Gweithdy creadigol creu cerddoriaeth a pherfformio am ddim
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth gyflawn
Dy gyfle i fod yn rhan o brosiect creadigol cyffrous i bobl 16-25 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Rydym yn cynnig cyfres o sesiynau blasu ar gyfer ein prosiect Cyfeiriadau’r Dyfodol, cyfle i bobl ifanc weithio gyda’i gilydd i greu eu hopera digidol a ffilm eu hunain, a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci. Mae’r sesiynau blasu yn gyfle i roi cynnig ar rai gweithgareddau perfformio i roi syniad i chi o’r hyn y bydd y prosiect yn ei gynnwys. Nod y prosiect yw dod â phobl ifanc niwronodweddiadol, niwroamrywiol ac sydd ag anabledd dysgu at ei gilydd i gynnig eu safbwyntiau eu hunain i’r broses greadigol.
Bydd y sesiynau blasu’n cael eu cynnal gan Jain Boon, Cyfarwyddwr a Dramatwrg gyda blynyddoedd o brofiad mewn hwyluso prosiectau creadigol i bobl ifanc.
Mae’r sesiynau blasu ar gael i ysgolion (gan gynnwys ysgolion AAA), clybiau ieuenctid, clybiau drama, grwpiau cerddorol a grwpiau cymunedol.
I archebu lle ar y gweithdy am ddim, ebostia: Rheolwr y Prosiect, Emma Edwards