Mae Opera Celf Stryd yn ffordd newydd o brofi opera fel ffurf berthnasol, hygyrch a chyffrous. Wedi’i chreu i gael ei thaflunio ar wal, gan ddefnyddio effaith ac iaith Celfyddyd Stryd ond wedi’i hanimeiddio fel adrodd straeon operatig drwy gerddoriaeth ac wedi’i gwrando drwy Glustffonau Disco Distaw.
Fel pob Celfyddyd Stryd, roedd y gweithiau hyn yn adrodd straeon sy’n ymwneud â’r presennol, gyda negeseuon cymdeithasol a phersonol cryf.
Ym mis Hydref 2024, lansiwyd Opera Celf Stryd fel rhan o ŵyl Llais a Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, wedi’u taflunio ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru, ac fel uchafbwynt yr Arddangosfa Gerddoriaeth a Hil a gyflwynwyd gan Tŷ Cerdd a Black Lives in Music, ac fe’u dangoswyd hefyd yn y ganolfan gymunedol Pafiliwn Grangetown, yng nghanol ardal aml-ethnig yng Nghaerdydd.
Roedd y gweithiau hyn, gan Dimau Creadigol Cymreig gan gynnwys y cerddor Eadyth a’r cyfansoddwraig Claire Victoria Roberts, yn gweithio mewn cydweithrediad ag artistiaid stryd ac animeiddwyr, ysgrifenwyr, perfformwyr corfforol a gwneuthurwyr ffilm. Roeddent yn archwilio sut i ddarganfod a rhyddhau eich creadigrwydd eich hun i fynegi eich hun yn llawn, yn ogystal â chynnig safbwynt anghyffredin ar yr argyfwng hinsawdd yr ydym wedi’i greu, a sut y gallai natur ymateb.
Mae pob darn yn para tua 10 munud ac yn cynnwys testun yn Gymraeg a Saesneg – ac Urdu yn achos Rahmat-Mercy-Trugaredd – fel rhan o’u hiaith weledol gyfoethog.
Dechreuodd ein rhaglen Opera Celf Stryd yn haf 2023 gyda chyflwyniad The Scorched Earth Trilogy, a grëwyd yn wreiddiol gan Dumbworld ar gyfer Opera Genedlaethol Iwerddon.
Yn fis Mai 2025, teithion ni ar draws Cymru gyda’n Hoperâu Celf Stryd, gan ddod â’r gweithiau pwerus a thrawiadol hyn i gymunedau a gofodau cyhoeddus newydd. O Wrecsam i Drelluest, Rhondda i Butetown, gwnaethom gynnig profiad operatig unigryw fel dim arall.