Tua’r Dyfodol: Trebiwt
Tua'r Dyfodol: Trebiwt I bobl 16-25 oed
Cyfle i greu Opera Ddigidol sy’n cyfuno adrodd straeon, fideograffeg a cherddoriaeth. Mae’r prosiect yn dod â phobl ifanc niwroamrywiol, awtistig a/neu ag anableddau dysgu ynghyd â chyfranogwyr niwronodweddiadol i archwilio sgiliau newydd, datblygu syniadau a chreu gwaith gwreiddiol, gyda chefnogaeth timau creadigol a lles proffesiynol. Prosiect partneriaeth gyda Hijinx.
- Gweithdai Blasu – Yr Hydref 2026
- Preswyliadau Creadigol
- 9–11 Chwef 2027 | 10yb–6yh
- 3 Ebr 2027 | 12yp–6yh
- 1–3 Meh 2027 | 10yb–6yh
- Canolfan Gymunedol Trebiwt
Loudoun Square, Butetown, Caerdydd, CF10 5JA
View on Google Maps
Diddordeb? Cysyllta:
Mae Music Theatre Wales yn ail-ddychmygu opera drwy wahodd pobl greadigol o bob cefndir i’w siapio yn eu ffordd eu hunain
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau yn Nhrebiwt a Grangetown, gan greu a rhannu opera newydd yn Loudoun Square a Phafiliwn Grange, gan gynnwys The Jollof House Party Opera a The Trial of Dhegdheer.
Mae’r gweithdy hyn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw, gan greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc lleol.











