CYFLWYNIAD

Crëwyd gan y Cyfansoddwr Alex Ho a’r Gwneuthurwr Theatr Elayce Ismail
Cyd-gomisiwn gan Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta
a wnaed mewn partneriaeth â HOME


Mae taith i’r Amazon yn cymryd tro annisgwyl.
Mae cerddoriaeth, geiriau a deunydd gweledol yn cyfuno mewn adlewyrchiad barddonol o’r byd rydym yn byw ynddo.

Dyw Alex Ho ac Elayce Ismail erioed wedi cwrdd wyneb yn wyneb.

Doedd yr un o’r ddau erioed wedi defnyddio Zoom cyn y cyfnod clo.

Erbyn hyn maen nhw’n gwybod llawer iawn am du mewn cartrefi ei gilydd: ble mae’r signal gorau i’w gael, beth sydd i’w weld yn hongian ar gefn y drws, pa mor dda mae sŵn lorri’n bacio yn Llundain yn cario cyn belled â Chaergrawnt . . .

Allan o’r cyfarfod rhithiol yma, a rhannu bywydau a syniadau, y crëwyd AMAZON. Mae’r broses o greu’r darn yn adlewyrchu profiadau’r ddau o’r cyfnod clo: daeth yr hyn a gychwynnodd fel myfyrdod ar atal amser a dymchwel gofod yn ymdrech i gysylltu â’r byd y tu hwnt i’w sgriniau a’r tu allan i’w ffenestri. Canlyniad hyn i gyd oedd cydweithrediad rhyfeddol a llawen a aeth â hwy ar daith i ochr arall y byd.

Bellach, gallwch wylio AMAZON ar Sianel y London Sinfonietta



Partneriaid Comisiynu/Cynhyrchu

Ynghylch y London Sinfonietta

Mae’r London Sinfonietta yn un o’r ensemblau cerdd cyfoes gorau yn y byd. Wedi ei ffurfio yn 1968, mae ymrwymiad y grŵp i greu cerddoriaeth newydd wedi arwain at gomisiynu 400 o weithiau a chyflwyno perfformiad premiere cannoedd yn rhagor. Ei ethos heddiw yw i arbrofi’n gyson gyda ffurf artistig sy’n newid yn barhaus, gan dynnu at ei gilydd y cerddorion, y cyfansoddwyr a’r artistiaid gorau i greu gwaith o’r radd flaenaf ac sy’n cymryd risg. Ar hyn o bryd, ychwanegir at ei gatalog helaeth o waith wedi’i recordio gyda phrosiectau creadigol newydd a pherfformiadau ar-lein sydd â’r nod o ysbrydoli a chynnwys cynulleidfa sy’n ehangu’n gyson. A hwythau’n artistiaid preswyl yng Nghanolfan y Southbank ac yn Gysylltai Artistig yn Kings Place, gyda rhaglen brysur o deithio, mae deunaw Prif Offerynnwr craidd y London Sinfonietta ymhlith rhai o’r cerddorion gorau yn y byd. Mae’r sefydliad yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Music Theatre Wales.

Ynghylch Homemakers

Cyfres o gomisiynau newydd yw Homemakers sy’n gwahodd artistiaid i greu gweithiau newydd yn eu cartrefi, ar gyfer cynulleidfa sydd hefyd yn eu cartrefi hwythau. Mae’r comisiynau hyn, a ariennir yn llawn, yn cynnig cyfle i artistiaid arloesol herio’r diffiniad o “berfformiad byw” – p’un ai drwy lif byw, recordiadau, gemau, straeon rhyngweithiol, cyfarfyddiadau personol, neu rywbeth cwbl wahanol.