GWNEWCH ARIA

Pethau prin iawn yw comisiynau operatig. Efallai nad yw hyn yn syndod, oherwydd yr holl amser a’r buddsoddiad sydd ei angen i weld y gwaith yn cael ei ddatblygu, o’r cysyniad i’r cynhyrchiad. O’r holl ffurfiau cerddorol, rhaid mai opera yw’r un mwyaf cymhleth ac nid yw pob cyfansoddwr yn hapus i ddechrau ar waith mor feichus. Felly sut allwch chi ganfod os oes gyda chi’r hyn sydd ei angen i ysgrifennu opera?

Dyma oedd un o’r rhesymau a’n gyrrodd i lansio Gwnewch Aria/Make an Aria ‘nôl yn 2008 – i roi cyfle i gyfansoddwyr ifanc gael blas o ba beth yw e’ i fynd i’r afael â ffurf o gelfyddyd a darganfod os gallai fod ganddo le yn eu gyrfa gerddoriaeth proffesiynol.

Down â nhw at ei gilydd gydag awduron a dramodwyr er mwyn ffurfio partneriaethau rhwng cyfansoddwyr a libretyddion dros gyfnod o fisoedd i roi cymorth a chyngor fydd yn ganllaw iddyn nhw ac yn eu tywys drwy gymhlethdodau ysgrifennu aria – sef calon ac enaid unrhyw opera.

Yn ystod y blynyddoedd, rydym wedi rhedeg y cynllun yng Nghaerdydd, Birmingham, Leeds, Rhydychen a Manceinion. Bob tro, mae’r project yn gorffen gyda pherfformiadau o bob un aria gan gantorion proffesiynol yn ystod meistr ddosbarth cyhoeddus o dan arweiniad cyfansoddwyr amlwg fel Judith Weir, Nigel Osborne, Mark-Anthony Turnage, Harrison Birtwistle ac yn fwyaf diweddar, Stuart MacRae.