Music Theatre Wales Mae arnom angen Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys sy’n gallu cynnig 3 diwrnod yr wythnos. Mae’r cwmni wedi’i leoli mewn swyddfa fodern, ddeniadol sy’n rhan o adeilad rhestredig yn agos at orsaf Bae Caerdydd, a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio oddi yno.

Cytundeb tymor penodol hyd ddiwedd Rhagfyr 2020 (rhan-amser) Cyflog: £27–30k yn dibynnu ar brofiad (pro rata)

Mae Music Theatre Wales yn un o’r prif gwmnïau opera gyfoes yn Ewrop, ac wedi’i gydnabod ers ei ffurfio yn 1988 fel grym pwysig ym myd yr opera, gan gynhyrchu gwaith newydd beiddgar sy’n cael ei nodweddu gan yr effaith gref a gaiff ar gynulleidfaoedd ac artistiaid fel ei gilydd. Rydym yn cydweithio â’r London Sinfonietta, prif ensemble gerddorol gyfoes y DU, sy’n perfformio ein holl gynyrchiadau gyda ni.

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd

CYLCHLYTHYR

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr