Music Theatre Wales a enwebwyd ar gyfer Fedora Generali Prize ar gyfer opera

Mae Music Theatre Wales yn falch o gyhoeddi bod dau gynhyrchiad sydd ganddynt ar y gweill wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Ryngwladol Fedora Generali am Opera.

Ar restr fer y wobr y mae Violet gan Tom Coult ac Alice Birch, sy’n gyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales gyda Gŵyl Aldeburgh a Theater Magdeburg, yr Almaen. Bydd y cynhyrchiad yn teithio yn y Deyrnas Unedig ym mis Mehefin ac yn nhymor yr Hydref 2020, ac yn cael ei berfformio yn yr Almaen yng ngwanwyn 2021. Mae’r cais hwn yn cael ei arwain gan Music Theatre Wales.

Hefyd wedi ei enwebu y mae Denis and Katya gan Phil Venables a Ted Huffman, sy’n gyd-gynhyrchiad gan MTW gydag Opera Philadelphia ac Operá Orchestre Montpellier. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Philadelphia ym mis Medi 2019 ac yn teithio ledled y Deyrnas Unedig yng ngwanwyn 2020. Opera Philadelphia sydd yn arwain ar y cais hwn.

Bydd y ddau gynhyrchiad yn cael eu perfformio yn y Deyrnas Gyfunol gyda’r London Sinfonietta, a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â Music Theatre Wales.

Mae Gwobr Fedora yn un o brif wobrau Ewrop, ac y mae hefyd ar agor i bartneriaid yn America sy’n gweithio gyda chwmnïau Ewropeaidd. Music Theatre Wales yw’r unig gynhyrchydd yn y DU sy’n arwain cais a enwebwyd, ac yn un o ddim ond dau sefydliad yn y DU a enwebwyd ar gyfer Gwobr Fedora Generali am Opera; y cwmni arall yw Gŵyl Aldeburgh, sy’n cyd-gynhyrchu Violet gyda MTW ac a fydd yn cynnal y premiere byd yng Ngŵyl Aldeburgh 2020.

Cynigir gwobr o €150,000 am y comisiwn a chynhyrchiad o’r darn a enwebwyd, gyda barn y cyhoedd yn penderfynu pwy sy’n mynd ymlaen i’r cam nesaf; mae modd pleidleisio drwy wefan Gwobr Fedora.

Cyhoeddir enw’r enillydd ar 28 Mehefin yn Noson Cyflwyno Gwobrau Fedora yn y Teatro La Fenice, Fenis.

Mae Violet yn adrodd stori lle mae amser yn crebachu, gydag un awr yn cael ei cholli’n sydyn ac annisgwyl un dydd ar ôl y llall. Wrth i gymdeithas wâr ddechrau dadfeilio mewn modd treisgar, mae un fenyw’n gweld cyfle i dorri’n rhydd a dechrau o’r newydd. Mae Alice Birch yn adnabyddus am ei rhannau pwerus o ddramatig ar gyfer menywod, ac am ysgrifennu sy’n ddeallus, sensitif a didwyll. Opera ar gyfer ein hoes ni yw hon, ond y mae iddi neges holl-gynhwysol.

Mae Denis and Katya yn adrodd y stori wir am Denis Muravyov a Katya Vlasova, dau gariad pymtheg oed a fu farw yn dilyn ffrwgwd a barodd am dridiau yn erbyn Lluoedd Arbennig Rwsia ar 14 Tachwedd, 2016. A hwythau’n cael eu gwahardd rhag gweld ei gilydd, maen nhw’n dianc i gaban yn y goedwig – a phan gânt eu darganfod maent yn gwrthod ildio. Ânt ati i baratoi llif byw o’u horiau olaf ar www.periscope.tv: yfed, ysmygu, cofleidio, llefain, a pharatoi i farw tra’n anfon negeseuon at ffrindiau a phostio negeseuon ffarwél i’r byd a’r betws. Fel opera ddogfennol, bydd Denis and Katya yn tynnu’r gynulleidfa i mewn i daith angerddol, drychinebus y cariadon ifanc, ond mae hi hefyd yn archwilio ymateb syfrdanol y cyhoedd i’r digwyddiadau yma, a beth mae hynny’n ei ddadlennu am ein cymdeithas.

Gan eu bod yn ymwneud â dau enwebiad sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, mae Music Theatre Wales yn gofyn i bobl a chanddynt ddiddordeb mewn cefnogi opera newydd a theatr gerdd logio i mewn a phleidleisio dros un o’r prosiectau.

Dywed Michael McCarthy, y Cyfarwyddwr Artistig:

Mae gennych hyd 22 Chwefror i bleidleisio dros ba brosiect bynnag sy’n apelio fwyaf atoch chi. Mae MTW yn gwbl ymroddedig i’r ddau gynhyrchiad yma, ac yn falch o chwarae rhan mewn partneriaethau mor gyffrous i’w helpu i ddod â hwy’n fyw a’u rhannu â chynulleidfaoedd pell ac agos. Mae’r ddau brosiect yn eithriadol, ac yn wahanol iawn o ran eu cynnwys a’u harddull. Yn anffodus, ni allwch bleidleisio ddwywaith, felly bydd raid i chi wneud y dewis!”

Gellir dod o hyd i’r rhestr fer o operâu a enwebwyd ar gyfer Gwobr Fedora yn:  https://www.fedora-platform.com/competition/shortlist

Violet yn: https://www.fedora-platform.com/competition/shortlist/violet/122

Denis and Katya yn: https://www.fedora-platform.com/competition/shortlist/denis-katya/76

http://musictheatre.wales/

CYSWLLT Y WASG:

Y Deyrnas Unedig a Chymru:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Llawrydd
Penny.james@btopenworld.com 07854 114 782

Music Theatre Wales

Music Theatre Wales, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r prif gwmni opera cyfoes yn y Deyrnas Unedig. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu crëwyr opera’r dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes gorau yn y byd – yn cynnwys Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Philip Glass, Michael Tippett, Peter Eötvös a Philippe Boesmans – mae’r cwmni’n dod ag opera newydd a bywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.