EIN GWAITH

Ein prif uchelgais ni yn Music Theatre Wales yw bod yn sbardun dros newid: herio tueddiad byd opera i lynu wrth y gorffennol trwy greu cyfeiriad newydd a gwahanol ar gyfer dyfodol y ffurf hon o gelfyddyd. Wrth ledu gorwelion opera, credwn y gallwn ddangos ei bod yn ffurf ar gelfyddyd a chanddi’r gallu i ymgysylltu â phobl o bob rhan o gymdeithas. I gyflawni hyn, gwyddom y bydd raid i ninnau hefyd newid, a chymryd arweiniad gan artistiaid nad ydym wedi gweithio gyda hwy erioed o’r blaen. Trwy gydweithredu ag ystod ehangach o ymarferwyr, a harneisio eu creadigrwydd hwy i archwilio syniadau, ffurfiau a straeon newydd, byddwn yn gallu cysylltu â, ac ysbrydoli, cynulleidfaoedd nad ydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd.

Cyfeiriadau Newydd / New Directions

I roi’r broses hon ar waith, rydyn ni’n lansio Cyfeiriadau Newydd / New Directions.

Gyda Cyfeiriadau Newydd, mae Music Theatre Wales yn camu tuag at gyflawni newid go iawn – o ran y cwmni, yn nhermau amrywiaeth y rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw ac yn eu comisiynu, ac o ran dyfodol y maes opera.

Drwy gyfrwng y rhaglen newydd hon, byddwn yn gofyn: beth all opera a theatr gerddorol fod yn yr 2020au? Pwy sy’n eu creu? Ar gyfer pwy maen nhw? Sut y gellir eu creu? Ac ymhle y byddant yn cael eu perfformio?

Nod y rhaglen hon yw ymgysylltu â grwpiau sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu tangynrychioli ym myd yr opera, yn cynnwys artistiaid Du ac Asiaidd, artistiaid amrywiol eu cefndir ethnig, artistiaid anabl, artistiaid LGBTQ+, a’r rhai hynny nad ydynt hyd yn hyn wedi ymgysylltu â’r maes. A chan ein bod mewn cyfnod lle na allwn gyflwyno perfformiad byw, bydd y ffocws cychwynnol ar gynhyrchu gwaith digidol.

Bydd Cyfeiriadau Newydd yn cychwyn gyda rhaglen blwyddyn lawn o gomisiynu a datblygu ar gyfer cyfansoddwyr, awduron, gwneuthurwyr theatr ac artistiaid digidol Du, Asiaidd ac amrywiol eu cefndir ethnig, a bydd yn cynnwys proses fewnol o ymchwil, datblygiad a gwerthuso ar gyfer MTW. Arweinir y rhaglen gan Elayce Ismail, cyfarwyddwr theatr/opera a dramatwrg, a fydd yn camu i swydd sydd newydd gael ei chreu, sef Cysylltai Artistig. Bydd Elayce yn gweithio fel uwch-aelod o dîm MTW ar gytundeb blwyddyn, gan gydweithredu gyda Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig MTW, i lunio’r rhaglen Cyfeiriadau Newydd, ac i gefnogi a herio MTW yn y broses barhaus o ddysgu a datblygu trefniadol. Bydd hi hefyd yn gweithio’n agos gydag artistiaid a gomisiynwyd, er mwyn cefnogi a datblygu eu syniadau, a gwreiddio’r llif newydd hwn o waith yng nghalon y cwmni.

A ninnau wedi ein hysbrydoli gan y gwaith digidol cyntaf a grëwyd gennym ni, sef AMAZON (a gomisiynwyd ar gyfer y rhaglen Homemakers yn HOME Manceinion ym mis Gorffennaf 2020), bydd Cyfeiriadau Newydd yn cynnwys tri chomisiwn i greu gwaith digidol newydd, i’w gyflwyno cyn diwedd Awst 2021. Bydd pob tîm yn cynnwys cyfansoddwr yn gweithio gyda naill ai awdur, gwneuthurwr theatr, artist digidol neu berson creadigol arall.

Trwy gyfrwng y rhaglen Cyfeiriadau Newydd, bydd MTW yn dathlu lleisiau’r rhai rydyn ni’n eu comisiynu fel artistiaid yn eu hawl eu hunain, ac yn arwain trwy esiampl mewn diwydiant sydd wedi bod yn araf i gofleidio amrywiaeth. Mae paramedrau’r gweithiau digidol yn fwriadol eang: cawn ein harwain gan weledigaethau’r artistiaid a gomisiynwyd o ran beth all opera a theatr gerddorol fod, yn nhermau’r straeon maent yn dewis eu hadrodd a’r prosesau maent yn eu defnyddio. Wrth i MTW gamu i mewn i’r cyfnod newydd hwn o greadigrwydd, gan gydweithio gydag artistiaid fydd yn ein hysbrydoli i arloesi, rydym hefyd yn teimlo’n gyffrous wrth estyn allan i gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol, a rhannu ein gwaith ar raddfa fwy eang.

CYNHYRCHION CYFREDOL

CYNYRCHIADAU Y DYFODOL AGOS

CYNHYRCHIADAU DIWEDDAR

CYNHYRCHIADAU DIWEDDAR

Denis & Katya

Music Theatre Wales, Opera Philadelphia & Opéra Orchestre National Montpellier With London Sinfonietta Music by Philip Venables Written & directed by Ted Huffman

Two 15-year-olds in love who lived every moment, including their last, online.

Darllenwch Fwy

CYNHYRCHIADAU DIWEDDAR

The Intelligence Park

Music Theatre Wales a’r The Royal Opera Gyda’r London Sinfonietta Gan Gerald Barry Libretto gan Vincent Deane

Cyd-gynhyrchiad newydd o opera gyntaf Gerald Barry – mentrus a swreal, ac yn cymylu ffiniau dychymyg a realiti, wrth iddo archwilio syniadau o rywioldeb, creadigedd a rhwymedigaeth.

Darllenwch Fwy

CYNHYRCHIAD O’R GORFFENNOLs

CYNHYRCHIADAU DIWEDDAR

Passion

Gyda London Sinfonietta ac EXAUDI

Darllenwch Fwy

CYNHYRCHIADAU DIWEDDAR

The Golden Dragon

Perfformiad Cyntaf Yn y DG 2016

Darllenwch Fwy

Previous Production

The Devil Inside

Dangosiad Cyntaf Yn Y Dg 2016

Darllenwch Fwy

Previous Production

The Trial

Uperfformiad Cyntaf Yn Y Dg 2014

Darllenwch Fwy

Previous Production

The Killing Flower

Perfformiad cyntaf yn y DG 2013

Darllenwch Fwy

Previous Production

Ping

Perfformiad cyntaf yn y DG 2013

Darllenwch Fwy

Previous Production

Eight Songs For A Mad King

Perfformiad cyntaf 2013

Darllenwch Fwy

Previous Production

In the Locked Room

Perfformiad cyntaf yn y DG 2012

Darllenwch Fwy

Previous Production

Ghost Patrol

Perfformiad cyntaf yn y DG 2012

Darllenwch Fwy

Previous Production

Greek

Perfformiad cyntaf 2011

Darllenwch Fwy

Previous Production

In The Penal Colony

Perfformiad cyntaf yn y DG 2010

Darllenwch Fwy