Caerdydd
Preswyliad Caerdydd
Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda FIO, Hijinx a’r Arts Active Trust ar breswyliad creadigol gyda chymunedau Butetown a Grangetown, wedi’i leoli yn Mhafiliwn Grange a Chanolfan Diwylliant a Chyfryngau Loudoun (dan ofal Cardiff Community Housing Association).
Beth rydym yn ei wneud
- Opera Celf Stryd — gweler y Galwad Agored
- Opera Gymunedol (Chwefror – Mehefin 2026) mewn partneriaeth â FIO
- Prosiect Future Directions ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol (o Fedi 2026) mewn partneriaeth â Hijinx
- Prosiect creu cerddoriaeth i bobl ifanc – dyddiadau i’w cadarnhau
- Gweithdai Opera Ddigidol i Bobl Ifanc – Chwefror 2027
Prosiectau MTW eraill yn yr un cyfnod
- Gŵyl Opera Ddigidol gyntaf y DU – Mawrth 2027
- The Jollof House Party Opera – cyfle arall i weld y digwyddiad byw hwn sy’n cyfuno opera fer wedi’i hysbrydoli gan hip-hop gyda rhannu jollof rice yn gymunedol gyda’r gynulleidfa — 2027
- Opera newydd wedi’i chomisiynu yn archwilio themâu mudo, integreiddio ac hunaniaeth gan y cyfansoddwr Jazz/Afrobeat Renell Shaw – Hydref 2027
Hoffech chi gymryd rhan?
Ym mis Awst 2025, ymunodd Abena-Mintaah Mensah â ni fel Cynhyrchydd Cymunedol i gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad y gymuned.
Os hoffech wybod sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â ni yma.
Partners
