Gofod i Drafod, Cydweithio a Newid
Mae Fforwm Opera Cymru yn gyfarfod agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol opera yng Nghymru. Mae’r sector opera yn wynebu heriau sylweddol, ond mae hwn hefyd yn gyfnod o gyfle. Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i gryfhau’r diwydiant, cefnogi artistiaid a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd? Sut allwn ni eirioli dros opera a sicrhau ei ddyfodol ledled Cymru? Dyma’r cwestiynau mawr, ac mae angen cynifer o leisiau â phosibl i lunio’r atebion.
Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn adeiladu ar drafodaethau blaenorol am gydweithio, datblygu cynulleidfaoedd ac arloesi creadigol, tra’n diffinio pwrpas ac amcanion Fforwm Opera Cymru wrth symud ymlaen.
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 1 Mawrth rhwng 2yp a 5yp yn Ystafell Ymarfer WNO (Canolfan Mileniwm Cymru)