Bwystfilod Aflan Unclean Beasts
Roedd Bwystfilod Aflan yn gomisiwn newydd sbon gan yr Eisteddfod Genedlaethol gan Music Theatre Wales a Music@Aber, gydag offerynwyr Sinfonia Cymru, yn herio normau cymdeithasol trwy opera, dawns, a ffilm, gan dynnu sylw at y gwrthdaro rhwng traddodiad a’r angen am newid.
Nododd y cynhyrchiad hwn gychwyn partneriaeth newydd Music Theatre Wales gyda Sinfonia Cymru, cydweithrediad a gynlluniwyd i fuddio cynulleidfaoedd ledled Cymru, cyfoethogi’r cymunedau rydym yn ymgysylltu â hwy, a chefnogi datblygiad perfformio cerddoriaeth ac opera.
“Aflendid”
“Daeth anlladrwydd i barch, trythyllwch i fri, ac aflendid i anrhydedd…”
“Dylsai syrthio ar ei liniau, a gwaeddi dros y lle am faddeuant a thrugaredd.”
Gwynebodd Edward Prosser Rhys storm o gamdriniaeth a sarhad mewn ymateb i’w gerdd ATGOF ar ol ennill coron Eisteddfod Genedlaethol 1924. Mynnodd herio’r norm trwy ddweud y gwir trwy ei gelfyddyd, a derbyn dirmyg a ffieidd-dod.
Roedd hyn 100 mlynedd yn ôl, ond gallai fod wedi bod heddiw, pan mae lleisiau sy’n mynd yn groes i’r gwynt yn parhau i gael eu diarddel.
Roedd darluniau Edward Prosser Rhys o ryw, chwant a rhamant rhwng dau ddyn ifanc yn adlewyrchiad beiddgar o’i realiti, gan herio normau cymdeithasol ei gyfnod, cyfnod pan oedd bod yn hoyw yn dal i fod yn anghyfreithlon, ac a fyddai am 40 mlynedd arall. Serch hynny, ymateb y rhai a ddewisodd i “geryddu a gwobrwyo” ei fynegiant creadigol a amlygodd gymhlethdodau a rhagfarnau’r oes.
Yn dilyn yr hynod lwyddiannus, Abomination: A DUP Opera, mae Conor Mitchell, unwaith yn rhagor, yn cyflwyno archwiliad operatig i galon chwalfa gymdeithasol.
Bydd y perfformiad gwreiddiol newydd hwn yn cyfuno monolog operatig gan y tenor Elgan Llŷr Thomas, a darn myfyriol gan y dawnsiwr/actor Eddie Ladd. Bydd Bwystfilod Aflan yn craffu ar yr ymateb cymdeithasol a sbardunwyd gan ATGOF, gan ymchwilio i’r newidiadau’r wlad, ei chyfrinachau cudd, a moderniaeth. Trwy lens opera, dawns a ffilm, byddwn yn dyst i’r gwrthdaro rhwng credoau parhaol a’r angen am newid mewn darn gyffrous a dyfeisgar wedi’i gyfarwyddo a’i gyd-greu gan Jac Ifan Moore, a’i ddylunio gan Elin Steele.
Mae Music Theatre Wales, Music@Aber a Sinfonia Cymru, yn falch o gyflwyno’r comisiwn hwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Llygru a llygru”
“Yn gweddu yn well i Sodom a Gomorah nag i Gymru”
Credydau
Cyflwynwyd Bwystfilod Aflan mewn dau ran:
Monodrama operatig wedi’i greu gan Conor Mitchell a Jac Ifan Moore, gyda cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Conor Mitchell a thestun wedi’i baratoi gan Jac Ifan Moore a Conor Mitchell.
&
Myfyrdod symudiad a llais ar ATGOF gan Prosser Rhys, wedi’i greu gan Eddie Ladd, Sion Orgon a Jac Ifan Moore.
Perfformwyr
Ensemble Sinfonia Cymru
Ffidil – Zea Hunt
Soddgrwth – Edward Mead
Telyn – Alis Huws
Clarinet – Isha Crichlow
Bas Dwbl – Nathan Perry (Muni) / Danny Cleave (pob perfformiad arall)
Tîm Creadigol
Conor Mitchell Cyfansoddwr
Jac Ifan Moore Cyfarwyddwr / Dramatwrg
Iwan Teifion Davies Arweinydd
Elin Steele Dylunydd
Andy Pike Dylunydd Golau / Rheolwr Cynhyrchu
Sion Orgon Dylunydd Sain
Deborah Light – Ymgynghoriaeth symudiad
William Hughes – Rheolwr Llwyfan
Galeri
Tu ôl i’r llen…
Dyddiadau
Y Muni, Pontypridd, Eisteddfod Genedlaethol
Dydd Llun 5 Awst 2024 7.30yh
Stiwdio, Theatr y Sherman, Caerdydd
Dydd Mercher 9 Hydref 2024
Theatr Byd Bach, Aberteifi
a gyflwynir gan Span Arts
Dydd Gwener 11 Hydref 2024
Theatr Y Werin, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Dydd Mercher 16 Hydref 2024
Cyflwynwyd berfformiad o Bwystfilod Aflan yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth mewn cydweithrediad ag Aberration, cwmni celfyddydau LGBTQ+ Canolbarth Cymru, ochr yn ochr â’u cynhyrchiad nhw, ‘The Land of Might Have Been’:
Taflwch ddrysau’r cwpwrdd coctels ar agor i gael eich ysgwyd a’ch troi wrth i ni gamu i’r Tir Fuasai Fod dirgel. Y 1920au: cyfnod o wrthrychedd ac androdiniaeth, cellwair a phosibiliadau di-ddiwedd. Pa ddoethineb all ein hynafiaid cwîar Cymreig fod wedi’i drosglwyddo i Edward Prosser Rhys a’i gylch o ffrindiau? Daw’r atebion trwy eiriau, cerddoriaeth, ac ychydig o wylio’r ser, gydag ymddangosiad arbennig gan Rhys Slade-Jones.
Performance Space, Ty Pawb, Wrecsam
Dydd Iau 17 Hydref 2024
Partneriaid
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o’r digwyddiadau diwylliannol mwyaf blaenllaw yn y byd, gyda hanes yn dyddio’n ôl i 1176. Mae’r Eisteddfod fodern yn amrywio rhwng Gogledd a De Cymru, gan hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Gymraeg trwy amrywiaeth eang o weithgareddau a pherfformiadau. Mae’r Maes yn gartref i ddegau o stondinau a llwyfannau, ac mae’r rhaglen yn cynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, a digwyddiadau i blant. Mae’r cystadlaethau a’r seremonïau Gorsedd yn anrhydeddu’r gorau yn y celfyddydau Cymreig, gan ddenu ymwelwyr o bob oed.
Music@Aber
Mae gan Music@Aber hanes hir a nodedig sy’n dyddio’n ôl i benodiad Joseph Parry fel yr Athro Cerddoriaeth gyntaf yn 1874. O’r opera Gymraeg gyntaf i symffoni a chaneuon cyfoes, mae Aberystwyth wedi bod yn ganolog i gerddoriaeth uchelgeisiol newydd Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys cerddorfa symffoni, band chwyth, grŵp llinynnol, côr, a grŵp jamio, oll yn rhad ac am ddim ac ar agor i fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned fel ei gilydd, gan adlewyrchu’r gred bod cerddoriaeth ar gyfer pawb, heb unrhyw rwystrau.
Sinfonia Cymru
Mae Sinfonia Cymru yn gerddorfa sydd â’r nod o wneud cerddoriaeth glasurol yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Gan weithio gyda rhai o’r cerddorion ifanc gorau, mae’r gerddorfa’n perfformio mewn lleoliadau cymunedol, gan wneud cyngherddau’n fforddiadwy ac yn gynhwysol. Mae’r cerddorion yn cael eu hannog i guradu eu cyngherddau eu hunain, ac, yn aml, maent yn cyfuno cerddoriaeth glasurol gyda genre eraill fel jazz, gwerin, a phop. Mae Sinfonia Cymru hefyd yn trefnu gweithdai cerddoriaeth rhad ac am ddim mewn ysgolion ac wedi sefydlu partneriaethau ‘Hafan’ gyda lleoliadau cymunedol, gan fuddsoddi mewn prosiectau a theithiau ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru.
Cymorth Ariannol
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r canlynol am eu cefnogaeth














