Music Theatre Wales yn derbyn £100,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
Mae Music Theatre Wales yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn derbyn grant o £100,000 gan Gronfa Pen-blwydd 30 Mlynedd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Nod Music Theatre Wales (MTW) yw rhoi bywyd newydd i opera, gan ei chyflwyno fel ffordd o adrodd straeon drwy gerddoriaeth sy’n cysylltu â’r byd o’n cwmpas. Maent yn gweithio gydag artistiaid sy’n dod â straeon newydd i opera, gan danio grym a brwdfrydedd y ffurf ar gyfer cynulleidfa ehangach.
Mae’r grant hwn yn un o 11 o wobrau sy’n cael eu darparu drwy Gronfa Pen-blwydd 30 Mlynedd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Caiff y grant ei roi i MTW i gefnogi datblygu a chynhyrchu dau brosiect cwbl newydd ar y cyd â Britten Pears Arts a Glyndebourne yn 2027.
Bydd manylion pellach am y ddau brosiect newydd hyn yn cael eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
Lansiwyd y Gronfa Arbennig i nodi pen-blwydd y Sefydliad yn 30 oed ac i ddathlu arloesedd, rhagoriaeth, mynegiant creadigol a chrefft adrodd straeon – boed hynny drwy gerddoriaeth, opera, perfformio, celf weledol, arddangosfeydd neu’r gair ysgrifenedig.
Gwahoddwyd ceisiadau gan sefydliadau celfyddydol i gyflwyno prosiectau uchelgeisiol, arloesol ac amlwg i helpu pobl i werthfawrogi’r posibiliadau diddiwedd y gall y celfyddydau eu cynnig.
Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo yn ein cais i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston i gael y gefnogaeth hon, a fydd yn ein galluogi i barhau i greu profiadau opera eithriadol i gynulleidfaoedd yn y dyfodol. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i dîm Colwinston. Mae’n hynod o galonogol cael cefnogaeth o’r fath yn y cyfnod heriol hwn wrth i ni edrych tua dyfodol y ffurf gelfyddydol rydym yn ei charu. Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau’r cydweithrediad gyda Britten Pears Arts a Glyndebourne ac edrychwn ymlaen at fynd ati i wireddu’r cynlluniau.”
Dywedodd Mathew Prichard CBE, Sylfaenydd a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston:
“Mae Ymddiriedolaeth Colwinston yn falch iawn o ddathlu 30 mlynedd o weithio gyda llawer o sefydliadau celfyddydol safonol ar draws y DU drwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i gefnogi cydweithrediad strategol newydd a datblygiad opera newydd gan Music Theatre Wales ar y cyd â Britten Pears Arts a Glyndebourne.”
“I ddathlu pen-blwydd y Sefydliad yn 30 oed ac i nodi mwy na 30,000 o berfformiadau The Mousetrap ers ei hagoriad ar 8 Mehefin 1952, roeddem eisiau dathlu mynegiant creadigol a’r grefft o adrodd straeon – drwy gerddoriaeth, opera, perfformio, celf weledol, arddangosfeydd neu’r gair ysgrifenedig. Lansiodd yr Ymddiriedolaeth y gronfa arbennig hon o £1,000,000 i ddathlu arloesedd a rhagoriaeth yn y Celfyddydau, ac i gefnogi prosiectau sydd wedi’u cynllunio i gynnig effaith a mwynhad eithaf i gynulleidfaoedd.”
“Treuliodd fy Mam-gu ei hoes yn cael ei swyno gan y Celfyddydau. Ysgrifennai i ddiddanu ac roedd wrth ei bodd yn cael ei diddanu gan gymaint o ffurfiau celf wahanol. Rwyf yn parhau’n ddiolchgar i’r holl ymarferwyr Celfyddydau sy’n parhau i ddod â’i gwaith yn fyw ac sydd wedi galluogi Ymddiriedolaeth Colwinston i fod yn rhan o brosiectau y credaf fyddai wedi bod yn agos at ei chalon. Fy uchelgais yw y bydd y gronfa pen-blwydd yn parhau i annog hyn i ddigwydd.”
