CYFLWYNIAD

Pleser o’r mwyaf i ni yw cyflwyno PASSION – cyd-gynhyrchiad newydd gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o opera-ddawns gan Pascal Dusapin, a welwyd ac a ganmolwyd eisoes ledled Ewrop, ond na chafodd ei gweld cyn hyn yn y Deyrnas Gyfunol.

Caiff y cynhyrchiad hwn – a grëwyd mewn cydweithrediad â’r London Sinfonietta ac EXAUDI, hwythau’n gyd-arbenigwyr ym myd celfyddyd gyfoes – ei berfformio mewn cyfieithiad newydd Saesneg a gomisiynwyd gan y libretydd Amanda Holden, a thrwy hynny ymestyn ein cyfres o weithiau rhyngwladol sy’n newydd i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys The Killing Flower gan Salvatore Sciarrino a The Golden Dragon gan Peter Eötvös.

Yn y gwaith hynod brydferth a synhwyrus hwn i lais a chorff, mae Dusapin yn archwilio poen a nwyd dau gariad sy’n cael eu gorfodi i fyw ar wahân mewn bydoedd gwahanol. Gyda’r chwedl am Orpheus yn sail iddo, mae hwn yn fersiwn cyfoes a chyfareddol – hi yw’r un sy’n dymuno cael ei dilyn. Yn gymysg â seiniau atgofus yr harpsichord a’r Oud Arabaidd mae sgôr disglair, aflonydd Dusapin – a berfformir gan y London Sinfonietta – yn cyfleu byd di-amser lle gall symudiadau’r dawnswyr a’r cantorion fynegi eu stori o golled a nwyd.

Y STORI

O ganlyniad i ddamwain drasig, mae menyw sydd newydd briodi yn marw ar ôl iddi gael ei brathu gan neidr, gan adael ei gŵr yn unig ac yn torri’i galon. Mae e’n dymuno ei chael yn ôl, a byddai’n fodlon gwneud unrhyw beth i sicrhau hynny, ond mae hi eisoes wedi mynd i le arall. Wrth iddi hi ddod i delerau â’i chyflwr newydd o fodolaeth, mae e’n estyn allan amdani hi gan groesi ffiniau dieithr. Er bod y ddau ohonynt yn awyddus i fod gyda’i gilydd unwaith eto, mae hi’n deall na all byth ddychwelyd, ac mai’r unig ffordd yw iddo e ei dilyn hi. Ond mae hynny’n amhosibl. Wrth iddi hi geisio derbyn ei bodolaeth newydd – ar wahân, ac yn amddifad o bopeth oedd yn gyfarwydd iddi – caiff e ei adael ar ei ben ei hun i fyfyrio am ei gyflwr newydd. Yn unig, yn fyw ac yn amddifad, mae’n chwilio am gysur mewn cerddoriaeth.

Y CYNHYRCHIAD

Opera-ddawns yw PASSION sy’n archwilio argyfwng emosiynol dau gariad, un ohonynt yn fyw a’r llall sydd wedi colli’i bywyd mewn modd creulon. Mae’n archwilio eu teimlad o nwyd a cholled, a’r angerdd a ysgogwyd gan y ffaith eu bod wedi eu gwahanu.

Mae hi’n stori syml iawn, wedi’i chyflwyno mewn dull anunionlin, mewn episodau toredig a symudiadau haniaethol.

Mae yna ddau gymeriad: Fe a Hi (Him and Her). Mae Hi wedi marw, ac mae Ef yn bwriadu ei hadfer Hi, neu o leiaf ailgysylltu â Hi. Mae’r ddau yn dwyn eiliad Ei marwolaeth i gof mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol adegau, a hynny dro ar ôl tro. Mae’n rhaid iddo Ef ddod i delerau â’i diflaniad Hi, tra ar yr un pryd rhaid iddi Hi gydnabod ei chyflwr newydd o fodolaeth – sef marwolaeth.  

Bydd rhai pobl yn cysylltu hyn â stori Orpheus ac Euridice, ond mae’n newid yn y fan hon. Yn yr hen chwedl, mae Orpheus yn perswadio’r duwiau i adael iddo ddod â’i anwylyd yn ôl yn fyw, ar un amod – na ddylai edrych yn ôl arni hi. Ond, wrth gwrs, mae’n methu ac yn treulio gweddill ei ddyddiau’n canu am boen ei golled. Yn y stori draddodiadol mae’r cyfan yn digwydd i Orpheus – ei marwolaeth hi, ei drafodaethau llwyddiannus, ac yna ei hail golled o ganlyniad i’w weithredoedd ef. Ni roddir unrhyw ystyriaeth i effaith marwolaeth ar Euridice, ac nid oes ganddi ddewis yn y cynllun i geisio’i hachub. Mae Passion yn cymryd ei phersbectif hi, ac yn adfer ei llais.

Yn Passion, mae’r cariadon yn cwrdd – ond gan ddeall ei chyflwr newydd o fodolaeth, mae Hi’n deall na all, neu na fydd, yn dychwelyd. Ni chaiff byth weld golau’r haul eto, a chaiff Ef ei adael ar ei ben ei hun. Mae E’n canu galargan ar yr Oud.

Fel opera-ddawns, perfformir PASSION gan ddau ganwr ac ensemble o ddawnswyr. Daw symudiadau’r dawnswyr yn estyniad o deimladau a nwydau’r cymeriadau a bortreadir gan y cantorion, ac mae’r cantorion yn mynegi emosiynau’r cymeriadau trwy eu corffolrwydd a’u rhyngweithio gyda’r dawnswyr lawn cymaint ag a wnânt drwy eu lleisiau. Ein nod yw cyflawni undod barddonol rhwng y llais a’r corff, symudiad a sain, cerddoriaeth ac emosiwn, lle na all geiriau’n unig fyth fod yn ddigon.

Fel y dywedodd Debussy: “mae cerddoriaeth yn bodoli er mwyn cyfleu’r hyn na ellir ei fynegi” – ac felly hefyd y ddawns, yr elfen fwyaf cerddorol o’r celfyddydau perfformio o bosib, sy’n ymgorfforiad o fyd sain.

TOUR DATES

CYLCHLYTHYR

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr

HOLL FFOTOGRAFFIAETH Y CYNHYRCHIADAU GAN Clive Barda ONI BAI Y DYWEDIR FEL ARALL | HOLL HAWLFRAINT GAN MUSIC THEATRE WALES 2017.