Cyfle Comisiwn: Opera Celf Stryd
Mae Opera Celf Stryd yn ôl! Ar ôl yr holl gyffro o amgylch ein comisiynau diwethaf – Rahmat-Mercy-Tugaredd ac Out of Time – mae MTW yn gwahodd artistiaid o Gymru, ac artistiaid sy’n datblygu eu gwaith yng Nghymru, i gyflwyno syniadau beiddgar ar gyfer Opera Celf Stryd newydd sbon ar gyfer dangosiadau cyhoeddus yn Hydref 2026. Dyma opera wedi’i daflunio ar adeiladau neu ofodau trefol yn yr awyr agored, i’w brofi trwy glustffonau disgo distaw, ac wedi’i chreu i ddal sylw’r cyhoedd.
Rydym yn chwilio am operâu byr, bywiog a llawn mynegiant — doniol, satiraidd, dwys, pwerus — sy’n cofleidio estheteg celf stryd: gwaith graffeg, graffiti, animeiddio, neu dechnegau sgrin werdd, gyda thestun wedi’i integreiddio i’r delweddau. Gellir ysgrifennu’r gweithiau yn Gymraeg neu yn Saesneg (ac efallai mewn ieithoedd eraill), tua 10 munud o hyd, a rhaid cynnwys o leiaf un canwr opera — ond mae’r arddull, offeryniaeth ac unrhyw leisiau ychwanegol yn gwbl eich dewis chi.
Dewch fel tîm creadigol parod (cyfansoddwr, awdur/cyfarwyddwr, artist gweledol/animeiddiwr) neu gadewch i ni eich ymgysylltu ag eraill. Byddwn yn eich cefnogi trwy gydol y broses – gyda dramatwrgaeth, contractio perfformwyr, a threfnu recordio/ffilmio – tra byddwch chi’n arwain ar y cynhyrchu, y gyllideb a’r penderfyniadau artistig.
Barod i greu opera?
Anfonwch gynnig byr yn amlinellu eich stori, eich byd cerddorol a’ch iaith weledol.
Dyddiadau allweddol:
- Cyfarfodydd ymgynghori: 10 Tachwedd 2025 – 23 Ionawr 2026
- Dyddiad cau: 30 Ionawr 2026
- Penderfyniadau: 2 Mawrth 2026
- Fersiwn terfynol: 11 Medi 2026
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth llawn am ragor o fanylion a sut i wneud cais: Lawrlwytho Pecyn
Neu, cysylltwch â Michael McCarthy ar gyfer sgwrs gychwynnol: michael@musictheatre.wales
Gwnewch gais yma.
