Rydym yn recriwtio! Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata

Mae Music Theatre Wales yn chwilio am gyfathrebwr o’r radd flaenaf ar gyfer ein swydd newydd, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, i reoli datblygiad a gweithredu strategaeth cyfathrebu a marchnata ein gwaith.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon fe fyddwch yn berson sy’n meddwl yn greadigol ac yn strategol, a bydd gennych brofiad a sgiliau dangosadwy ym meysydd marchnata’r celfyddydau, datblygu cynulleidfa ac ymgysylltiad cymunedol.

Bydd gennych ddealltwriaeth o ddulliau marchnata digidol a thraddodiadol, byddwch yn hyderus mewn rôl Cysylltiadau Cyhoeddus a chyfathrebu, ac yn meddu ar y sgiliau i arwain ar ein cynnwys digidol a’r cyfryngau cymdeithasol. Chi fydd hyrwyddwr y brand, yn tynnu’r gwahanol gyfathrebiadau, mewnol ac allanol, o dan un hunaniaeth gan weithio i godi proffil MTW o fewn Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Byddwch yn arwain artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau at ein gwaith.

Yn Music Theatre Wales rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwell cydraddoldeb fel sefydliad ac fel cyflogwr, a’n nod yw sicrhau nad oes neb yn cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig. Credwn fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol, ac nad yw cwotâu yn helpu i achosi newid os nad yw diwylliannau’n newid o fewn y sefydliadau. Mae newid ar droed o’r bôn i’r brig yn ein sefydliad ni – yn y gwaith rydym yn ei greu a’r bobl sy’n ei greu; y bobl rydym yn eu cyrraedd; bwrdd yr ymddiriedolwyr a’n staff.

Gan fod MTW wedi ei leoli yng Nghymru, a chanddo ymrwymiad cryf i’n polisi iaith Gymraeg, mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu hannog a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau siarad Cymraeg fydd yn eu galluogi i hyrwyddo a goruchwylio ein cynlluniau marchnata a chyfathrebu dwyieithog.

Telerau

Cytundeb: Swydd barhaol (3 mis o gyfnod prawf)
Oriau:

Rhan-amser, 3 diwrnod yr wythnos (21 awr yr wythnos)

Mae’r rôl yn galw am ddull hyblyg o weithio, gyda rhai cyfnodau’n golygu mwy o ymrwymiad i sicrhau llwyddiant y prosiect dan sylw. Darperir TOIL (amser rhydd i ddigolledu staff) i bob aelod o’r staff os bydd angen gweithio oriau ychwanegol yn ystod cyfnodau prysur.

Lleoliad: Chapter, Caerdydd – gellir gweithio mewn dull hybrid
Cyflog / Buddion: £16,800 y flwyddyn (£28,000 FTE)
Mae MTW yn cynnig cynllun pensiwn yn y gweithle trwy Nest a’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae MTW yn ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, a byddwn yn gweithio’n agos gyda deilydd y swydd i sicrhau ein bod yn cwrdd â’u hanghenion yn y maes hwn.
Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn yn ogystal ag 8 diwrnod o wyliau banc a gwyliau cyhoeddus (pro rata).

Proses ymgeisio

Dyddiad cau: Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023, 6yh
Cyfweliadau:

19–21 Rhagfyr 2023, yn y gobaith y gall y person a benodir ddechrau cyn gynted â phosibl ym mis Ionawr 2024.

Disgwyliwn y bydd y cyfweliadau'n digwydd wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd, ond mae'n bosibl y cynhelir hwy dros Zoom.

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Pecyn Swydd
Testun Plaen ar ffurf dogfen Word
Testun Plaen ar ffurf PDF

Os hoffech gyflwyno’r cais mewn fformat gwahanol, byddem yn hapus i wneud trefniadau. I drafod hyn, neu i gael sgwrs am unrhyw anghenion mynediad neu gynhwysiant ychwanegol, neu unrhyw addasiadau rhesymol eraill, cysylltwch â kathryn@musictheatre.wales.

Mae MTW wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Rydym yn annog ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd, a chanddynt wahanol sgiliau a phrofiadau i’w cynnig i’n sefydliad. Fel rhan o’n hymrwymiad i gryfhau amrywiaeth ein gweithlu, rydym yn darparu cynllun i warantu cyfweliad i ymgeiswyr sy’n cwrdd â lleiafswm anghenion y swydd, sy’n anabl, yn niwroamrywiol, neu’n dod o’r mwyafrif byd-eang.

I sicrhau bod ein proses gyfweld yn hygyrch i gynifer o ymgeiswyr ag y bo modd, byddwn yn anfon cwestiynau’r cyfweliad o flaen llaw at bob ymgeisydd, ynghyd â manylion am fformat y cyfweliad.