Tŷ Unnos
Tŷ Unnos

“Ar gopa bryn, ymhell oddi wrth bawb a phopeth, mae tŷ cyfriniol yn ymddangos dros nos, gan gynnig noson orau eu bywyd i deithwyr – cyn belled â’u bod yn barod i dalu’r pris. Pan fo’r Tŷ Unnos yn cipio band teithiol, rhaid i’r cerddorion berfformio er mwyn ennill eu rhyddid. Y gynulleidfa fydd yn penderfynu pwy sy’n aros a phwy sy’n gadael. A fydd y band yn llwyddo i ddianc, neu a fydd y sioe yn mynd ’mlaen am byth?”
Mae Music Theatre Wales yn falch o fod yn rhan o’r cydweithrediad unigryw hwn gyda Sinfonia Cymru, gan gyfuno cerddoriaeth, theatr ac adrodd straeon i greu profiad unigryw i gynulleidfaoedd ifanc. Fel rhan o’r prosiect, comisiynwyd y crewyr Joy Becker a Tamar Eluned Williams i gyfansoddi aria newydd sbon, a fydd yn cael ei chanu gan y Tŷ Unnos hudolus ei hun wedi’i berfformio gan Johnny Herford.
Dan arweiniad y storïwr Tamar Eluned Williams a gyda cherddorion Sinfonia Cymru, mae Tŷ Unnos hefyd yn cynnwys caneuon a chyfraniadau creadigol gan ddisgyblion o:
- Ysgol Gynradd Carreghofa
- Ysgol CIW Forden
- Ysgol Gynradd Franksbridge
- Ysgol Gynradd CIW Newbridge-on-Wye
- Ysgol Penmaes
- Ysgol CIW Priory
- Ysgol Gynradd CIW Y Trallwng
Bydd Tŷ Unnos yn cael ei berfformio mewn lleoliadau amrywiol rhwng Dydd Llun 3 Mawrth 2025 a dydd Mercher 5 Mawrth 2025. Mwy o wybodaeth ar wefan Sinfonia Cymru.
Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl trwy gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Canolbarth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu perfformiad i’ch ysgol, cysylltwch â becky@sinfonia.cymru.