The Jollof House Party Opera – Yn Fyw

The Jollof House Party Opera - Yn Fyw Cyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales a FIO
Pop-yp bwyd fegan o Nigeria wedi’i weini gydag opera 15 munud o hyd dan ddylanwad hip-hop.
Mae Adeola, y chef, yn teimlo’r gwres, a dy’n ni ddim yn sôn am gawl pupur! Gyda’r pwysau a ddaw o fusnes newydd, babi cyfnod clo, ac archwiliad diogelwch bwyd ar fin cael ei gynnal, sut yn y byd mae ein hegin-entrepreneur bwyd yn mynd i ymdopi?
Mae The Jollof House Party Opera yn brofiad byw pop-yp sy’n gweini danteithion Nigeraidd (100% fegan) mewn mannau cwrdd cymunedol ledled Cymru, ynghyd â stori operatig 15 munud o hyd dan ddylanwad hip-hop. Dewch ar daith llawn blas, aroglau a rhythmau yn y sioe gwbl unigryw hon.
Mae’r sioe wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Tumi Williams, yr artist o gefndir Cymreig-Nigeraidd, ac yn serennu ynddi hefyd mae’r soprano enwog Gweneth Ann Rand. Wedi ei chyfarwyddo gan Sita Thomas o gefndir Cymreig-Indiaidd, mae The Jollof House Party Opera yn wir yn ddathliad o Gymru fodern, amlddiwylliant. Wedi’i seilio ar ffilm fer arobryn a enillodd Wobr am Ffilm Geltaidd, crëwyd The Jollof House Party Opera i gorddi ac ail-lunio cysyniadau o opera a pherfformiad artistig byw, yn ogystal â mynd i’r afael â’r annhegwch mewn mynediad at gelf a diwylliant.
Fel artist amlddisgyblaeth, cerddoriaeth yw cariad artistig cyntaf Tumi Williams, ac mae’n gweithio mewn cyfuniad o arddulliau yn cynnwys hip-hop, ffync Affro a jazz. Mae e hefyd yn chef ac yn sefydlydd Jollof House Party, pop-yp sy’n gweini bwyd fegan Nigeraidd.
Mae Dr Sita Thomas yn arweinydd diwylliannol a pherson creadigol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae hi’n Gyfarwyddydd Artistig a Phrif Weithredwr ar Fio, cwmni ym myd y theatr a’r celfyddydau sy’n bodoli i greu newid positif sylweddol yn y sector diwylliannol yng Nghymru, a chefnogi pobl o’r Mwyafrif Byd-eang i’w galluogi i ffynnu yn y celfyddydau.
Hip-hop opera: Nigerian street food inspires genre mash-up – BBC News
The Welsh hip-hop opera aiming to break down barriers and asking people to pay what they can – ITV News Wales
Praise for Jollof!
We wanted to share some feedback from people who came to The Jollof House Party Opera. Thanks to everyone who took the time to share their thoughts…
“I loved the mixing of styles, the light and shade, the fact that it was an experience rather than a performance, and the food was great!”
“This made my week. I had no idea what to expect and was so pleasantly surprised. Really lifted my heart – thank you”
“The most exciting/original piece of work I have ever seen”
“It showed the struggles of day to day life”
“I am Nigerian so could relate to this performance. Was absolutely amazing”
“Ingenious, the way that opera combined seamlessly with the hip-hop’s musical elements – And great to have an opportunity to try some of the lovely food”
“The music, especially in the kitchen, the fact you got jollof at the end 🙂 interactive with the audience”
“Melting together the everyday and commonplace with the highbrow opera made for a really interesting experience”
“So unusual and good performances. Dancing, singing, Story was really funny – What a thing to think of. Great musicians, too.”
“The fusion of hip hop and opera was inspired. The performers were warm, engaging and humorous.”
“Very innovative and funny. Great idea to combine hip-hop, opera and food”
“Good energy. Fusion of hip-hop and opera was fresh and fun. It had a warmth to it – funny and human. It wasn’t too long. Loved the kitchen & using props as music. Jollof was banging, great accompaniment.”
“The interaction from the performers was great and the food was a great addition to a very modern take on an opera.”
“Loved every minute, please come again & I need this rice recipe!!”
Credydau
Cast & Performers
Tîm Creadigol
Cerddor Joe Beardwood
Cymorth Cyfansoddi Robert Fokkens
Cymorth Dramatwrgaidd Elayce Ismail
Gwaith Celf Cara Walker
Cynllunio Sain Daniel Wooles
Rheolwr llwyfan Julia Carson Sims
Rheolwr Cynhyrchu Andrew Sturley
Tîm llawn a diolch
Crëwyd y gerddoriaeth ar y cyd gan
Tumi Williams gyda Joe Beardwood, Laurence Collier, Robert Fokkens a Michael Melican
Paratowyd y bwyd gan
Krzysztof Sendlak a Richard Gravelle
Cyd-gynhyrchiad Music Theatre Wales a Fio
Mae MTW yn gwmni portffolio sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Derbyniodd Fio gyllid gan CCC i gefnogi datblygiad y darn hwn ac ymgysylltiad cymunedol.
Dymuna MTW ddiolch i Sefydliad Garfield Weston am gefnogaeth graidd.
Dymuna Fio ddiolch i Sefydliad Esmée Fairbairn, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Postcode Community Trust am eu cefnogaeth graidd.
Hoffai MTW a Fio ddiolch i No Fit State, yn enwedig Jo Richmond. Redbrick. Asha Jane. Gareth Thomas, Morgan Thomas a Jo Marsh yn Tŷ Pawb, Dave Acton yn Larynx Entertainment, Bethan Touhig Gamble, Donna Morris, Belinda Bean ac Alys Morgan yn Span Arts, a Molara Awen, sefydlydd Llwy Gariad. Gutti Coats a’r staff yn HaverHub. Connie Matthews, Claire Sutton a Dafydd Davies yn y Tramshed, SSAP, Omonigho Idegun, Grace Gadzama, Iolanda Banu Vegas, Y Deml Heddwch, Theatr Torch, Music Box.
Rydym yn cyflwyno’r darn hwn, gyda chariad, i Mr Mustapha Adewunmi Williams.
Y Tîm
- Mehdi Razi – Rheolwr Prosiect
- Chama Aimable-Kapumpa – Ymgynghorydd Marchnata
- Blessing Kapswarah – Dylunio Graffig
- Dan Green – Ffotograffydd
- Mana Baoosh – Ffotograffydd yr Ymarferion
- Eleri Huws – Cyfieithiad Cymraeg
Ar ran MTW
- Michael McCarthy – Cyfarwyddwr
- Åsa Malmsten – Rheolwr Cyffredinol/Cynhyrchyd
- Rachel Kinchin – Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata
Ar ran Fio
- Emily Carewe – Cyfarwyddwr Gweithredol Fio
- Tara Turner – Cynhyrchydd Cynorthwyol Fio
Dyddiadau
HaverHub, Hwlffordd:
Dydd Iau 16 Chwefror, 1.15yp, 3yp, 6yh
Tŷ Pawb, Wrecsam:
Dydd Sadwrn 18 Chwefror, 1yp, 3yp, 6yh
Tramshed, Caerdydd:
Dydd Sul 26 Chwefror, 1yp, 3yp, 5yh