Ein Pigion: Eisteddfod Genedlaethol 2026
Mae’r Eisteddfod yn ôl, ac rydyn ni wedi dewis rhai o’r digwyddiadau cerddoriaeth, theatr, dawns a ffilm rydyn ni’n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw dros yr wythnos yn Sir Benfro.
Mae opera’n rhan o’r rhaglen eleni mewn sawl ffurf. Rydyn ni’n arbennig o falch o weld Tuag Opera, ein prosiect ar y cyd â Tŷ Cerdd, yn dychwelyd i’r Eisteddfod am yr ail flwyddyn. Rhwng 2024 a 2025, bu Music Theatre Wales a Tŷ Cerdd yn cynnal rhaglen fentora i chwe chyfansoddwr a chwe llenor archwilio’r broses o greu opera newydd yn y Gymraeg. Ein nod oedd sbarduno trafodaeth ehangach ac annog mwy o artistiaid a gwneuthurwyr opera i ymwneud ag opera Gymraeg newydd, ac roedden ni wrth ein bodd pan gynigiodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyflwyno perfformiad cyngerdd o’r chwe darn operatig a grewyd drwy’r gweithdai.
Yn dilyn llwyddiant y perfformiad hwnnw a’r ymateb gwych gan y gynulleidfa, mae Tŷ Cerdd wedi gallu cynnig cyfle i dri o’r parau cyfansoddwr-llenydd ddatblygu eu darnau ymhellach ar gyfer ensemble bychan. Bydd y gweithiau gan Nathan James Dearden, Lowri Mair Jones a Sarah Lianne Lewis a’u partneriaid libreto yn cael eu perfformio’n fyw yn Y Stiwdio am 19:30 ddydd Gwener 7 Awst.
Bydd artistiaid Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn perfformio yn Encore, tra bydd OPRA Cymru yn trafod sut y gall opera a’r celfyddydau weithio gyda chymunedau. Mae Tanau’r Lloer, ffilm opera Gymraeg wedi’i hysbrydoli gan Un Nos Ola Leuad, yn ychwanegu elfen opera unigryw arall at yr arlwy.
O sioeau cerdd a theatr stryd i jas, dawns, cerddoriaeth werin a pherfformiadau newydd, dyma ein pigion ni o Eisteddfod y Garreg Las:
Sadwrn 1 Awst
13:00 – Swyn Tir y Garreg Las — Y Tebot Hud
Sioe arallfydol gyda Catrin Finch a Carys Eleri, sy’n plethu telyn, tân, stori a chân i’ch tywys i hanes a hud Dyfed.
13:30 – Cofio John Weston Thomas — Tŷ Gwerin
Trafodaeth am John Weston Thomas, y gwneuthurwr telynau blaengar o Dreletert, gyda chyfle i weld a chlywed rhai o’i offerynnau.
14:00 – Tŷ Unnos — Sinemaes
Ffilm ddogfen wedi’i hadrodd fel stori dylwyth teg, drwy lygaid y plant a fu’n ymweld â Phenrhos ac sy’n myfyrio ar eu hatgofion a gwaddol y lle.
19:30 – Sefyll ar y Sgwâr — Y Pafiliwn
Sioe gerdd newydd wedi’i seilio ar ganeuon Ail Symudiad, gyda Chôr Eisteddfod y Garreg Las yn rhan o’r cynhyrchiad.
19:30 – Blodeugerdd — Encore
Prosiect dan arweiniad Tomos Williams sy’n ail-ddychmygu traddodiadau gwerin Cymru drwy jas cyfoes, gyda rhai o gerddorion jas mwyaf blaenllaw Cymru.
Sul 2 Awst
12:15 – Sonant — Encore
Mae’r ddeuawd biano Siân James a Sioned Webb yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol wedi’i hysbrydoli gan alawon traddodiadol Cymreig.
13:00 – Swyn Tir y Garreg Las — Y Tebot Hud
Sioe arallfydol gyda Catrin Finch a Carys Eleri, sy’n plethu telyn, tân, stori a chân i’ch tywys i hanes a hud Dyfed.
15:00 – Talwrn y Partïon Gwerin — Tŷ Gwerin
Cystadleuaeth fywiog lle mae partïon gwerin yn cyflwyno eu canu a’u cerddoriaeth gerbron panel o feirniaid.
17:00 – Atgof: Terrence Higgins — Mas ar y Maes
Digwyddiad gyda Chôr Meibion Hoyw De Cymru sy’n coffáu bywyd a gwaddol Terry Higgins o Hwlffordd ac yn dathlu gwaith Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.
Llun 3 Awst
12:00 – Y Gadair — Theatr Stryd a Dawns
Perfformiad dawns a theatr sy’n cymharu’r seremoni o gadeirio’r Bardd â phrofiadau pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.
16:00 – Paallam Arts: Rhwng y bryniau a’r môr – deialog o bellter a chân — Theatr Stryd a Dawns
Gwaith dawns a cherddoriaeth sy’n dilyn dau unigolyn o gefndiroedd gwahanol wrth iddynt archwilio hunaniaeth, perthyn a’r syniad o gartref yng Nghymru.
16:30 – Gweithdy Ysgoloriaeth Towyn Roberts — Y Stiwdio
Sesiwn lle mae cystadleuwyr yr ysgoloriaeth glasurol yn gweithio gyda’r panel beirniadu i ddatblygu eu sgiliau perfformio a’u gyrfaoedd.
19:30 – Sefyll ar y Sgwâr — Y Pafiliwn
Sioe gerdd newydd wedi’i seilio ar ganeuon Ail Symudiad, gyda Chôr Eisteddfod y Garreg Las yn rhan o’r cynhyrchiad.
21:15 – Welsh of the West End × Y Band Mawr — Llwyfan y Maes
Noson fawr o glasuron pop Cymreig wedi’u hail-ddychmygu drwy leisiau Welsh of the West End a sain egnïol Y Band Mawr.
Mawrth 4 Awst
13:30 – Ysgoloriaeth Nansi Richards — Encore
Datganiad ar y delyn gan Yasmin Ceri Richards, enillydd Ysgoloriaeth Nansi Richards 2026.
16:00 – Tanau’r Lloer — Sinemaes
Ffilm opera Gymraeg wedi’i hysbrydoli gan Un Nos Ola Leuad, sy’n plethu galar, cof ac iechyd meddwl â cherddoriaeth Gareth Glyn.
Mercher 5 Awst
15:30 – Gweithdy Sioe Gerdd — Y Stiwdio
Gweithdy ymarferol sy’n archwilio’r sgiliau canu, actio a symud sydd wrth galon perfformio mewn sioe gerdd.
17:00 – Natur: Drama gerddorol i blant
Drama gerddorol newydd gan Morgan Elwy ac Arad Goch sy’n archwilio ein perthynas â natur, llygredd a’r hyn y gallwn ei wneud i helpu’r blaned.
17:15 – Stomp Werin 1176 — Tŷ Gwerin
Dathliad egnïol o gerddoriaeth a dawns werin sy’n cysylltu’r Eisteddfod heddiw â’r ŵyl gyntaf a gofnodwyd yn Aberteifi yn 1176.
17:45 – AMgen: Gwenno Morgan — Encore
Sesiwn gerddorol gyda’r pianydd a’r cyfansoddwr Gwenno Morgan, sy’n cyfuno dylanwadau clasurol, jas, gwerin a cherddoriaeth sinematig.
20:00 – Frân Wen: Wythnos yng Nghymru Fydd — Caffi Maes B
Cipolwg ar addasiad llwyfan newydd Frân Wen o nofel eiconig Islwyn Ffowc Elis, sy’n archwilio dyfodol posibl Cymru.
Iau 6 Awst
13:00 – Swyn Tir y Garreg Las — Y Tebot Hud
Sioe arallfydol gyda Catrin Finch a Carys Eleri, sy’n plethu telyn, tân, stori a chân i’ch tywys i hanes a hud Dyfed.
16:30 – Atgof o’r Sêr — Y Stiwdio
Perfformiad sy’n nodi 25 mlynedd ers cylch caneuon Robat Arwyn ar gyfer côr cymysg, unawdwyr a phiano, a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 2001.
17:00 – Gwrach-od — Theatr Stryd a Dawns
Darn dawns awyr agored wedi’i ysbrydoli gan Ceridwen, Blodeuwedd ac Arianrhod, gyda cherddoriaeth fyw gan HMS Morris a gwahoddiad i’r gynulleidfa ymuno yn y ddawns.
20:00 – Frân Wen: Theatr Unnos — Caffi Maes B
Canlyniad her greadigol 24 awr lle mae artistiaid yn creu darn theatr newydd sbon ac yn ei gyflwyno i gynulleidfa’r noson ganlynol.
Gwener 7 Awst
17:30 – Arad Goch: Beca’n Galw — Theatr Stryd a Dawns
Cynhyrchiad theatr stryd cyfranogol sy’n ail-ddychmygu hanes a chwedloniaeth Merched Beca mewn ffordd fywiog a chyfoes.
19:00 – Ar y Cae — Mas ar y Maes
Sioe gerdd gan Nia Morais a Leila Navabi am Non a Jade, dwy lesbiad sydd ar ochrau gwahanol dadl gymunedol ond sy’n cael eu tynnu at ei gilydd.
19:30 – Tuag Opera — Y Stiwdio
Tri darn opera Gymraeg newydd sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod pellach o ddatblygu, gan Nathan James Dearden, Lowri Mair Jones a Sarah Lianne Lewis a’u partneriaid libreto.
20:00 – Gwrach-od — Theatr Stryd a Dawns
Darn dawns awyr agored wedi’i ysbrydoli gan Ceridwen, Blodeuwedd ac Arianrhod, gyda cherddoriaeth fyw gan HMS Morris a gwahoddiad i’r gynulleidfa ymuno yn y ddawns.
Sadwrn 8 Awst
11:00 – Tanau’r Lloer — Sinemaes
Ffilm opera Gymraeg wedi’i hysbrydoli gan Un Nos Ola Leuad, sy’n plethu galar, cof ac iechyd meddwl â cherddoriaeth Gareth Glyn.
12:15 – Opera Cenedlaethol Cymru — Encore
Cyngerdd byr gan artistiaid Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnig blas ar leisiau a repertoire operatig y cwmni.
14:00 – Theatr Byd Bychan: Pleth — Theatr Stryd a Dawns
Taith i goedwig law dymherus Gymreig sy’n defnyddio pypedwaith, symud, synau Foley ac Iaith Arwyddion Prydain i archwilio ein cysylltiad â byd natur.
14:30 – Y Celfyddydau a’r Gymuned – OPRA Cymru — Cymdeithasau 2
Sgwrs am sut y gall y celfyddydau weithio gyda chymunedau, gan dynnu ar brofiad OPRA Cymru o wneud opera Gymraeg yn hygyrch mewn ysgolion, neuaddau pentref a lleoliadau ledled Cymru.
15:00 – Medal y Cyfansoddwr — Y Stiwdio
Perfformiadau cyntaf chwe gwaith corawl newydd ar eiriau Waldo Williams, gan Andrew Cusworth, Claire Victoria Roberts a Gwenno Morgan, cyn cyflwyno Medal y Cyfansoddwr yn ddiweddarach yn y Pafiliwn.
