Cyfeiriadau’r Dyfodol

CYFEIRIADAU’R DYFODOL yw ein rhaglen i bobl ifanc rhwng 16 a 25 sy’n dod â phobl niwronodweddiadol a niwroamrywiol, pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ynghyd. Mae’n wahoddiad i greu stori drwy cerddoriaeth ac i greu opera ddigidol newydd.
Cyfeiriadau’r Dyfodol yw Cwmni Ifanc MTW, rhaglen barhaus sy’n bodoli yng nghalon gweithgarwch y cwmni. Mae’r operâu digidol a grëir gan y Cwmni Ifanc, mewn cydweithrediad â’n hwyluswyr proffesiynol, yn cael eu cyflwyno fel rhai o’n prif gynyrchiadau ar ein gwefan i’w rhannu’n eang, gan geisio atynnu cynulleidfaoedd ehangach a dod o hyd i ffyrdd newydd o synnu a chyffroi ein cynulleidfaoedd cyfredol.
Fel gyda phob enghraifft o’n gwaith, mae Cyfeiriadau’r Dyfodol yn brosiect sy’n dathlu cynhwysiant ac amrywiaeth a rydym yn croesawu cyfranogwyr ifanc rhwng 16 a 25 oed o bob cefndir. Caiff ei gyflwyno mewn partneriaeth â Theatr Hijinx – un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop, sy’n gweithio gyda phobl niwroamrywiol, pobl ag anableddau dysgu ac/neu bobl awtistig ar lwyfan ac ar y sgrîn. Rydym yn awyddus i bwysleisio mai un o nodweddion pwysicaf Cyfeiriadau’r Dyfodol yw’r ffordd y mae’n dod â phobl ifanc gyda, ac heb anghenion ychwanegol, ynghyd i weithio gyda’i gilydd drwy stori, cerddoriaeth, perfformiad a ffilm. Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan yr hwylusydd creadigol, dramatwrg a chyfarwyddwr Jain Boon.
Operâu Digidol Cyfeiriadau’r Dyfodol
Dyma beth mae ein cwmnïau ifanc eisoes wedi’i greu – byddwch yn barod am siwrnai:
2023: Perthyn
2022: The Things That Go Unnoticed
Prosiectau Ar y Gweill
Bydd prosiectau nesaf Cyfeiriadau’r Dyfodol yn cymryd lle mewn lleoliadau penodol:
Prosiect Treorci
Prosiect mewn partneriaeth a Hijinx, Sinfonia Cymru ac RCT CBC
Gweithdai Blasu Cyflwyno drwy gydol Hydref 2024
Gweithdai Creadigol 3-Diwrnod: Hanner Tymor Chwefror 2025 (w/c 24 Chwefror) a Hanner Tymor Mai 2025 (w/c 26 Mai)
Cyflwyniad Opera Ddigidol Treorci yn Theatr Parc a Dare ar 11 Medi 2025
Prosiect Trebiwt, Caerdydd
Prosiect partneriaeth gyda Hijinx, Arts Active a Tŷ Cerdd
Gweithdai “Blasu” Cyflwyno drwy gydol Hydref 2025
Gweithdai Creadigol o Chwefror 2026
Creu, recordio a ffilmio’r opera ddigidol – Pasg 2026
Tystiolaethau
Sylwadau ac adborth cyfranogwyr…
Cymerwch Ran
Os ydych yn berson ifanc rhwng 16 a 25 oed sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2024/2025 neu yn Butetown yn 2025/26, darllenwch ymlaen:
Ydych chi’n gerddor, canwr, gwneuthurwr ffilmiau, cyfarwyddwr theatr neu berfformiwr? Ydych chi’n awyddus i gydweithio gyda phobl ifanc greadigol eraill a gweithwyr proffesiynol i greu opera ddigidol newydd? Ydych chi eisiau creu eich math eich hun o opera ac adrodd straeon drwy gerddoriaeth? Allwch chi’n helpu i ddarganfod ffyrdd newydd o greu a pherfformio opera? Rydym yn eich gwahodd i ddod i greu eich stori eich hun yn eich cerddoriaeth eich hun a’i chyflwyno fel ffilm fer ar ein gwefan.
Cysylltwch:
Partneriaiad
Mae Cyfeiriadau’r Dyfodol yn rhaglen bartneriaeth gyda Hijinx
Diolch i arianwyr y rhaglen: