Amdanom ni

Mae Music Theatre Wales (MTW) yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i fyd yr opera, gan ei gyflwyno fel modd o adrodd stori trwy gerddoriaeth a gweithio i adfywio opera fel gweithgaredd llawn mynegiant sy’n hygyrch i bawb. Rydym yn meithrin artistiaid fydd yn creu opera’r dyfodol ac yn cyflwyno opera mewn dulliau dychmygus a fydd yn helpu i newid y canfyddiad traddodiadol o’r hyn ydyw opera a beth y gall fod. Rydym yn gofyn: Beth yw opera? Pwy sy’n ei greu? ac Ar gyfer pwy y mae e?

Yn syml, rydyn ni’n Ailddychmygu Opera

Gweledigaeth:

Cymru yn y dyfodol lle mae opera’n rhoi llais i fynegiant, hunaniaeth ac amrywiaeth, trwy adrodd stori mewn cerddoriaeth i bawb.

Cenhadaeth:

Rydyn ni’n gofyn: Beth yw opera? Pwy sy’n ei greu? Ac ar gyfer pwy y mae e?

Rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid a chymunedau sydd, yn hanesyddol, wedi eu heithrio o fyd opera i greu gwaith ar eu delw eu hunain, gan gysylltu’r personol a’r lleol gyda’r byd ehangach. Rydyn ni’n creu ffurfiau newydd ar opera a’i gyflwyno mewn dulliau a lleoliadau anghyffredin a fydd yn newid y cynulleidfaoedd ar gyfer opera, a’r canfyddiad ohono. Rydyn ni’n creu opera sy’n adlewyrchu ac archwilio’r byd fel y mae heddiw, nid fel yr oedd erstalwm. Rydyn ni’n ailddychmygu opera.

Nodau:

Rydyn ni’n ffurfio rhaglenni a phartneriaethau creadigol sy’n galluogi artistiaid a chymunedau i ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain drwy adrodd straeon mewn cerddoriaeth. Byddwn yn tyfu perthnasoedd gyda’n cymunedau fydd yn dylanwadu ar ein datblygiad strategol a’r gwaith artistig rydym yn ei gynhyrchu, ac a fydd yn dod ag opera i mewn i fywydau pobl ledled Cymru a thu hwnt. Bydd ein holl waith yn dathlu pŵer llawn mynegiant opera fel adrodd straeon mewn cerddoriaeth.

Am gyfnod o dros 40 mlynedd, mae MTW wedi bod yn rym dros newid a datblygiad ym myd opera yn y DU, gan greu cyfleoedd trawsnewidiol ar gyfer artistiaid i greu a chael mynediad at opera gyfoes, a hynny’n aml am y tro cyntaf.

Gan weithio gyda nifer o brif gyfansoddwyr ein cyfnod ni, rydym wedi creu 54 o gynyrchiadau byw, yn cynnwys 24 premiere byd, a 4 gwaith digidol.

Gyda’n hanes ni o greu gwaith arloesol, rydym wedi cymhwyso’r ffordd hon o feddwl ar ein cyfer ni’n hunain – gan ofyn pa werth allwn ni, fel crëwyr opera newydd, ddod i gymdeithas? Ein hateb yw ailddychmygu beth yw opera, a chreu gwaith sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o Gymru a’r DU fel y maent yn awr. Byddwn yn cyflawni hyn trwy ofyn i’r union artistiaid a chymunedau sydd wedi cael eu hanwybyddu neu eu heithrio o fyd yr opera i ddod â’u sgiliau, eu gweledigaeth, eu straeon a’u cerddoriaeth i ffurf sy’n galw’n daer am gyfeiriad newydd ac am gynulleidfa newydd. Ein nod yw dod ag opera’n ôl i gysylltiad â rhagor o bobl a rhagor o gymunedau.

Future Directions

Mae MTW wedi newid

Byth ers ein sefydlu ym 1988, mae MTW wedi bod yn rym dros newid a datblygu opera yn y DU. Cawn ein hannog gan gred angerddol y gall opera newydd ei chreu ddarparu rhai o'r profiadau mwyaf cyffrous a phwerus, ac rydym bob amser wedi bod eisiau rhannu hyn mor eang ag sy'n bosibl.

Ers 2022, mae ystod ein gwaith a’n dull ni o weithio wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth, ond mae ein cenhadaeth graidd yn para’n gyson, sef cyflwyno opera fel ffurf gyfoes ar gelf. Ac mae’r gair ‘cyfoes’ yn golygu NAWR – cymdeithas fel y mae nawr ac nid fel yr oedd, yn gweithio i ymateb i newid, a gweld hyn fel cyfle creadigol yn ogystal â hanfodol, ac yn ceisio rhannu gwaith mewn dull sy’n wirioneddol berthnasol ac ymgysylltiol. Bydd popeth rydym yn ei wneud yn cael ei nodweddu gan ragoriaeth – o ran creu a pherfformio, ymgysylltu a chynhwysiant, trefnu a gweithredu, ac effaith a chyfrifoldeb.

Mae ein cynnyrch creadigol yn cael ei fframio gan ddwy raglen a ddiffinnir gan y bobl sy’n creu’r gwaith:

New Directions: rhaglen sy’n comisiynu a chefnogi artistiaid profiadol ac addawol o’r Mwyafrif Byd-eang i’w galluogi i greu opera newydd – digidol a byw.

Future Directions: cynllun blaengar dan arweiniad ieuenctid, yn ffocysu ar ymgysylltu pobl ifanc (yn benodol y rhai sy’n wynebu rhwystrau o amgylch anghenion ychwanegol a chyni economaidd-gymdeithasol) ledled Cymru, i gymryd rhan mewn creu gwaith operatig newydd – adrodd stori mewn cerddoriaeth fel opera ddigidol. Mae hwn yn bartneriaeth gyda Hijinx – un o’r prif gwmnïau theatr gynhwysol yn Ewrop, sy’n creu perfformiadau rhagorol gydag artistiaid a chanddynt anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ar lwyfan ac ar sgrin, ar gyfer Cymru a’r byd.

Ynghyd â’r rhaglenni hyn, rydym yn datblygu ystod o gynyrchiadau a phrosiectau sydd â’r bwriad o chwalu’r rhwystrau sy’n bodoli o gwmpas opera: Opera Celf Stryd; Ffurf Byr, sef gwaith ar raddfa fechan sy’n digwydd mewn mannau anghonfensiynol lle mae pobl yn ymgynnull; gwaith newydd a grëwyd yn Gymraeg; gwaith ar gyfer y llwyfan sy’n cyfuno stori, cerddoriaeth, theatr ac opera mewn dulliau na ellir eu diffinio, a gwaith newydd a grëwyd gyda ac ar gyfer cymunedau penodol. Byddwn hefyd yn lansio Sioe Deithiol, a fydd yn creu sgyrsiau rhwng cynulleidfaoedd ac artistiaid i archwilio syniadau ac ymatebion i berfformiadau, prosiectau a digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd llais yr opera i’w glywed ym mhob prosiect, fel un o’r celfyddydau perfformio mwyaf dyrchafol, emosiynol, cyffrous a llawn mynegiant y gwyddom amdanynt.

O 2024, byddwn yn dechrau partneriaeth strwythurol newydd a chyffrous a fydd yn ymestyn ystod y cyfleoedd creadigol y gall y ddau gwmni eu cynnig i gerddorion proffesiynol yng nghamau cyntaf eu gyrfa, gan ymestyn ein gallu i greu rhagor o gyfleoedd i artistiaid greu a pherfformio, a mwy o waith y gall cynulleidfaoedd ymgysylltu ag ef.

Board members

  • Kerry Skidmore (Chair)
  • Clare Edwards
  • Tony Followell
  • Louis Gray
  • Kieran Jones
  • Anna Pool
  • Dylan Rees
  • Phillippa Scammel
  • Mehdi Razi

Denis & Katya
Photography by Clive Barda

Hanes

Wedi'i sefydlu ym 1988 drwy uno’r Cardiff New Opera Group (a sefydlwyd ar y cyd gan Michael McCarthy a Michael Rafferty yn 1982) a’r St Donats Music Theatre Ensemble (a sefydlwyd gan John Metcalf) ym 1988, mae Music Theatre Wales wedi bod yn rym arloesol mewn opera newydd ledled y DU, yn creu gwaith mentrus a beiddgar, gan archwilio'r hyn y gall opera fod a sut y gall gyrraedd cynulleidfaoedd. Rydym wedi gweithio gyda nifer o gyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus ein hoes, a phryfocio a herio cyfansoddwyr ac ysgrifenwyr sy'n newydd i'r ffurf hon. Ein nod, ers y cychwyn, yw sicrhau bod opera a theatr gerdd yn parhau'n ffyrdd perthnasol, bywiog a chyfoes o fynegi, gyda'r gallu i gyffwrdd â'r galon ac agor y meddwl a rhoi profiadau pwerus a chofiadwy i gynulleidfaoedd.

Wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, rydym wedi adeiladu enw da yn rhyngwladol am arloesedd ac ansawdd, gan berfformio a gweithio gyda phartneriaid ledled Ewrop, yn Ne Corea, Sgandinafia a Gogledd America.

Violet

Partneriaid Cynhyrchu Eraill

Rydym wedi creu cynyrchiadau ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol: Opera Philadelphia, Opera National du Rhin yn Strasbourg, Gŵyl Berlin, Opera Vest yn Norwy, Banff Centre yng Nghanada, Opera Theatre of St Louis, Haarlem Theatre yn yr Iseldiroedd, Treffpunkt yn Stuttgart, a Theater Magdeburg yn yr Almaen.

Yn y DU rydym wedi creu cynyrchiadau gyda Fio, Britten Pears Arts a Gŵyl Aldeburgh, y London Sinfonietta, Royal Opera House, Scottish Opera, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Brycheiniog, Glasgow 1990, Scottish Chamber Orchestra, Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Cheltenham a HOME ym Manceinion.chael McCarthy a Michael Rafferty - yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2016.

GWOBRAU

Yn 2023, enwebwyd Violet am y wobr Opera yng Ngwobrau Sky Arts

Yn 2022, enillodd The Jollof House Party Opera – y fersiwn digidol gwreiddiol – Wobr Ffocws Gŵyl Ffilm Cymru.

Yn 2022, enwebwyd Violet am Wobr Theatr y DU ac yn y categori Premiere Byd yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol.

Yn 2020, enillodd Philip Venables wobr IVOR am Waith Llwyfan i Denis & Katya a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd gan MTW.

Yn 2019, enillodd Denis & Katya Wobr Fedora am Opera.

Yn 2015, dyfarnwyd Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau i Michael McCarthy yng Ngwobrau Theatr Cymru am ei gynhyrchiad o The Trial.

Yn 2013, enillodd Ghost Patrol gan Stuart MacRae a Louise Welsh Wobr South Bank Sky Arts.

Yn 2013, enwebwyd y sioe ddwbl In the Locked Room gan Huw Watkins a David Harsent a Ghost Patrol am Wobr Olivier.

Yn 2011, yng Ngwobrau Theatr TMA, enillwyd gwobr am y Cyflawniad Arbennig mewn Opera am ein cynhyrchiad o Greek gan Mark-Anthony Turnage.

Dyfarnwyd MBE i gyd-sylfaenwyr MTW – Michael McCarthy a Michael Rafferty – yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2016.

The Jollof House Party Opera

POLISÏAU A GWEITHREDU

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant

Mae Music Theatre Wales wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw.

Mae MTW yn falch o fod yn aelod o Black Lives in Music.