2025: Blwyddyn o Dyfu, Cydweithio ac Arbrofi
2025: Blwyddyn o Dyfu, Cydweithio ac Arbrofi
Roedd 2025 yn flwyddyn brysur arall o ail-ddychmygu opera i Music Theatre Wales. Fel erioed, ein nod oedd cwestiynu beth all opera fod, a phwy sy’n ei chreu — drwy ffyrdd newydd, beiddgar a chreadigol o greu, profi a meddwl am opera.
Bu’r gwaith yn digwydd yn fyw, ar-lein, mewn ysgolion ac mewn cymunedau, ar draws Cymru a Lloegr. O ganlyniad, fe gyrhaeddodd MTW dros 6,100 o bobl. Isod ceir cipolwg, drwy’r niferoedd, ar yr effaith a gawsom yn 2025.
Ein cyrhaeddiad yn 2025
1,700+ o blant a phobl ifanc
Drwy waith gyda ysgolion, Cyfeiriadau’r Dyfodol a’n rhaglen gyfansoddi Nodau Newydd2,600+ o bobl wyneb yn wyneb
Mewn perfformiadau, cyflwyniadau, trafodaethau a digwyddiadau mewn theatrau a lleoliadau cymunedol3,500+ o wylwyr ar-lein
Yn ymgysylltu â’n hoperâu digidol a’n cynnwys ar-lein
Cynhyrchu gwaith newydd
Fe wnaethom greu tri chynhyrchiad newydd:
Yn ogystal, comisiynwyd 12 darn newydd gan grewyr cerddoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys 5 gan gyfansoddwyr dan 18 oed, gan barhau â’n hymrwymiad i feithrin talent newydd a lleisiau’r dyfodol.
Teithio, partneriaethau a pherfformiadau
55 perfformiad byw
17 lleoliad ar draws Cymru a Lloegr
19 digwyddiad ar y cyd gyda phartneriaid a chydweithwyr
Daeth y partneriaethau hyn â chymunedau, artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd, gan greu lle i rannu syniadau, herio ffurfiau traddodiadol a dychmygu beth all opera fod heddiw.
Cydnabyddiaeth a datblygiad sefydliadol
Yn 2025,:
Enillon ni wobr am y Ffilm Berfformio Orau yn Focus Wales
Cyrhaeddom y rhestr fer ar gyfer gwobr Ewropeaidd fawr Biennale Fedora
Cyflawnom ein cynhyrchiad cynaliadwy cyntaf yn unol â Theatre Green Book
Fe wnaethom hefyd gryfhau ein llywodraethu drwy benodi:
3 ymddiriedolwr newydd, gan gynnwys 2 Ymddiriedolwr Ifanc ac 1 Ymddiriedolwr Dan Hyfforddiant
A phenodwyd Cynhyrchydd Cymunedol newydd, Abena-Mintaah Mensah, i ddatblygu a hyrwyddo ein gwaith yng Nghrangetown a Butetown, gan ddyfnhau ein hymrwymiad i weithio’n lleol ac yn berthnasol.
Edrych ymlaen
Wrth inni droi ein golygon tuag at 2026, rydym yn gyffrous i adeiladu ar y momentwm hwn – mwy o gydweithio, mwy o leisiau newydd, a mwy o ffyrdd i bobl gysylltu ag opera.
Dyma i fwy o’r un peth yn 2026.
Cadwch lygad ar y wefan a’n cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy am ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd o’n blaenau.
