Gweithdy Cerddoriaeth a Drama Am Ddim i Bobl 16-25 oed yn Rhondda Cynon Taf
Bydd y sesiwn am ddim yma ar gael i bawb o bob gallu, ac yn cynnig cyfle i chi i brofi creu darn operatic eich hun. Dan arweiniad y dramatwrg Jain Boon, a’r crëwr cerddoriaeth, Tom Elstrob, dyma gyfle i archwilio creu cerddoriaeth a drama cyn y prif ddigwyddiad y flwyddyn nesaf.
Mae Music Theatre Wales yn falch o gyflwyno rhifyn 2024-25 o’n prosiect theatr gerdd digidol, Future Directions, yn Rhondda Cynon Taf, sy’n galluogi pobl ifanc 16-25 oed i adrodd eu straeon trwy gerddoriaeth a drama.
Yn ystod y prosiect, bydd cyfle i ysgrifennu, cyfarwyddo a ffilmio eich darn theatr gerdd ddigidol eich hun, a fydd yn cael ei gyflwyno mewn première yn Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci ym mis Medi 2025 fel rhan o ganon gwaith Music Theatre Wales.
Mae tocynau am ddim ond archebwch le i osgoi siom. Archebwch docyn am ddim yma.