CYFLWYNIAD

Opera gan Philip Glass. Addasiad gan Christopher Hampton Yn seiliedig ar y nofel gan Franz Kafka

Man cyfarfod dau feddwl rhyfeddol – Philip Glass a Franz Kafka.

Dyma asiad perffaith rhwng y ddau sy’n feistri ar eu crefft ac sydd berchen ar eu harddull arbennig ac adnabyddus eu hunain.

Dyw hanes hunllefus Kafka am ŵr sy’n cael ei arestio a’i erlid am drosedd anhysbys gan awdurdod anhygyrch heb golli’r un gronyn o’i rym iasoer gyda threigl amser. Y tro hwn, daw Philip Glass â phŵer dramatig ei steil o gerddoriaeth nodweddiadol i’r clasur llenyddol hwn. Gan weithio gyda’r libretydd, Christopher Hampton, mae’r opera hon yn dilyn stori wreiddiol Kafka, gan gael gwir flas ar baranoia ddrwg-enwog yr awdur ynghyd â’i ddigrifwch rhyfedd.

Datblygwyd perthynas greadigol drawiadol rhwng Philip Glass a Music Theatre Wales dros y blynyddoedd, sydd yn parhau i gynhyrchu gwaith newydd ar gyfer cynulleidfaoedd opera cyfoes. Mae Glass wedi coleddu’r syniad o droi’r Prawf mewn i opera ers peth amser ac fe ddewisodd gwmni Music Theatre Wales i’w gwneud hi. Ymunwch â ni yn y profiad o flasu ffrwyth y bartneriaeth greadigol ac unigryw yma wrth iddyn nhw ailgreu ac ail-ddychmygu stori broffwydol Kafka.

THE STORY

Ar ddechrau’r Prawf, caiff Josef K ei arestio’n annisgwyl gan ddau ddyn sydd yn ymddangos yn ei ‘stafell wely. Mae’n benblwydd arno’n 30, ac felly efallai taw jôc yw hwn. Ond daw i sylweddoli nad dyma’r achos o gwbl. Er gwaethaf hynny mae’r awdurdodau’n caniatau iddo barhau gyda’i fywyd bob-dydd. Dyw’r rheswm am ei arestio ddim yn glir ac felly caiff K ei orfodi i amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiad anhysbys, ac mae’n mynychu Llys sydd yn cael ei gynnal yn y mannau rhyfeddaf ar adegau heb eu pennu.

Yn y Llys, penderfyna K ar y dechrau i ymladd rhagdybiaeth y system ei fod yn euog a phrofi ei fod yn ddi-euog, ond wrth iddo gyfarfod â mwy o gymeriadau rhyfedd ar ei daith, daw’n amlwg iddo fod y posibilirwydd o ddatrys yr achos yn diflannu. Yn y pen-draw, wrth iddo gael ei fygu gan anobaith ei sefyllfa, teimla K fel nad oes ganddo ddewis ond i dderbyn ei dynged. A dyna a wna.

YN CYNHYRCHIAD

Cafwyd perfformiad cynta’r Prawf neu The Trial yn Nhŷ Opera Linbury Theatre yn y Royal Opera House ym Mis Hydref 2014. Roedd yn gomisiyniad ac yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Music Theatre Wales, the Royal Opera, Theater Magdeburg a Scottish Opera. Mae’r sgôr yma wedi ei gyflwyno i Music Theatre Wales

Cafodd Michael McCarthy wobr am y Cyfarwyddwr Gorau am ei gynhyrchiad o The Trial yng Ngwobrau Theatr Cymru ym mis Ionawr 2015.

TÎM CREADIGOL

Michael Rafferty Arweinydd

Michael McCarthy Cyfarwyddwr

Simon Banham Cynllunydd

Ace McCarron Cynllunydd Golau

CAST & CHYMERIADAU

Josef K Johnny Herford

Fräulein Bürstner | Leni Amanda Forbes

Frau Grubach | Washerwoman (Wife of Court Usher) Rowan Hellier

Titorelli | Flogger | Student (Berthold) | Clerk of Court Paul Curievici

Guard 1 (Franz) | Block Michael Bennett

Lawyer Huld | Magistrate | Court Usher Gwion Thomas

Guard 2 (Willem) | Usher/ Clerk of the Court / Priest Nicholas Folwell

Inspector | Uncle Albert Michael Druiett

ADOLYGIADAU

Michael McCarthy fydd yn cyfarwyddo perfformiad cyntaf Y Prawf yn America yn The Opera Theatre of Saint Louis ym mis Mehefin 2017.