Michael yng Nghynhadledd Busnes Opera
Mis diwethaf, ymunodd ein Cyfarwyddwr, Michael McCarthy, â Chynhadledd Busnes Opera, a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Opera Laidlaw, i ystyried a thrafod dyfodol opera. Roedd yn gyfle i syniadau syniadau ffres a chyffrous gan gynulleidfaoedd, anerchiadau beiddgar gan siaradwyr allweddol, a grwpiau cydweithredol yn gweithio gyda’i gilydd.
Ymunodd Sarah Crabtree (Royal Ballet and Opera), y cyfansoddwr Renell Shaw, a’r cyfarwyddwr Mathilda du Tillieul McNicol â Michael i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf heriol sy’n wynebu opera heddiw:
- Ble gallwn ddod o hyd i arloesedd mewn adrodd straeon drwy gerddoriaeth?
- Sut gall partneriaethau newydd annog prosiectau beiddgar sy’n gwthio ffiniau?
- Pa reolau traddodiadol sydd angen eu torri i greu dyfodol mwy cynaliadwy ac amrywiol i opera?
Yn ystod y digwyddiad, eisteddodd Michael gyda Princess Agina i dreiddio’n ddyfnach i’r cwestiynau hyn, gan sbarduno trafodaethau ysgogol am sut y gall opera esblygu trwy gofleidio lleisiau a safbwyntiau amrywiol, herio normau traddodiadol, a chysylltu’n ddyfnach â chynulleidfaoedd cyfoes.
Mae gweledigaeth MTW ar gyfer opera mor ysbrydoledig ag erioed: byd lle mae ffiniau opera nid yn unig yn cael eu gwthio ond yn cael eu hail-lunio.