Dosbarth Meistr Gwnewch Aria

Dydd Gwener Mai 11 | 7.30pm | Tocynnau £5 (ar y drws) Neuadd Mathias | Ysgol Gerdd | Prifysgol Bangor

Rhan o raglen datblygu artistiaid Music Theatre Wales yw Gwnewch Aria ac mae’n cyflwyno cyfansoddwyr ac awduron i’r broses o ysgrifennu opera, drwy eu gwahodd i gydweithio gan ysgrifennu aria unigol. Byddwn yn dod â chyfansoddwyr ac awduron newydd ynghyd bob blwyddyn nad sydd erioed wedi ysgrifennu opera o’r blaen a’u cyflwyno i thema fydd yn hybu eu proses creadigol cyfrannol.  

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae ein timoedd o gyfansoddwyr /libretwyr wedi bod yn gweithio ar eu sgoriau, gan chwilota i gynrychiolaeth o ddadleoliad ac ecsploetio fel themâu canolog o fewn y gweithiau. Mae Michael McCarthy a Richard Baker wedi cefnogi’r timoedd drwy gydol y sesiynau ac wedi canolbwyntio ar eu tywys drwy’r broses o lunio a mireinio eu gwaith.

Yn y Dosbarth Meistr cyhoeddus yma, bydd y cantorion Llio Evans, Leah-Marian Jones a Robyn Lyn Evans yn perfformio’r ariâu, gyda mewnwelediadau ac adborth gan y cyfansoddwr clodfawr, John Hardy, sydd yn enwog am ei waith ar gyfer y llwyfan, ffilm a theledu, (yn fwyaf diweddar Y Gwyll/Hinterland). Dyma gyfle gwych i gael ciplun mewn i greu opera.