Cyfleoedd Creadigol i Bobl Ifanc yn Nhrebiwt
Oes gen ti ddiddordeb arbfrofi â’ch creadigrwydd? Rydyn ni’n cynnig dwy raglen AM DDIM yn Nhrebiwt sy’n dod â cherddoriaeth a fideo ynghyd fel modd o fynegi eich hunain.
Mae Music Theatre Wales yn ail-ddychmygu opera drwy wahodd pobl greadigol o bob cefndir i’w siapio yn eu ffordd eu hunai. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau yn Nhrebiwt a Grangetown, gan greu a rhannu opera newydd yn Loudoun Square a Phafiliwn Grange, gan gynnwys The Jollof House Party Opera a The Trial of Dhegdheer.
Mae’r gweithdai hyn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw, gan greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc lleol.
Bydd pob sesiwn AM DDIM a darparir pob pryd bwyd.
Tua’r Dydodol: Trebiwt
16-25 oed
Cyfle i greu Opera Ddigidol sy’n cyfuno adrodd straeon, fideograffeg a cherddoriaeth. Mae’r prosiect yn dod â phobl ifanc niwroamrywiol, awtistig a/neu ag anableddau dysgu ynghyd â chyfranogwyr niwronodweddiadol i archwilio sgiliau newydd, datblygu syniadau a chreu gwaith gwreiddiol, gyda chefnogaeth timau creadigol a lles proffesiynol. Prosiect partneriaeth gyda Hijinx.
Bydd sesiynau blasu’n cael eu cynnal ledled De Caerdydd rhwng Medi a Rhagfyr 2026. Ewch i’r ddolen yn ein bio i ddod o hyd i sesiwn sy’n gweithio i chi.
Cynhelir Preswyliadau Creadigol yn ystod Gwanwyn a Haf 2027.
Clicia yma, cofrestra drwy’r ffurflen isod, neu ebostia abena@musictheatre.wales i drafod y profiad ymhellach.
Blynyddoedd ysgol 7-9
Cyfle i archwilio eich potensial creadigol gan ddefnyddio technegau digidol. Drwy brosiect hanner tymor tridiau, byddwch yn archwilio fideograffeg, creu cerddoriaeth ac adrodd straeon digidol, yn dysgu sgiliau creadigol newydd ac yn darganfod ffyrdd newydd o gydweithio. Dan arweiniad yr hwyluswyr creadigol Gavin Porter ac Ani Glass.
Cynhelir sesiynau yn ystod hanner tymor Gwanwyn 2027 yng Nghanolfan Diwylliant a’r Cyfryngau Loudoun yn Nhrebiwt.
