BLOG: Fforwm Opera Cymru, Mawrth 2025
Ar Fawrth y 1af, cawsom gyfarfod ysbrydoledig gyda Fforwm Opera Cymru i drafod dyfodol opera yng Nghymru. Os nad oeddech chi’n medru bod yno – neu os hoffech chi gael eich atgoffa o’r hyn a drafodwyd – ewch draw i’n gwefan i ddarllen darn blog gan Michael McCarthy.
“Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl o wahanol rannau o sector opera Cymru yn dod at ei gilydd ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog am sut y gallem rannu mwy o wybodaeth, syniadau, adnoddau a phryderon.
Dechreuodd y prynhawn gyda chyflwyniad gan Gyfarwyddwyr Cyffredinol newydd WNO – Sarah Crabtree ac Adele Thomas – yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y cwmni a’u dymuniad i gysylltu â’r sector ehangach. Roedd yn gyffrous teimlo bod hyn efallai’n nodi dechrau ffordd newydd o weithio yng Nghymru.
Wrth gwrs mae’n bwysig rhannu safbwyntiau a phryderon, ond aethom ymlaen i drafod pwrpas OFW ac fe gytunwyd bod angen cydlynu ein hymdrechion i gyflwyno’r achos cryfaf posib dros gefnogaeth y llywodraeth i weithgarwch creadigol ledled Cymru. Fe soniwyd hefyd am rannu mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym myd opera ar draws y wlad. Mae’r cyfarfod nesaf o’r Grŵp Llywio wedi’i drefnu ar gyfer 1 Ebrill i symud y pethau hyn yn eu blaen ac i drafod sut i sicrhau bod OFW yn gallu gweithredu’n llawn yn y dyfodol.
Yn olaf, rwy’n falch iawn bod y syniad o benodi Cadeirydd fydd yn cylchdroi ar gyfer y cyfarfodydd cyffredinol wedi cael ei groesawu, ac y bydd Daniel Aguirre-Evans yn cadeirio’r digwyddiad nesaf.”