Llwyddodd y brotest bwerus a didwyll yn erbyn The Golden Dragon i agor ein llygaid i bersbectif nad oeddem wedi ei ystyried cyn hynny.

Roedd hwn yn brofiad heriol, a gwyddem fod angen i ni wrando’n ofalus ar y dadleuon a gyflwynwyd, a gwneud ein gorau i ddysgu ac i newid.

Darllenwch fwy am ein taith yma:

Lessons in Diversity and Inclusion - the story so far (published 8/10/18)

MAE MTW YN NEWID

CYFLWYNIAD

Gan Peter Eötvös Yn seiliedig ar y ddrama gan Roland Schimmelpfennig

Mae mudo, ecsploetio, gobeithion a breudwydion coll wrth galon The Golden Dragon, sef stori gymhellgar o fywyd cyfoes - doniol, arswydus a theimladwy i’r un graddau.

Wrth galon yr hanes yma o’r Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin mae darganfyddiad o ddant pwdr mewn bowlen o gawl. I’r “crwt” yn y gegin mae’r dant yn perthyn ac mae e’n bell iawn o’i gartref heb unrhyw bapurau swyddogol. Mae ef hefyd yn chwilio am ei chwaer ond cafodd hithau ei gorfodi mewn i wasanaeth o fath gwahanol iawn drws nesaf…

Mae The Golden Dragon yn sicr yn ymdrin â materion difrifol y gellir eu hadnabod ym myd heddiw, ond yr hyn a darodd Cyfarwyddwr Artistig MTW, Michael McCarthy mewn modd mor bwerus, oedd bywiogrwydd a medrusrwydd gwaith Eötvös a hwyl theatrig y darn. Caiff The Golden Dragon ei gyfarwyddo gan Michael McCarthy mewn rhifyn perfformio Saesneg a gafod ei greu gan Peter Eötvös, gan gynnwys peth ad-drefniad o’i gyfansoddiad gwreiddiol. Ymhlith y cast o bump canwr sydd yn cymryd sawl rhan mae Llio Evans, Lucy Schaufer, Andrew MacKenzie-Wicks a Johnny Herford a Michael Rafferty sydd yn cyfarwyddo Ensemble Music Theatre Wales.

Y STORY

Yn gymysgedd o gomedi a thrasiedi, mae The Golden Dragon wedi ei osod mewn tŷ bwyta Asiaidd ac yn dilyn helynt mewnfudr o Tsieina sydd yn gweithio’n anghyfreithlon yn y gegin. Ar ôl dioddef o’r ddannodd, does dim modd iddo gael help meddygol o ganlyniad i’w statws anghyfreithlon, felly does gando ddim dewis ond derbyn help ac ymdrechion gorau ei gyfeillion yn y gegin, gyda chanlyniadau trychinebus. Yn y cyfamser, mae stori gyfochrog ynglŷn â morgrugyn dilornus a chricedyn bregus yn amlygu sefyllfa nifer fawr o bobl mewn modd milain, sydd yn canfod ei hunain ar gyrrion cymdeithas. Opera newydd yw hon gyda pherthnasedd arbennig o bwerus yma a nawr.

Y CYNHYRCHIAD

“This production follows a similar approach to our award-winning staging of Greek – the orchestra takes pride of place on stage, participating in every moment as players and observers. They perform alongside a cast of flamboyant theatrical performers, playing multiple roles with relish and passion, switching from comedy to pathos and from passionate engagement to cool narration. And all the while the opera reveals the potential horrors facing those who seek refuge in foreign lands, notably our own Western and supposedly civilised society.

This opera should have you laughing one moment and despairing the next. Our approach is to revel in the vital and virtuosic score which animates the drama, and to first present the singers as performers who introduce the characters they are about to play. We want to draw people into a world that is at first slapstick and fun but which turns distinctly nasty, not least with the fable of the Cricket and the Ant which starts in the land of storytelling but quickly gets mixed up in the cruel world surrounding the restaurant.”

Michael McCarthy, Director

ADOLYGIADAU

TOUR DATES

Ym mis Ebrill 2017, bydd Music Theatre Wales yn teithio i Dde Corea ar gyfer perfformiadau o The Golden Dragon yng ngŵyl Gerdd Rhyngwladol Tongyeong, gyda chefnogaeth gan y Cyngor Prydeinig.