Diolch, Ace!

Ace + Tim Gill

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Ace McCarron, Cynllunydd Goleuo a chydweithiwr a chyfaill agos, wrthyf am ei benderfyniad i roi’r gorau i weithio yn y theatr ar ôl gyrfa hir, amrywiol a chwbl wych. Yn nodweddiadol ohono, cyfeiriodd Ace at ei berthynas waith dros 30 mlynedd gyda MTW fel ei brentisiaeth, a fydd yn arwain at faes newydd o ddatblygiad a mynegiant artistig. Nid oedd hyn yn syndod i mi, ac yn syml rwy’n awyddus i ddod o hyd i ffordd o ddweud diolch wrtho am ei gyfraniad anhygoel i’r cwmni.

Drwy gydol ei yrfa, mae Ace wedi ymddiddori mewn llawer mwy na dim ond goleuadau ei grefft. Mae e bob amser wedi gwasanaethu’r ddrama a’r gerddoriaeth, gan archwilio’n gyson i bwrpas y dewisiadau goleuo y tu hwnt i’r ffordd maen nhw’n edrych. Yn y modd hwn, mae e wedi cyfrannu’n gyson at y darlun mwy. Un o’r pethau rwyf bob amser wedi ei hoffi am Ace yw ei barch a’i edmygedd dwfn tuag at y gwaith mae pawb arall yn ei gyflawni i wneud i gynhyrchiad ddigwydd. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos yr holl berfformwyr, y datblygodd agwedd gydweithredol gyda hwy – rhywbeth sydd mor sylfaenol i lwyddiant MTW ag ydyw o anghyffredin i ddod o hyd iddo. Mae’r llun o Ace yn dod o hyd i funud i eistedd ar y llwyfan i siarad gyda’r chwaraewr cell0 Tim Gill yn ystod yr hyn oedd yn ddiwrnod arall anhygoel o brysur yn teithio (Denis & Katya yn The Purcell Room, Llundain – ein perfformiad olaf cyn y cyfnod clo) yn adlewyrchu’r ysbryd hwn yn berffaith.

Cyfarfu’r ddau ohonom yn 1984 pan ymunais i â The Fires of London – y cwmni a sefydlwyd gan Peter Maxwell Davies ac a oedd yn un o’r prif fodelau ar gyfer creu Music Theatre Wales. Roedd Ace eisoes yn dechnegydd goleuo teithiol gyda’r cwmni, ac ymunais innau fel cynorthwy-ydd a chyfarwyddwr adfywiad. Y tro cyntaf i ni gydweithio go iawn oedd wrth lwyfannu opera Max, The Martyrdom of St Magnus, yng Nghadeirlan St Magnus ar ynys Orkney. Fel y digwyddodd pethau, cawsom broblem ofnadwy gyda’r cyflenwad trydan, ac roedd Ace a minnau’n gwneud ein gorau glas i oleuo’r cynhyrchiad ar ras wyllt gydag offer cwbl annigonol a bwrdd goleuo sylfaenol iawn heb unrhyw gof o gwbl yn perthyn iddo (os cofiaf yn iawn). Camodd Ace i’r adwy a dyfeisio ffordd o gynnal integriti’r cynhyrchiad tra ar yr un pryd yn rhedeg y sioe mewn modd rhannol-fyrfyfyr, ac aeth popeth yn iawn. Pan ddaeth yn amlwg fod arna i angen rhywun allai reoli gofynion llym cynhyrchiad a thaith MTW ar ddim ond ei ail gynhyrchiad – The Fall of The House of Usher gan Philip Glass – doedd ond un person i droi ato, ac nid oes dim wedi newid byth ers hynny.

Mae Ace wedi bod yn gydweithiwr artistig o’r radd flaenaf, ac yn gyfaill agos a chefnogol – a does dim amheuaeth y bydd yn parhau i fod felly. Bydd yn dal i fod yn rhan bwysig o Music Theatre Wales a gwn y bydd yn parhau i ofyn y cwestiynau hynny – am y gwaith mae’n ei weld ac amdano ef ei hun. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weld y gwaith y bydd yn ei gynhyrchu nawr mae ei brentisiaeth yn gyflawn!

Ace McCarron: Cynllunydd Goleuo ac aelod allweddol o Music Theatre Wales rhwng 1989 a 2020