Y STORY
Dilyna hanes dau grwydryn ifanc, James a Richard, sydd yn mynd ar goll ar ben mynydd, ar noson stormus. Yna, drwy ryw weithred hudolus, mae plasdy prydferth yn ymddangos o’u blaenau. Daw hen ŵr allan, â’i gefn yn grwca o dan ei holl ofidion. Yna mae’n sôn am hanes y tŷ rhyfeddol a’i gyfoeth wrth y teithwyr, a’i fod wedi cael y cyfan gan ellyll, sydd wedi ei gaethiwo tu fewn i botel hud.
Bydd yr ellyll yn gwireddu dymuniadau ei berchenog, ond ceir dau amod. Os bydd y perchenog farw tra ifod yn berchen ar y botel, yna, bydd yn llosgi yn fflamau uffern am dragwyddoldeb. Yr ail amod yw fod yn rhaid gwerthu’r botel am bris llai na’r hyn a dalwyd amdano yn flaenorol. Mae’r pris eisoes yn beryglus o isel.
Daw dymuniadau James yn wir ac mae’r ellyll yn creu ymerodraeth eiddo iddo. Yna, gwertha James y botel i’w frawd, sydd yn bwriadu mynd ar daith gan ddymuno ffortiwn i’w hun. Wrth iddo adael mae Catherine yn cyrraedd. Mae hithau a James yn syrthio mewn cariad ac yn priodi. Mae popeth yn berffaith. Maen nhw’n ifanc, yn gyfoethog ac yn awyddus i ddechrau teulu. Ond pan gaiff Catherine ei tharo’n wael iawn, mae James yn wynebu dewis. Gall wylio ei wraig yn marw o flaen ei lygaid neu fe all brynu’r botel yn ôl am bris is o lawer a rhoi ei hun mewn perygl o ddamnedigaeth tragwyddol. Hanes o gariad, aberth a llwyrddibyniaeth sydd yn dilyn. Wrth i bris y botel ddisgyn yn is, mae’r ellyll yn tyfu’n fwy crac ac yn fwy eiddgar i ffoi. Mae damnedigaeth yn disgwyl rhywun, ond pwy fydd hynny?
Ysbrydolwyd The Devil Inside gan y stori fer, The Bottle Imp, gan Robert Louis Stevenson. Mae yn yr opera elfennau sy’n ein hatgoffa o’i stori enwocaf oedd yn rhan o’r gyfres “The Shilling Shocker”, sef The Strange Case of Doctor Jekyll and Mr Hyde.