Cyhoeddwyd ar 09/10/18

Gan Music Theatre Wales

 

Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta yn cyhoeddi partneriaeth newydd

Mae Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta wedi cyhoeddi partneriaeth a fydd yn dod â’r ddau gwmni ynghyd i greu a theithio theatr gerdd newydd, arloesol a chyffrous ledled y DU.

Bydd y berthynas newydd yn adeiladu ar enw da a bri y ddau gwmni, ac yn anelu at sefydlu pwerdy ar gyfer theatr gerdd ac opera newydd trwy gynnwys ystod cynyddol amrywiol o gyfansoddwyr, awduron, arweinyddion, cyfarwyddwyr a pherfformwyr mewn gwaith gaiff ei greu ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n fwyfwy eang.

Bydd y London Sinfonietta yn perfformio ym mhob un o gynyrchiadau Music Theatre Wales fel partneriaid artistig allweddol, ac yn cyfrannu at y broses o ddewis repertoire ac arweinyddion. Gyda’i gilydd, bydd y ddau gwmni hefyd yn creu Cyfeiriadau Newydd / New Directions, sef cynllun datblygu a pherfformio i ymestyn allan at ragor o artistiaid a chynulleidfaoedd newydd. Bwriad y cynllun hwn yw datblygu’r ffurf celfyddydol ac ail-ddychmygu’r math o waith mae’r ddau gwmni’n ei greu, a’r modd y caiff ei ddatblygu, gan herio’r argraff ynghylch pwy sy’n ei greu, ac ar gyfer pwy. Bwriedir lansio’r cynllun yn ffurfiol yn 2019.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig MTW:

“Mae gweithio gyda’r London Sinfonietta yn fraint fawr, ac yn cynrychioli cyfnod o newid sylweddol i MTW; edrychaf ymlaen at glywed y grŵp hwn o gerddorion eithriadol yn dod â’n cynyrchiadau ni’n fyw yn y dyfodol. Yn ogystal, edrychwn ymlaen gyda’n gilydd at gyflwyno gweithiau newydd, ysbrydoledig, i gynulleidfaoedd ehangach fyth ledled Cymru a Lloegr – ac yn rhyngwladol hefyd, gobeithio, wrth i ni deithio gyda’r cynyrchiadau hyn.” %p Ychwanegodd: “Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i fynegi fy niolch a’m hedmygedd i’r holl gerddorion sydd wedi perfformio fel Ensemble Music Theatre Wales dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Roeddynt wrth galon holl lwyddiannau artistig y cwmni, ac mae pawb yn MTW yn awyddus i gydnabod a chymeradwyo eu cyfraniad holl bwysig.”

Dywedodd Andrew Burke, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig y London Sinfonietta:

“Rydw i wrth fy modd o wybod y byddwn yn gweithio’n agos gyda Music Theatre Wales. Nid yn unig rydyn ni’n cael cyfle i fod yn rhan o’r cynyrchiadau cyffrous sydd ar y gweill, ond hefyd, gyda’n gilydd, rydyn ni’n ymrwymo’n hunain i’r rhaglen Cyfeiriadau Newydd a fydd yn esblygu’r genre wrth i ni ddatblygu theatr gerdd arloesol ar raddfa fechan sy’n cael ei chreu gan yr artistiaid mwyaf cyffrous o bob rhan o gymdeithas. I Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta fel ei gilydd, bydd hyn yn dod â straeon perthnasol o fywyd cyfoes, yn cael eu mynegi trwy gyfrwng pwerus theatr gerdd, i gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru a Lloegr.”

Mae’r repertoire ar gyfer y cyfnod cychwynnol o 3 blynedd o gydweithio rhwng Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta yn cynnwys y canlynol:

  • Y perfformiad cyntaf yn y DU o Passion gan Pascal Dusapin, sef cyd-gynhyrchiad gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; y cyfarwyddwyr yw Michael McCarthy a Caroline Finn, a’r arweinydd yw Geoffrey Paterson. Bydd Passion yn teithio o amgylch y DU yr hydref hwn, gan agor yn Basingstoke ar 11 Hydref cyn teithio i Lundain, Caerdydd, Suffolk, Salford a’r Wyddgrug. Caiff ei berfformio gydag EXAUDI, ensemble lleisiol sy’n enwog yn rhyngwladol.
  • The Intelligence Park gan Gerald Barry, a fydd yn teithio yn nhymor yr hydref 2019. Cyd-gynhyrchiad yw hwn gyda’r Tŷ Opera Brenhinol, gyda’r Arweinydd Jessica Cottis.
  • Denis and Katya gan Philip Venables a Ted Huffman, a fydd yn teithio yng ngwanwyn 2020. Bydd y gwaith newydd hwn, sydd ar raddfa fechan, yn cael ei berfformio fel rhan o’r rhaglen Cyfeiriadau Newydd; mae’n gyd-gynhyrchiad gydag Opera Philadelphia a’r cyfarwyddwr yw Ted Huffman.
  • Opera newydd gan Tom Coult ac Alice Birch – cyd-gynhyrchiad gyda Gŵyl Aldeburgh a fydd yn agor yn haf 2020 ac yn teithio yn nhymor yr hydref 2020.
  • Gwaith newydd ar raddfa fechan gan Naomi Pinnock a Nic Green fel rhan o’r rhaglen Cyfeiriadau Newydd.

CYSWLLT Y WASG:

Music Theatre Wales:
Penny James, Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

London Sinfonietta:
Maija Handover, Ymgynghorydd y Wasg, SoundUK
maija@sounduk.net
07939 568 053

Music Theatre Wales

http://musictheatre.wales

Ac yntau’n gwmni sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, Music Theatre Wales yw prif gynhyrchydd y DU ym meysydd opera newydd a theatr gerdd, gan weithio’n aml mewn cydweithrediad â chwmnïau perfformio, gwyliau a chyflwynwyr eraill. Mae MTW wedi cael ei recordio ar CD, mae’n darlledu’n gyson ar radio’r BBC, ac enillodd nifer o wobrau ac enwebiadau uchel eu bri yn y diwydiant.

Passion yw ein cyd-gynhyrchiad cyntaf gyda chwmni dawns, sef Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a’r cynhyrchiad cyntaf i ni ei greu mewn cydweithrediad â’r London Sinfonietta. Mae ein partneriaid diweddar a chyfredol yn cynnwys Theatr Genedlaethol Cymru (Y Tŵr), Opera Theatre St Louis, Scottish Opera, y Tŷ Opera Brenhinol, Theater Magdeburg (The Trial), Opera Philadelphia, TIMF yn Ne Korea, Gŵyl Aldeburgh, a’r Opera Brenhinol. Yn nhymor yr hydref 2019, bydd y cwmni’n datblygu cynhyrchiad newydd o The Intelligence Park, opera gyntaf Gerald Barry, mewn cyd-gynhyrchiad gyda’r Tŷ Opera Brenhinol.

Rydym yn creu gwaith sy’n eofn ac anturus, sy’n archwilio beth allai opera fod a sut y gall ymestyn allan at gynulleidfaoedd. Credwn fod opera a theatr gerdd yn ddulliau mynegiant dynamig a phwerus – o ran syniadau ac emosiynau dynol – a thrwyddynt gallwn adrodd straeon newydd. Rydym yn gweithio gyda llawer o’r cyfansoddwyr cyfoes mwyaf enwog, ond hefyd yn gwahodd ymateb a her gan gyfansoddwyr ac awduron sy’n newydd i’r ffurf yma. Ein nod yw sicrhau bod opera a theatr gerdd yn parhau i fod yn ddull cyfoes perthnasol ac egnïol o fynegiant, a chanddo’r grym i gyffwrdd y galon ac agor y meddwl, gan roi profiadau pwerus a chofiadwy i gynulleidfaoedd.

Ers 1988 mae MTW wedi creu dros 30 o gynyrchiadau a chyflwyno 15 o berfformiadau premiere byd. Enillodd cynhyrchiad MTW o Greek gan Mark-Anthony Turnage wobr Cyflawniad Eithriadol mewn Opera yng Ngwobrau Theatr TMA 2011, ac ym mis Mawrth 2013 enillodd Ghost Patrol gan Stuart MacRae a Louise Welsh y South Bank Sky Arts Award am opera ac yn ogystal, fel rhan o raglen ddwbl gydag In the Locked Room gan Huw Watkins, cafodd ei enwebu am wobr Olivier am Gyflawniad Eithriadol mewn Opera (cyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera). Enillodd y Cyfarwyddwr Artistig Michael McCarthy wobr am y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015 am ei gynhyrchiad o The Trial gan Philip Glass, ac anrhydeddwyd cyd-sylfaenwyr MTW – Michael McCarthy a Michael Rafferty – ill dau ag MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2016.

London Sinfonietta

http://londonsinfonietta.org.uk

Mae’r London Sinfonietta yn un o’r prif ensemblau cerddoriaeth gyfoes yn y byd. Oddi ar ei ffurfio yn 1968 mae wedi comisiynu dros 400 o weithiau, a rhoi nifer di-rif o berfformiadau cyntaf. O’i bencadlys yn y Southbank Centre, ac fel Cysylltai Artistig yn Kings Place, mae’r ensemble yn cydweithio’n gyson gydag ystod o sefydliadau ym myd y celfyddydau, o’r Tŷ Opera Brenhinol a’r Bale Brenhinol, i’r White Cube Gallery a nifer fawr o leoliadau, gwyliau a hyrwyddwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae deunaw Prif Offerynnwr yr ensemble ymhlith rhai o gerddorion gorau’r byd fel unawdwyr ac fel chwaraewyr ensemble.

“Prif ensemble y byd ym maes cerddoriaeth newydd” The Times

Trwy gydol 50 mlynedd ei fodolaeth, mae’r London Sinfonietta wedi gweithio’n gyson gyda llawer o’r ffigurau pwysicaf ym maes cerddoriaeth newydd, o brif gyfansoddwyr y cyfnod ar ôl y rhyfel megis Luciano Berio, György Ligeti, Iannis Xenakis a Karlheinz Stockhausen, i’r cyfansoddwyr a’r artistiaid aml-ddisgyblaethol gorau sy’n fyw heddiw, yn cynnwys Syr George Benjamin, Syr Harrison Birtwistle, Tansy Davies, Steve Reich, Olga Neuwirth, Johnny Greenwood, Mica Levi a Christian Marclay. Mae’r un ethos yn parhau hyd heddiw, sef perfformio cerddoriaeth newydd i’r safon uchaf posibl, a chreu prosiectau sy’n arbrofi gyda’r ffurf celfyddydol, gan fentro gwthio ffiniau yr hyn y gall cerddoriaeth newydd fod mewn cydweithrediad â ffurfiau celfyddydol eraill.

Yn yr 1980au, bu’r London Sinfonietta yn gyfrifol am lansio’r rhaglen gyntaf erioed yn y DU ym maes addysg gerddorfaol, ac mae’n parhau hyd heddiw gyda’i waith arloesol, yn cynnwys ystod o raglenni hyfforddi ar gyfer talentau ifanc: Academi y London Sinfonietta (ar gyfer offerynwyr), Writing the Future, a Blue Touch Paper (ar gyfer cyfansoddwyr), yn ogystal ag ymwneud â miloedd o blant ysgol yn flynyddol drwy ei raglen Sound Out.

“Nid eich noson arferol yn yr amgueddfa gerdd” The Guardian

Mae gan yr ensemble hwn hefyd draddodiad o dorri tir newydd yn y maes digidol, ac yn 2015 bu’n gyfrifol am greu’r Clapping Music App gan Steve Reich ar gyfer iPhone, iPad ac iPod Touch, sef gêm rythm gyfranogol a lawrlwythwyd dros 250,000 o weithiau’n fyd-eang. Mae ei gatalog helaeth o recordiadau’n cynnwys deongliadau diffiniol o glasuron modern, megis Symphony Rhif 3 gan Henryk Górecki – sy’n parhau i fod yn un o’r gwerthwyr gorau erioed yng nghyd-destun recordiadau cerdd. Mae recordiadau mwy diweddar yn cynrychioli ystod eang o gerddoriaeth newydd sy’n cael ei chreu heddiw, yn cynnwys opera Syr George Benjamin, Into the Little Hill (Nimbus, 2017), Writing on Water gan David Lang (Cantaloupe Music, 2018), ac albwm cyntaf Philip Venables, Below the Belt (NMC, 2018). Cafodd rhagoriaeth barhaus gwaith yr ensemble ei chydnabod gan dair Gwobr RPS (yn cynnwys un am yr Ensemble Orau yn 2009), Gwobr yr Evening Standard am Gerddoriaeth Glasurol (1997) ac, yn ddiweddar, enwebiad gan y 2016 Southbank Sky Arts Award 2016 am gomisiwn Tom Coult, Spirit of the Staircase.