Lleisiau’r gorffennol yn cyfarfod â lleisiau creadigol y dyfodol mewn noson o atgofion, cerddoriaeth a ffilm. Yn Ein Cân, Ein Stori, cyflwynwyd casgliad o weithiau newydd sy’n edrych yn ôl at y gorffennol ac ymlaen at y dyfodol, gan gynnwys:
- Gweithiau byr newydd gan gyfansoddwyr ifanc o Gymru, 14–18 oed, a ddatblygwyd mewn gweithdai yn y Parc a’r Dâr ac sy’n cael eu perfformio gan Sinfonia Cymru
- Dangosiad cyntaf o Opera Dditectif Ddigidol newydd sbon, arddull Ffilm Noir, wedi’i greu gan bobl ifanc 16–25 oed ac wedi’i ffilmio y tu ôl i’r llenni ac o amgylch coridorau’r Parc a’r Dâr
Yn ogystal, cyflwynwyd dau waith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis wedi’u hysbrydoli gan leisiau lleol:
- Quiet Thoughts / Myfyrdodau Tawel – ffilm newydd gan Harriet Fleuriot sy’n rhoi llais i fenywod lleol
- The Echoes Return Slow – gwaith sy’n cyfuno lleisiau pwerus y gorffennol o’r ffilm Women of the Rhondda (1971) gyda chyfweliadau â glowyr lleol a recordiwyd yn Sefydliad y Gweithwyr (sef y Parc a’r Dâr heddiw) gan Alan Lomax yn 1953 wrth iddo deithio’r byd yn cofnodi cerddoriaeth a thraddodiadau gwerin. Yn wreiddiol yn rhan o raglen Writing the Future London Sinfonietta.
Perfformiwyd gwaith Luke Lewis gan Sinfonia Cymru, dan arweiniad Iwan Teifion Davies, gyda ffilm a thâp sain, ac ynghyd â cherdd newydd gan Owen Sheers, a grëwyd ar y cyd â, ac yn bydd ei ddarllen gan, Kyle Stead.
Noson i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod, ac i ddathlu’r creadigrwydd sydd eto i ddod.
Compere – Samuel Bees.
Cyn y perfformiad, cynhaliwyd ddigwyddiad trafod yn Llyfrgell Treorci – Yr Artist a’r Archif.
