Music Theatre Wales a Sinfonia Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd Gyffrous
Mae Music Theatre Wales a Sinfonia Cymru yn hynod gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd sydd â’r nod o fanteisio ar gynulleidfaoedd ledled Cymru, cyfoethogi’r cymunedau rydym yn ymgysylltu â nhw, cefnogi’r artistiaid rydym yn gweithio gyda nhw, a hyrwyddo datblygiad perfformio cerddoriaeth ac opera yng Nghymru.
Gan lansio gyda chynhyrchiad newydd, Bwystfilod Aflan , yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 ar Awst 5ed, bydd Sinfonia Cymru a MTW yn gweithio gyda’n gilydd i gynnig ystod eang o gyfleoedd cyffrous i gynulleidfaoedd yng Nghymru i ddarganfod talent newydd ac archwilio syniadau arloesol.
Mae MTW wedi ymrwymo i ail-ddychmygu opera fel ffurf celf gyfoes, tra bod Sinfonia Cymru yn dod â dull cyffrous a deinamig o berfformio cerddoriaeth glasurol drwy weithio gyda thalent ifanc ragorol a rhaglennu arloesol. Trwy gyfuno ein cryfderau ar draws amryw o brosiectau, gallwn gyflawni mwy i’n cynulleidfaoedd ac artistiaid. Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cydweithio ar brosiectau pryd bynnag y bydd o fudd i’r gwaith rydym yn ei greu. Er nad yw pob cynhyrchiad MTW yn galw am gerddorion clasurol, bydd y rhai sydd yn cynnwys Sinfonia Cymru.
Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i newid canfyddiadau o opera a theatr gerdd, gan adeiladu ar hanes cyfoethog y ddau sefydliad a’r traddodiadau rydym yn dod ohonynt, a chydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr i gyfeiriadau newydd a chyffrous.
Mae Sinfonia Cymru a MTW eisoes wedi cydweithio ar opera ddigidol fer GRIEF gan Connor Allen a Francesca Amewudah-Rivers, a enillodd wobr yn Focus Wales yn ddiweddar, a bydd yr ensemble hefyd yn ymddangos yn un o operâu celf stryd MTW ym mis Hydref 2024. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun Cyfansoddwyr Ifanc ar y cyd ar gyfer Rhondda Cynon Taf, sy’n rhan o gynllun preswyl ehangach yn yr ardal a fydd yn rhedeg tan fis Medi 2025. Rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o waith arloesol gyda’n gilydd yn y dyfodol.
Dywedodd Caroline Tress, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru:
“Mae gan Music Theatre Wales hanes hir a llwyddiannus o ganfod, meithrin a rhoi llwyfan i’r dalent fwyaf anghyffredin mewn creu cerddoriaeth newydd a storiâu. Mae eu huchelgais i herio’r norm ac anwybyddu ffiniau artistig wrth hyrwyddo lleisiau newydd mewn opera yn ddigyffelyb yng Nghymru a’r DU. Mae Sinfonia Cymru yn gyffrous i ddechrau ar y siwrnai hon gyda MTW, i greu storiâu cerddorol newydd sy’n ysbrydoli, yn cynrychioli ac yn bwysig i’r cymunedau rydym yn teithio iddynt yng Nghymru.”
Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Music Theatre Wales:
“Mae’r egni, y cyffro, ac ansawdd y perfformiadau y mae Sinfonia Cymru yn eu rhoi i bopeth y maent yn ei gyflwyno, a’r creadigrwydd y maent yn ei annog a’i gefnogi ar draws eu chwaraewyr anhygoel, yn cyd-fynd yn berffaith ag ymchwil ddi-baid MTW i opera fel ffurf o fynegiant i bawb ac unrhyw un. Rydym yn ail-ddychmygu opera fel adrodd straeon mewn cerddoriaeth ar gyfer nawr. Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Sinfonia Cymru wrth i ni ganolbwyntio’n fwyfwy ar weithio yng Nghymru a gydag artistiaid Cymreig, ac wrth i ni barhau i ddod â syniadau a ffyrdd newydd o greu opera gyda chymuned eang a chynhwysol o artistiaid.”
NB: Mae Bwystfilod Aflan yn berfformiad theatr gerdd a symudiad yn y Gymraeg wedi’i gyd-gynhyrchu gan Music Theatre Wales, Prifysgol Aberystwyth a’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda cherddoriaeth gan Conor Mitchell, cyfarwyddyd a dramatwrgaeth gan Jac Ifan Moore, a pherfformiadau gan Elgan Llŷr Thomas ac Eddie Ladd a Sinfonia Cymru. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 5 Awst ac yn teithio i Gaerdydd, Aberteifi, Aberystwyth, a Wrecsam ym mis Hydref.