BLOG: Adlewyrchu ar Tuag Opera
Mae’r blog yma’n rhannu myfyrdodau Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Music Theatre Wales, ar ôl perfformiad Tuag Opera yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Wedi’i ysgrifennu yn ystod y dyddiau ar ôl y perfformiad, mae’n archwilio’r broses y tu ôl i Tuag Opera ac yn ystyried y dirwedd ehangach ar gyfer datblygu opera yng Nghymru a’r DU.
Ar ol gweld y chwe opera fer a grewyd yn ystod rhaglen Tuag Opera yn yr Eisteddfod, bues i’n meddwl am y broses – a’r dirwedd ehangach ar gyfer datblygu opera yng Nghymru a’r DU. Dwi wedi bod yn poeni ers tro am sut y gall opera symud ymlaen a chael ei gydnabod fel ffurf fynegiant gyfoes, gan weithio gyda straeon, syniadau a dulliau newydd, fel y mae theatr a ffurfiau perfformio eraill yn llwyddo i wneud.
Mae opera’n cyfuno llawer o ddisgyblaethau gwahanol, fel arfer ar raddfa fawr, ac felly efallai mai hi yw’r anoddaf i’w symud – ond rhaid iddi esblygu. Fel sefydliadau creadigol, dylem fod yn rhoi crewyr newydd yn ganolog i’n gwaith, ond nid dyna sut mae cwmnïau opera yn cael eu hadeiladu. Fel y dywedodd Llio Evans wrth drafod Tuag Opera, mae angen “focs tywod” – lle i’r rheini sydd wedi’u swyno gan adrodd straeon drwy gerddoriaeth allu chwarae a darganfod yr hyn y gall opera ei ysbrydoli.
Dros y 40 mlynedd diwethaf, dwi wedi gweld nifer o gynlluniau datblygu’n dod a mynd – o Almeida Opera a The Garden Venture, yr ENO Studio a Jerwood Opera yn Snape, drwy FIVE:15 Opera’r Alban a llawer o gynlluniau eraill, hyd at Buxton Shorts. Yn ystod fy 14 mlynedd fel Cyfarwyddwr yn sefydlu Operatoriet yn Norwy, cefnogon ni gyfansoddwyr ac awduron i archwilio opera, gan weithio ar dros 40 darn, 16 ohonynt wedi’u perfformio. Pam mae wedi bod mor anodd cynnal y gwaith sylfaenol hwn, heb sôn am adeiladu arno?
Yn MTW, darparodd ein Cynllun Opera Newydd Jerwood-MTW (2004–2009) lwybr i gyfansoddwyr newydd symud o weithdai archwiliadol i gynyrchiadau llawn. Ond gan ddibynnu ar un cyllidwr, ni fedrodd barhau, a bu’n rhaid i ni ganolbwyntio ar gomisiynu cyfansoddwyr profedig – gwaith cyffrous, ond heb wir ddatblygu’r ffurf gelfyddydol. Cynigiodd ein rhaglen Make an Aria flas o greu opera i dalent newydd, ond heb gamau dilynol, collwyd llawer o botensial.
Ers 2021, mae MTW wedi cymryd trywydd newydd – gwahodd crewyr beiddgar i ystyried opera fel cerbyd ar gyfer eu gweledigaeth, gan fod yn hyblyg ynghylch beth all opera fod: gweithiau digidol pum munud, darnau cymunedol 20 munud, genres cerddorol newydd, crewyr ifanc, a straeon y tu allan i’r canon Gorllewinol. Ein mantra yw: Peidiwch ag efelychu opera. Gwnewch hi’n eiddo i chi eich hun.
Tyfodd Tuag Opera o sgwrs gyda Tŷ Cerdd am y diffyg llwybr ar gyfer opera newydd yn y Gymraeg. Gwahoddon ni chwe chrewr cerdd a chwe awdur i archwilio’r ffurf, gan agor posibiliadau cerddorol a dramatig. Gofynnon ni hefyd: a allai gweithio yn y Gymraeg gynnig rhywbeth unigryw, fel yr oedd opera Eidaleg, Ffrangeg ac Eingl-Gymraeg unwaith yn ei wneud?
Yn yr Eisteddfod, dywedodd y gynulleidfa’r cwbl oedd angen ei ddweud: “Am amrywiaeth anhygoel o ddarnau. Roedden nhw i gyd mor wahanol!” Er ei bod yn hyfryd clywed hynny, mae’n dweud llawer bod amrywiaeth o’r fath yn cael ei gweld yn syndod mewn opera. Mae hyn yn tanlinellu’r angen am fwy o gyfleoedd fel Tuag Opera – gan gofleidio artistiaid o’r tu allan i’r llwybrau confensiynol, annog ffyrdd newydd o weithio, a dychmygu beth all ddod nesaf.
Mae wastad rhagor i’w wneud.







