CYFLWYNIAD

Cerddoriaeth gan Philip Venables
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Ted Huffman

Dau gariad 15 oed oedd yn byw bob munud - yn cynnwys eu munudau olaf un - ar-lein.

Mae'r cyfansoddwr Philip Venables a'r cyfarwyddwr Ted Huffman - y ddau sy'n gyfrifol am yr opera arobryn 4.48 Psychosis - yn edrych ar y drasiedi go iawn a ddigwyddodd i bâr ifanc o Rwsia, Denis Muravyov a Katya Vlasova, a aeth ar ffo. A hwythau'n cael eu galw yn Romeo a Juliet ein dyddiau ni, darlledodd y ddau eu dyddiau gwaharddedig olaf gyda'i gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Er gwell neu er gwaeth, roedd y cyhoedd yn clicio, yn gwylio ac yn ymateb.

Gan blethu testun gair-am-air, fideo, cerddoriaeth a theatr, mae Denis & Katya yn archwilio sut mae straeon yn cael eu siapio a'u rhannu yn ein hoes ni lle ceir trôls, damcaniaethau am gynllwynio, newyddion ffug, a chysylltiad digidol 24 awr y dydd, bob dydd.

Beth sy'n gwneud i chi glicio?

Cyd-gomisiynwyd a chyd-gynhyrchwyd gan Music Theatre Wales, Opera Philadelphia ac Opéra Orchestre National Montpellier

Perfformiadau yn y DU ar y cyd â’r London Sinfonietta

Enillydd Gwobr FEDORA - GENERALI am Opera 2019

Perfformiad cyntaf: Festival O19, Opera Philadelphia , 18 Medi 2019

Denis & Katya wins an IVOR

Ar y cyd â'r cynhyrchiad hwn, buom yn rhedeg Rhaglen Greadigol ac Ymgynghorol i Bobl Ifanc. Gallwch weld yr effaith gafodd y rhaglen hon trwy wylio
https://vimeo.com/461879859

Gallwch hefyd glywed y traciau a recordiwyd ganddynt ar
https://soundcloud.com/user-696596153/albums

Y CYNHYRCHIAD

Y cyfansoddwr Philip Venables a'r awdur-gyfarwyddwr Ted Huffman yn trafod Denis & Katya cyn y premier byd yng Ngŵyl 019 Opera Philadelphia ym mis Medi 2019.

Dysgu mwy

Michael McCarthy: Archwilio sut y crëwyd Denis & Katya

Production stories & insights



Tîm Creadigol Gwreiddiol Opera Philadelphia

Andrew Lieberman Cynllunydd Golygfeydd a Goleuo

Millie Hiibel Cynllunydd Gwisgoedd

Rob Kaplowitz Cynllunydd Sain

Pierre Martin Cynllunydd Fideo

ADOLYGIADAU

Allgymorth

Yn 2018, cychwynnodd MTW ar daith i herio ein canfyddiadau ni ein hunain o’n cynulleidfaoedd ac o’r gweithiau maent yn awyddus i ymgysylltu â hwy. Rydym yn awyddus i ddysgu ac i dyfu, gan anelu at greu gwaith sy’n siarad gyda rhagor o bobl yng Nghymru..

Ein darn cyntaf o waith yn y broses ddysgu hon oedd ein Hymgynghoriad Creadigol ar gyfer Pobl Ifanc, fu’n cydweithio ac ymgynghori â phobl ifanc o ogledd-ddwyrain Cymru, ac o ddau leoliad yn ne Cymru.

Aeth y grwpiau ati i greu gwaith mewn ymateb uniongyrchol i’n hopera arloesol Denis & Katya, ac i’r tebygrwydd annisgwyl i’w bywydau hwy eu hunain a orfodwyd arnynt gan y pandemig.

Gwrandewch ar waith y bobl ifanc ar Soundcloud..