Croeso i’r tîm!
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi penodiad Abena-Mintaah Mensah fel ein Cynhyrchydd Creadigol newydd. Bydd Abena yn cefnogi ein rhaglenni creadigol yn Butetown a Grangetown, gan ddod â phobl ynghyd ac annog potensial o fewn y cymunedau hyn. Ein nod yw grymuso pobl o bob oed a chefndir i ymuno â ni i archwilio beth all opera fod heddiw – fel cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, hwyluswyr a chrewyr. Dysgwch fwy am Abena a’i rôl yma.
Yn wreiddiol o Sblot, Caerdydd, mae Abena-Mintaah yn angerddol dros y celfyddydau a phopeth sy’n ymwneud â cherddoriaeth. Mae hi wrth ei bodd i fod yn ymuno â MTW fel ein Cynhyrchydd Cymunedol newydd, lle bydd hi’n cefnogi rhaglenni o waith creadigol MTW ym Mutetown a Grangetown.
Mae Abena wedi gweithio gyda phobl ifanc ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau artistig i helpu datblygu eu sgiliau a’u mynegiant creadigol. Fel rhan o TEAM Theatr Genedlaethol Cymru, bu’n gweithio gyda chymunedau ledled Cymru, gan gyfoethogi cymuned ThGC ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau.
Fel cerddor, mae Abena’n perfformio o dan yr enw Adjua – artist alt-RnB sy’n canu ac yn chwarae’r gitâr, ac sydd wedi bod yn creu cerddoriaeth ers 2021. Mae hi’n ysgrifennu ac yn cynhyrchu ei cherddoriaeth ei hun, gan dynnu ysbrydoliaeth o’i phrofiadau personol a’i chredoau ysbrydol. Y llynedd, enillodd Wobr Triskel yn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig – gwobr sy’n cael ei rhoi’n flynyddol i dri artist addawol o Gymru – ac eleni perfformiodd yn Glastonbury.
