Digwyddiad: Classically Black
Kings Place, Llundain
Bydd Classically Black 2025 yn cymryd lle yn Kings Place ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025, ac rydym wrth ein bodd i fod yn cyflwyno The Jollof House Party Opera fel rhan o’r dathliad grymus hwn o ragoriaeth gan bobl Ddu a’r mwyafrif byd-eang ym myd cerddoriaeth glasurol.
Disgwyliwch dân, blas, a chreadigrwydd digyfaddawd wrth i The Jollof House Party Opera gyfuno opera, adrodd straeon ac egni Afrobeat mewn cynhyrchiad bywiog sy’n dod â’r diwylliant yn syth i’r neuadd gyngerdd. Mae’n feiddgar, mae’n Ddu, ac ni ddylid ei golli.
Wrth galon ein gwaith mae penderfyniad i agor opera i fwy o greadigrwydd – yn enwedig i’r rheiny sydd wedi’u hallgáu ohono yn y gorffennol. Rydym yn credu bod dyfodol opera yn dibynnu ar wahoddiad agored i artistiaid sy’n gallu dod ag straeon newydd, dulliau newydd o weithio a syniadau cerddorol ffres i’r ffurf gelfyddydol aml-ddisgyblaethol ac eang hon – sef adrodd straeon drwy gerddoriaeth. The Jollof House Party Opera yw’r darn perfformiad byw cyntaf a grëwyd gan MTW at y diben hwn, ac rydym wrth ein bodd i’w dod yn ôl a’i rannu gydag aelodau’r gynulleidfa a chyfranogwyr Classically Black, wedi’i gyflwyno gan Black Lives in Music. Mae Music Theatre Wales yn aelod balch o Black Lives in Music wrth inni ail-ddychmygu opera. Fel y dengys The Jollof House Party Opera, gall opera fod yn llawer mwy hyblyg o ran iaith gerddorol, y defnydd o ganu, y hyd (mae’r darn hwn yn para llai na 20 munud), a’r straeon y gall eu hadrodd.
Mae The Jollof House Party Opera wedi’i ysgrifennu a’i chyfansoddi gan Tumi Williams (sef Skunkadelic) ac fe’i cyd-grewyd yn wreiddiol gan Tumi Williams a Sita Thomas.
Yn awr yn ei hail flwyddyn, mae Classically Black, wedi’i gyflwyno gan Black Lives in Music fel rhan o’u 5ed pen-blwydd, yn ddiwrnod llawn perfformiadau, trafodaethau a thalent newydd – i gyd yn herio a llywio’r dyfodol i gerddoriaeth glasurol.
Rydym hefyd yn falch iawn o rannu’r diwrnod gyda’r Simmy Singh – feiolinydd, cydweithiwr, a chyn-artist Sinfonia Cymru – sy’n ymuno â chast disglair o gerddorion sy’n gwthio ffiniau cerddoriaeth glasurol.
Beth Sy’n Digwydd:
Sesiwn Rannu Gweithdy CYP
Dan arweiniad y cyfansoddwr Pete Letanka, gyda cherddorion ifanc o Music in Secondary Schools Trust.
Panel: Sisters Are Doing It For Themselves
Gyda Paulette Bayley, Amina Hussain, Amanda Baldwin, a Rianna Henriques – dathlu menywod sy’n arwain newid ym myd cerddoriaeth glasurol.
Gweithiau Newydd: O Hanesyddol i Hip-Hop
Yn cynnwys Simmy Singh, The Jollof House Party Opera, a Sabi Ensemble.
The Next Movement: Arddangosfa Sain Newydd
Ton ffres o dalent newydd a ddewiswyd drwy alwad genedlaethol agored.
Y Parti Wedyn: Dathliadau 5ed Pen-blwydd
Dan ofal DJ Spoony, gyda pherfformiadau byw gan Kele Le Roc, Lifford, MC Ranking, MC Viper, Thomas Jules, a Romina Johnson – dathliad UK Garage na fyddwch yn ei anghofio!
Mae tocynnau cynnar ar werth nawr drwy wefan Kings Place – defnyddiwch y cod EARLYBIRD i gael tocyn rhatach. Peidiwch â cholli’r cyfle.
