Music.
Theatre.
Wales.
Ail-ddychmygu opera.
Mae Music Theatre Wales (MTW) yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i fyd yr opera, gan ei gyflwyno fel modd o adrodd stori trwy gerddoriaeth a gweithio i adfywio opera fel gweithgaredd llawn mynegiant sy’n hygyrch i bawb. Rydym yn meithrin artistiaid fydd yn creu opera’r dyfodol ac yn cyflwyno opera mewn dulliau dychmygus a fydd yn helpu i newid y canfyddiad traddodiadol o’r hyn ydyw opera a beth y gall fod. Rydym yn gofyn: Beth yw opera? Pwy sy’n ei greu? ac Ar gyfer pwy y mae e?
Mae dwy elfen integredig i’n gwaith:
Datblygu Ffurf ar Gelfyddyd – cael ei hysgogi gan amrywiaeth ac archwilio ffyrdd newydd o greu a chyflwyno opera – fel perfformiad byw mewn theatrau a gofodau cymunedol, fel gwaith digidol ffurf fer, fel opera celf stryd, yn Gymraeg ac mewn cydweithrediad â nifer o wahanol bartneriaid.
Cydlyniant Cymunedol – cynnig opera fel adrodd straeon mewn cerddoriaeth fel modd o fynegiant a datblygiad creadigol i gymunedau sydd yn draddodiadol wedi cael eu hanwybyddu neu eu cau allan o opera.
Ein Gwerthoedd
Ein Stori
Byth ers ein sefydlu ym 1988, mae MTW wedi bod yn rym dros newid a datblygu opera yn y DU. Cawn ein hannog gan gred angerddol y gall opera newydd ei chreu ddarparu rhai o’r profiadau mwyaf cyffrous a phwerus, ac rydym bob amser wedi bod eisiau rhannu hyn mor eang ag sy’n bosibl.
Ers 2022, mae ystod ein gwaith a’n dull ni o weithio wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth, ond mae ein cenhadaeth graidd yn para’n gyson, sef cyflwyno opera fel ffurf gyfoes ar gelf. Ac mae’r gair ‘cyfoes’ yn golygu NAWR – cymdeithas fel y mae nawr ac nid fel yr oedd, yn gweithio i ymateb i newid, a gweld hyn fel cyfle creadigol yn ogystal â hanfodol, ac yn ceisio rhannu gwaith mewn dull sy’n wirioneddol berthnasol ac ymgysylltiol. Bydd popeth rydym yn ei wneud yn cael ei nodweddu gan ragoriaeth – o ran creu a pherfformio, ymgysylltu a chynhwysiant, trefnu a gweithredu, ac effaith a chyfrifoldeb.
Rydym wedi creu 62 o gynyrchiadau, gan gynnwys 22 perfformiad cyntaf y byd a 9 o weithiau digidol newydd eu creu. Mae ein rhaglen ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Operâu Celf Stryd newydd, cyd-greadau Cymunedol, gwaith Pobl Ifanc, comisiwn ar raddfa fwy ar gyfer theatrau, Prosiectau Adrodd Straeon i Ysgolion a pherfformiad o waith newydd a gomisiynwyd ar gyfer ensemble, ffilm a sain wedi’i recordio.
Mae gennym draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth, gyda chydweithrediadau newydd yn eu lle gyda Sinfonia Cymru (y mae gennym bartneriaeth barhaus newydd â nhw), mMusic@Aber, Hijinx, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref RCT, Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, Ty Cerdd a’r Tŷ Opera Brenhinol.
Rydym wedi cydweithio â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Opera Philadelphia, Magdeburg Opera, Opera Nationale du Rhin, Gŵyl Berlin, TIMF yn Ne Korea, Opera Vest yn Norwy a mwy. Yn y DU, rydym wedi cydgynhyrchu gyda The London Sinfonietta, Fio, Britten Pears Arts/Gŵyl Aldeburgh, Theatr Genedlaethol Cymru, Y Tŷ Opera Brenhinol, Scottish Opera, Gŵyl Cheltenham a Theatr Brycheiniog.