Opera Celf Stryd yn dod i Gasnewydd – Wedi’u Cyflwyno gan Operasonic
Mae Music Theatre Wales yn falch i ddod â dwy Opera Celf Stryd, Rahmat-Mercy-Trugaredd ac Out of Time, i Gasnewydd y mis hwn, wedi’u cyflwyno gan Operasonic fel rhan o Newport Live Act Fringe.
Cynhelir y perfformiad ddydd Sadwrn 22 Mawrth yn The Place, ac mae’n achlysur arwyddocaol gan fod un o’r gweithiau, Rahmat–Mercy–Trugaredd, wedi’i gyd-greu gan yr artist o Gasnewydd, Sam Hussain – y tro cyntaf i’r gwaith gael ei gyflwyno yn ei thref enedigol.
Mae Opera Celf Stryd yn ail-ddychmygu beth all opera fod. Wedi’u taflu ar wal ac yn cael ei brofi drwy glustffonau disgo distaw, mae’r gweithiau 10 munud hyn yn cyfuno animeiddio, cerddoriaeth a delweddau celf stryd drawiadol i adrodd straeon cyfoes, grymus mewn gofod cyhoeddus a rennir.
Wedi’u cyflwyno gan Operasonic – elusen gerdd gymunedol wedi’i lleoli yng Nghasnewydd sy’n ymroddedig i greu cyfleoedd creadigol a dathlu’r ddinas drwy gerddoriaeth – mae’r digwyddiad hwn yn dod ag opera Gymreig gyfoes i galon sîn berfformio’r ddinas
Rydym yn falch bod Operasonic yn cyflwyno’r digwyddiad hwn yn eu dinas gartref, gan gysylltu’r gwaith gyda chynulleidfaoedd a chymunedau lleol.
Adref i Gasnewydd
Wrth sôn am gyflwyno’r gwaith yng Nghasnewydd, dywedodd Sam Hussain:
[QUOTE TO COME]
Mae’r perfformiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Mae Opera Celf Stryd wedi’i chyflwyno o’r blaen ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru, yn Focus Wales, yn Grange Pavilion yng Nghaerdydd ac ar daith ledled Cymru. Rydym yn falch iawn o ddod â’r gwaith i Gasnewydd mewn cydweithrediad ag Operasonic.
Gweler mwy am y broses o greu Rahmat–Mercy–Trugaredd, gyda Sam Hussain, isod:
Y Darnau
Wedi’i greu gan Amelia Unity, Eadyth, Sam Hussain a Jamie TC Panton, mae’r gwaith gweledol cyfoethog hwn, wedi’i hysbrydoli gan Sufiaeth a hip-hop, yn dilyn Sana wrth iddi herio cyfyngiadau er mwyn archwilio ei chreadigrwydd a hawlio ei lle yn y byd.
Wedi’i greu gan Claire Victoria Roberts, Giselle Ty a Lauren Orme, gyda cherddoriaeth wedi’i pherfformio gan Sinfonia Cymru, mae’r gwaith hwn, a enillodd wobr yn Focus Wales, yn cynnig gweledigaeth dywyll a chomig o ddyfodol lle mae natur yn gwrthryfela yn erbyn difodiant.
Gwrandewch ar Sam Hussain yn sôn am Rahmat–Mercy–Trugaredd mewn dangosiad blaenorol yng Ngrangetown.















