Operâu Celfyddyd Stryd - Cyfle am Gomisiwn i Grëwyr

Yn dilyn lansiad llwyddiannus ein rhaglen Operâu Celfyddyd Stryd gyda The Scorched Earth Trilogy, mae MTW yn awr yn gwahodd artistiaid o Gymru, ac artistiaid sy’n datblygu eu hymarfer creadigol yng Nghymru, i gynnig syniadau am Operâu Celfyddyd Stryd newydd ry’n ni’n cynllunio i’w dangos ym mis Mehefin 2024.

Beth yw Operâu Celfyddyd Stryd?

Operâu newydd, byr sy’n cael eu creu i’w dangos yn yr awyr agored, eu taflunio ar wal neu adeilad, a phobl yn gwrando arnynt ar ffonau clust disgo distaw. Fel gyda phob celfyddyd stryd, ry’n ni’n awyddus i’r darnau hyn gyfleu neges gref i’r byd – opera fel ymgyrchu: bachog, comig, dychanol, ingol, pwerus.

Am beth ry’n ni’n chwilio?

  • Syniad clir a gafaelgar am Opera Celfyddyd Stryd newydd
  • Syniad ar gyfer pwy a ble mae e
  • Awydd i weithio fel rhan o dîm creadigol sy’n cyfuno crëwr cerddoriaeth, ysgrifennwr ac artist gweledol (gall MTW gyflwyno artistiaid i’w gilydd i greu timau)

Amserlen:

  • Galwad Agored a chyfle am gyfarfod ymgynghorol – rhwng 31 Gorffennaf a 29 Medi 2023
  • Dyddiad Cau am Geisiadau – 23 Hydref 2023
  • Penderfynu ar y Comisiynau – 10 Tachwedd 2023
  • Cwblhau’r Golygu Terfynol (yn barod i ddangos) – 17 Mai 2024
  • Dangos yr Operâu Celfyddyd Stryd yn gyhoeddus – Mehefin a Gorffennaf 2024

Ymgeisiwch yma

Gellir cyflwyno ceisiadau’n ysgrifenedig neu ar fideo. Ewch i airtable.com/shrB4kcjUa7Gi2EEp i ymgeisio ac am ragor o wybodaeth.

I gael llawer mwy o wybodaeth a manylion am sut i gyflwyno syniad, darllenwch y wybodaeth galwad allan lawn yma:

Callout information >

Easy Read >