Mae yna rai straeon ‘amser-yn-mynd-o-chwith’ gwych y bûm yn meddwl amdanynt yn aml wrth ysgrifennu hyn o eiriau – Groundhog Day, Eternal Sunshine of the Spotless Mind, Russian Doll. Mae problem sy’n gyffredin i bob un o’r enghreifftiau gwych hyn, sef bod ‘rheolau’r gêm’ mor gymhellaidd nes bod yna deimlad o siom pan gânt eu goresgyn – pan fo’r broblem yn cario’r fath bwysau, ni all unrhyw ateb fod yn ddigonol.
Mae ein stori ni’n ceisio osgoi’r her hon trwy beidio â chynnig ateb. Ni fyddwn yn datgelu’r stori wrth ddweud hyn – yn Violet, does dim modd atal y broses o golli amser, ac ni chaiff ei hatal chwaith. Nid yw’r cymeriadau mewn ‘ras yn erbyn amser’ wrth geisio ateb y broblem hon. Mae Violet yn llawer tebycach mewn sawl ffordd i Melancholia gan Lars von Trier – os yw diwedd amser yn dod, a chithau â dim ond ychydig oriau ar ôl, sut byddech chi’n eu treulio? Yn bytheirio ar y byd? Yn gwylltio gyda’r rhai sy’n llywodraethu? Yn gwneud a dweud pethau nad oeddech erioed wedi mentro eu dweud cyn hyn? Neu’n mynd i lawr yn ddwys gyda’r llong?
Roedd gweithio gydag Alice Birch yn bleser pur. Pan gwrddon ni gyntaf yn 2014, a hithau’n anfon peth o’i gwaith ataf, meddyliais ar unwaith ei bod yn awdur rhyfeddol. Roedd hi hefyd, yn ddiarwybod iddi hi, wedi datblygu arddull oedd fel petai’n union yr hyn y byddwn i’n chwilio amdano mewn cydweithiwr operatig: ffordd gryno a hynod economaidd o drin geiriau, ynghyd â thuedd i gyflwyno delweddaeth ymestynnol a disglair; agwedd unigryw tuag at ffurf a chanddi nid yn unig synnwyr o’r rhyddid mwyaf anrhagweladwy, mympwyol, ond hefyd y manwl gywirdeb tynnaf, mwyaf disgybledig; ac yn olaf, y fath synnwyr o’r natur ddynol, hyd yn oed yn y tywyllwch mwyaf ingol sy’n gallu nodweddu ei gwaith.
Ein man cychwyn oedd rhestr eitha bras ro’n i wedi’i baratoi o’r obsesiynau/diddordebau/pethau sy’n fy nghyffroi i’n artistig – mapiau, cylchoedd, peiriannau, hud a lledrith – i weld a allai unrhyw un ohonyn nhw fod yn gynhyrchiol. Cydiodd Alice yn y syniad o glociau a gwneud clociau, a buom yn trafod nifer o ffyrdd y gallai amser gamweithio. Buom yn ystyried syniad y drydedd awr ar ddeg – beth fyddai’n digwydd bryd hynny? Beth allai ddigwydd yn hon, ‘awr y wrach’, na allai ddigwydd yn y lleill? Doedd dim byd fel petai’n ffitio, rhywsut. Roedd yna foment, tra’n gweithio ar y naratif yn fflat Alice, pan feddylion ni’n sydyn am y syniad o ‘wrthdroi’r pegynedd’ a thrwy hynny roedd yr holl broses wedi agor i fyny – beth petai yna ddim ‘awr ychwanegol’, neu ‘awr y wrach’, ond yn hytrach bod llai a llai o oriau yn y dydd?
Rwy’n gwenieithu wrth ddweud bod y cysyniad yn un cryf. Ond ro’n i wrth fy modd gyda’r ffordd y llwyddodd Alice i’w hydreiddio â mwy fyth o gymhlethdod a dynoliaeth. Mae Violet ei hun yn gyfareddol – os yw’r status quo yn anhyblyg a phatriarchaidd, mae’r rhai sy’n ddarostyngedig yn dyheu am rywbeth gwahanol, hyd yn oed os yw’r peth hwnnw’n frawychus ac anrhagweladwy. Pan ddarllenais, am y tro cyntaf, yr adran honno lle mae cymeriadau yn yr opera’n hwylio i ffwrdd ar rafft fregus – gan wybod na fyddent, mae’n debyg, yn goroesi’r daith ond er hynny’n glynu’n dynn wrth ryw fath o obaith o fyd gwell yn rhywle – teimlwn fod hyn, a’i gyfochredd gwleidyddol amlwg, yn deimladwy iawn.
Fe wnes i fwynhau cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer Violet. Dydw i ddim yn dweud hynny’n aml – er fy mod yn aml yn teimlo’n falch o’r canlyniad, mae’r broses o sgrifennu’r nodau eu hunain fel arfer yn teimlo fel triniaeth ddeintyddol boenus dros gyfnod o fisoedd. Roedd hyn yn wahanol – i ddechrau, roedd geiriau Alice yn golygu bod yna ddeunydd i mi weithio gydag e a chael fy ysbrydoli ganddo. Mae strwythurau wedi eu hadeiladu i mewn i’r golygfeydd, mae gan y cymeriadau gymhelliad, mae yna resymau dros ddewis un nodyn yn hytrach nag un arall.
Mae’r ensemble yn cynnwys 13 o offerynwyr, ac fe’i cynlluniwyd yn y fath fodd ag i gynnwys ystod eang iawn o liwiau posibl. I ychwanegu ymhellach at yr ystod hwn, gofynnais am ychwanegiadau go anghyffredin: mae nifer o’r offerynwyr yn chwarae ‘pitch pipes’ (pibau bach metel a ddefnyddir i diwnio offerynnau neu gorau) neu ‘dog clickers’ (botymau plastig a ddefnyddir i hyfforddi cŵn); mae yna ddau fetronôm, un kalimba neu biano bawd, rhannau i’r delyn, y marimba a ffidlau, ac yn olaf mae dau yn yr adran linynnol a chanddynt offeryn wedi’i diwnio i lawr o hanner-tôn neu dôn gyfan. Rhywbeth newydd i mi oedd ychwanegu pytiau o synau cloch – wedi eu recordio a’u trin yn electronaidd – y bûm yn cydweithio arnynt gyda Jasmin Kent Rodgman.
Mae’r gerddoriaeth, hefyd, yn amrywiol iawn gyda rhai rhannau’n hynod anghytseiniol, ac eraill yn lled-donyddol. Mae yna gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan gagaku Siapaneaidd, gan jazz lolfa, gan Stabat Mater Pergolesi. Does dim motifau’n gysylltiedig â’r cymeriadau, ond mae yna gerddoriaeth sy’n dychwelyd, a honno’n aml wedi cael ei newid. Un enghraifft nodedig yw’r gerddoriaeth ar gyfer Diwrnod 7, lle ceir sgwrs agos-atoch rhwng Violet a Laura. Caiff y gerddoriaeth hon ei hailadrodd yn eu golygfa olaf gyda’i gilydd, sef Diwrnod 20, ond y tro hwn ar hanner cyflymder y gwreiddiol – fel Blu Tack yn cael ei ymestyn, mae’r gerddoriaeth yn mynd yn deneuach, yn fwy gwasgaredig, yn llawn tyllau a diffygion. Mewn gwirionedd, mae hyn yn tueddu i ddisgrifio llawer o’r gerddoriaeth ar gyfer y golygfeydd olaf – wrth i synnwyr y pentref o amser gael ei ystumio, a gobaith yn diffodd, rwyf wedi ceisio gwneud y gerddoriaeth ei hun yn fwy sych, treuliedig, ceulaidd. Mae yna fwy o gyfnodau tawel, ac mae’r tiwnio a’r offeryniaeth yn dechrau toddi yn y gwres. Mae cerddoriaeth rhan olaf yr opera’n cynnwys peth o’r gerddoriaeth ryfeddaf i mi ei chyfansoddi erioed, ac am y rheswm hwnnw rwy’n falch iawn ohoni.
Mae’r broses o lwyfannu opera newydd yn ddrwg-enwog am fod yn broblemus, yn agored i bob math o droeon trwstan a sefyllfaoedd annisgwyl. Llwyddais i osgoi un o’r rhai mwyaf cyffredin, fodd bynnag, gan fy mod – yn hydref 2019 – wedi cyflwyno’r sgôr orffenedig yn ddigon pell o flaen llaw ar gyfer y premiere ym mis Mehefin 2020, fel bod y cantorion, yr arweinydd a’r cyfarwyddwr yn cael digonedd o amser i baratoi. Roedd y cyfan yn mynd yn llyfn iawn. Ar ôl cael un broblem gyda’r personél, anfonais neges destun at gydweithiwr o gyfansoddwr gan ddweud fy mod yn gobeithio’n fawr y byddai’r misoedd nesaf yn rhai ‘normal-opera-stressful’ yn hytrach nag yn ‘crisis-stressful’.
Anfonwyd y neges destun honno ym mis Chwefror 2020, a bellach mae’r amseru’n ymddangos yn llawn hiwmor du. Wrth gwrs, diflannodd pob un o’n perfformiadau yn sgil y pandemig COVID, a bu raid newid y cynlluniau’n sylweddol. Cafodd rhai cynlluniau eu trafod ac yna eu rhoi o’r neilltu (‘A ellid ei pherfformio yn yr awyr agored? A ellid cael fersiwn fideo? A ellid trefnu bod y cantorion a’r offerynwyr yn ymbellhau?’), ond yn y diwedd penderfynwyd mai canlyniad y rhain fyddai mowldio Violet i siâp nad oedd yn ei siwtio. Er iddi gael ei chreu mewn byd cyn-COVID, roedd sawl un o’i themâu yn teimlo’n newydd o berthnasol.
Rydw i wrth fy modd bod Violet, o’r diwedd, yn mynd i wneud ei hymddangosiad cyntaf, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb fu’n rhan o’r cynhyrchiad, yn cynnwys sawl un nad oes ganddynt bellach gysylltiad â’r gwaith.