Denis & Katya
Cerddoriaeth gan Philip Venables
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Ted Huffman
Dau gariad 15 oed oedd yn byw bob munud – yn cynnwys eu munudau olaf un – ar-lein.
Mae’r cyfansoddwr Philip Venables a’r cyfarwyddwr Ted Huffman – y ddau sy’n gyfrifol am yr opera arobryn 4.48 Psychosis – yn edrych ar y drasiedi go iawn a ddigwyddodd i bâr ifanc o Rwsia, Denis Muravyov a Katya Vlasova, a aeth ar ffo. A hwythau’n cael eu galw yn Romeo a Juliet ein dyddiau ni, darlledodd y ddau eu dyddiau gwaharddedig olaf gyda’i gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Er gwell neu er gwaeth, roedd y cyhoedd yn clicio, yn gwylio ac yn ymateb.
Gan blethu testun gair-am-air, fideo, cerddoriaeth a theatr, mae Denis & Katya yn archwilio sut mae straeon yn cael eu siapio a’u rhannu yn ein hoes ni lle ceir trôls, damcaniaethau am gynllwynio, newyddion ffug, a chysylltiad digidol 24 awr y dydd, bob dydd.
Beth sy’n gwneud i chi glicio?
Cyd-gomisiynwyd a chyd-gynhyrchwyd gan Music Theatre Wales, Opera Philadelphia ac Opéra Orchestre National Montpellier
Perfformiadau yn y DU ar y cyd â’r London Sinfonietta
Enillydd Gwobr FEDORA – GENERALI am Opera 2019
Perfformiad cyntaf: Festival O19, Opera Philadelphia , 18 Medi 2019
Ar y cyd â’r cynhyrchiad hwn, buom yn rhedeg Rhaglen Greadigol ac Ymgynghorol i Bobl Ifanc. Gallwch weld yr effaith gafodd y rhaglen hon trwy wylio
https://vimeo.com/461879859
Gallwch hefyd glywed y traciau a recordiwyd ganddynt ar
https://soundcloud.com/user-696596153/albums
Y Cynhyrchiad
Y cyfansoddwr Philip Venables a’r awdur-gyfarwyddwr Ted Huffman yn trafod Denis & Katya cyn y premier byd yng Ngŵyl 019 Opera Philadelphia ym mis Medi 2019.