philip Venables and Tedd Huffman Photo by Dominic M. Mercier for Opera Philadelphia.

Gan ymateb i’r drasiedi go iawn a ddigwyddodd i ddau gariad ifanc a redodd i ffwrdd gyda’i gilydd, derbyniodd y cyd-gynhyrchiad hwn rhwng Music Theatre Wales, y prif gwmni opera cyfoes yn y DU, ynghyd ag Opera Philadelphia ac Opéra Orchestre National Montpellier, adolygiadau disglair gan feirniaid yn UDA pan agorodd yn Philadelphia yr hydref hwn. Yn ogystal, enillodd Denis & Katya Wobr Fedora Generali am Opera – gwobr bwysig a ddyfernir i waith arloesol sy’n cael ei greu drwy gydweithrediad rhyngwladol.

Mae’r opera ddogfennol rymus hon yn dilyn hanes gwir dau gariad ifanc 15 oed o Rwsia, sef Denis Muravyov a Katya Viasova. Daeth eu stori i amlygrwydd ym mis Tachwedd 2016 ar ôl iddynt fyw eu horiau olaf drwy lygad y cyfryngau cymdeithasol, gan ymgysylltu â’u gwylwyr ar-lein wrth iddynt ffilmio yng nghanol ymrafael gyda Lluoedd Arbennig Rwsia. Mae’r opera, gan y cyfansoddwr Philip Venables a’r awdur-gyfarwyddwr Ted Huffman – sef y ddau oedd yn gyfrifol am y gwaith arobryn 4.48 Psychosis – yn edrych ar y drasiedi go iawn a ddigwyddodd i’r pâr ifanc o Rwsia, ac yn archwiio sut mae straeon yn cael eu siapio a’u rhannu yn y cyfnod hwn o gysylltiad digidol bob awr o’r dydd, bob dydd o’r flwyddyn.

Aeth y tîm creadigol i ymweld â’r dref yn Rwsia oedd yn gartref i’r ddau gariad, gan gyfweld pobl leol a effeithiwyd gan y drasiedi, yn cynnwys ffrind ysgol, cymydog ac athro sy’n cael ei gynrychioli yn yr opera. Mae’r cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu testun, cerddoriaeth a theatr, ac wedi ei sgorio ar gyfer dim ond pedwar soddgrwth a dau o gantorion sy’n cyflwyno adroddiadau o sawl gwahanol persbectif.

Mae Denis & Katya, a ganmolwyd yn y wasg yn America fel gwaith sy’n gosod cyfeiriad newydd ar gyfer dyfodol yr opera, yn cyfuno stori wir a thrasig o gariad gwaharddedig gydag adlewyrchiad teimladwy ar y modd y mae pobl yn byw eu bywydau ar-lein.

Bydd Denis & Katya yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn theatr Glan yr Afon, Casnewydd ar 27 Chwefror. Yn dilyn hynny bydd y cynhyrchiad yn teithio i Theatr Clwyd Yr Wyddgrug ar 2 Mawrth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 3 Mawrth, Southbank Centre, Llundain ar 13 a 14 Mawrth, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ar 27 Mawrth.

Bydd pob perfformiad yn cynnwys chwaraewyr soddgrwth o’r London Sinfonietta, cwmni cyswllt Music Theatre Wales, a’r cast ar gyfer y perfformiadau yn y DU yw Emily Edmonds, mezzo soprano o Awstralia, a’r bariton o Loegr, Johnny Herford; y cynllunydd fideo yw Pierre Martin a Sound Intermedia sy’n gyfrifol am gynllunio’r sain.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales:

“Cyn gynted ag y gwelais i 4.48 Psychosis gan Philip a Ted, roedd yn amlwg eu bod yn gallu creu opera gwbl wreiddiol ac roeddwn wrth fy modd, felly, pan ddaethant at MTW i gyflwyno eu syniad ar gyfer y gwaith newydd hwn. Mae Denis & Katya yn ymwneud â’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn yr oes sydd ohoni, drwy ein sgriniau a’r cyfryngau cymdeithasol, gan archwilio goblygiadau’r gweithredoedd hyn a’r rhan rydyn ni’n ei chwarae mewn straeon a allai fod yn drasig. Mae gwneud y gwaith yma law yn llaw gydag Opera Philadelphia eisoes wedi rhoi boddhad mawr i mi, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ei rannu gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ac yn Llundain.”

Am ragor o wybodaeth am y daith, cliciwch yma

CYSWLLT Y WASG:

Y Deyrnas Unedig a Chymru ar ran Music Theatre Wales:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

Dyddiadau’r Daith:

  • Dydd Iau 27 Chwefror, (Perfformiad cyntaf yn y DU) Glan-yr-afon, Casnewydd
  • Dydd Llun 2 Mawrth, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
  • Dydd Mawrth 3 Mawrth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Dydd Gwener 13 Mawrth, Purcell Room, Southbank Centre, Llundain
  • Dydd Sadwrn 14 Mawrth, Purcell Room, Southbank Centre, Llundain
  • Dydd Gwener 27 Mawrth, Theatr Richard Burton, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd

Music Theatre Wales

Music Theatre Wales, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r prif gwmni opera cyfoes yn y DU. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu crewyr opera’r dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes gorau yn y byd – yn cynnwys Pascal Dusapin, Philip Glass, Salvatore Sciarrino, Peter Eötvös, Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies a Stuart MacRae – mae’r cwmni’n dod ag opera newydd a bywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Opera Philadelphia

Disgrifiwyd Opera Philadelphia, yr unig gwmni o America i gyrraedd rownd derfynol yr International Opera Award 2016 am y Cwmni Opera Gorau, fel “the very model of a modern opera company” (Washington Post). A hwythau wedi ymrwymo i groesawu arloesedd a datblygu opera ar gyfer yr 21ain ganrif, mae’r cwmni wedi comisiynu a chyd-gomisiynu nifer o operâu newydd pwysig, yn cynnwys Silent Night gan Kevin Puts a Mark Campbell, enillydd Gwobr Purlitzer am Gerddoriaeth 2012; Cold Mountain gan Jennifer Higdon a Gene Scheer, enillydd yr International Opera Award 2016 am y Premiere Byd Gorau; Breaking the Waves gan Missy Mazzoli a Royce Vavrek, enillydd Gwobr y Music Critics Association of North America (MCANA) 2017 am yr Opera Newydd Orau; We Shall not be Moved gan Daniel Bernard Roumain a Marc Bamuthi Joseph, a enwyd yn y New York Times fel un o’r “Best Classical Music Performances of 2017”; The Wake World gan David Hertzberg, enillydd Gwobr MCANA 2018 am yr Opera Newydd Orau; a Denis & Katya gan Philip Venables a Ted Huffman, a anrhydeddwyd â Gwobr Fedora-Generali 2019 am Opera, gan sicrhau ymhellach statws Opera Philadelphia fel “a hotbed of operatic innovation” (New York Times) sy’n cynrychioli “one of North America’s premiere generators of valid new operas” (Opera News).

London Sinfonietta

Cenhadaeth y London Sinfonietta yw gosod y gerddoriaeth glasurol gyfoes orau wrth galon diwylliant ein cyfnod ni; ymgysylltu â’r cyhoedd a’u herio drwy berfformiadau ysbrydoledig o’r safon uchaf, a chymryd risg i ddatblygu gwaith a thalent newydd. Wedi’i sefydlu yn 1968, mae ymrwymiad yr ensemble i gerddoriaeth newydd wedi ei arwain at gomisiynu 400 o weithiau, a chyflwyno perfformiad premiere cannoedd o weithiau eraill. Fel ensemble preswyl yn y Southbank Centre, ac Artistic Associates yn Kings Place, gydag amserlen brysur o deithio o gwmpas y DU a thramor, mae’r cnewyllyn o 16 o Brif Chwaraewyr yn cynrychioli rhai o’r cerddorion unigol ac ensemble gorau yn y byd.